En

Mynediad i Addysg Uwch
(Llwybr at Radd neu Brifysgol)

Lle bynnag y'ch bod wedi cyrraedd yn eich bywyd, mae ein cyrsiau llwybr at radd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cyflawni eu potensial.

Mae gradd prifysgol yn gyraeddadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol.

Gyda chyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, gallwch ddewis o amrywiaeth o lwybrau i’ch arwain chi at eich cwrs gradd dewisol gan eich rhoi chi ar ben ffordd i lwyddo a sicrhau eich swydd ddelfrydol.

Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i astudio a’r technegau gwahanol y byddwch eu hangen i fod yn fyfyriwr llwyddiannus. Mae cynnwys y cwrs wedi ei ddylunio i sicrhau eich bod chi’n gymwys i astudio yn y brifysgol.

Mae sawl un yn bryderus wrth gychwyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch, yn enwedig os nad ydynt wedi bod mewn dosbarth ers peth amser. Ond peidiwch â phoeni; ni fyddwn yn holi cwestiynau ar bethau nad ydych yn gyfarwydd â nhw.

Rydym ni’n gwybod bod gennych chi, fel oedolyn, gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaeth, boed hynny’n ymwneud â magu plant, gofalu am eich teulu, neu ennill arian i dalu’r biliau. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o ymrwymiadau eraill, felly maen nhw’n garedig, yn gefnogol ac yn hyblyg. Efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch helpu gyda chostau astudio hyd yn oed.

Er bydd rhai agweddau o’r cwrs yn heriol, prif bwrpas cwrs Mynediad i Addysg Uwch ydi’ch helpu chi i fod yn llwyddiannus. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo chi i ddatblygu popeth y byddwch ei angen ar gyfer y brifysgol, heb unrhyw ragdybiaethau am eich profiad.

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Cyrsiau Mynediad Llawn Amser

11 cwrs ar gael

Roeddwn i eisiau datblygu fy astudiaethau er mwyn gallu mynychu’r brifysgol i fod yn barafeddyg. Mae’r Cwrs Mynediad yn crynhoi dwy flynedd o gwrs Lefel A i gyfnod o flwyddyn, fel cwrs carlam. Rydych chi’n dysgu llawer am amrywiaeth eang o fodiwlau, gan ennill profiad a’r wybodaeth i ddatblygu’ch astudiaethau a gwella’ch hun.

Grace Long
Mynediad i Nyrsio, Meddygaeth a Gofal Iechyd

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau