En

Llwyddo i gael lle yn un o’r prifysgolion gorau: Stori Hussain


7 Tachwedd 2022

Os ydych â’ch bryd ar fynd i’r brifysgol, gallwch wneud hynny yn Coleg Gwent!

Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio yn rhai o brifysgolion gorau Ymddiriedolaeth Sutton a Grŵp Russel yn y Deyrnas Unedig. Felly, os ydych eisiau astudio mewn prifysgol dda dafliad carreg o gartref, neu rydych eisiau bod yn fyfyriwr yn yr enwog Ox-Bridge, gallwch wireddu’r freuddwyd honno.

Mae’r coleg yn cynnig llawer mwy na chyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau’n unig. Mae hefyd yn lle gwych i astudio cyrsiau Safon Uwch, lle gallwch gyflawni’r graddau rydych eu hangen i fynd i’r brifysgol Gyda diolch i’n haddysg lewyrchus a chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn ogystal â llu o gyfleoedd a phrofiadau allgyrsiol, mae dros 80% o’n myfyrwyr Safon Uwch yn mynd ymlaen i wneud astudiaeth uwch mewn prifysgol neu yn Coleg Gwent.

Cyflawnasom Cyfradd lwyddo 100% mewn 45 pwnc Safon Uwch yn 2022, a chyrsiau Safon Uwch yw’r llwybr mwyaf traddodiadol at astudio yn y brifysgol. Ond nid dyma’r unig opsiwn sydd ar gael. Wyddoch chi fod ein cyrsiau galwedigaethol BTEC a lefel 3 hefyd yn cynnwys pwyntiau UCAS, ac fe’i derbynnir ar gyfer mynediad i brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig hefyd? Felly, os ydych yn ffafrio arddull ddysgu ymarferol, mae’r coleg yn ddewis gwych er mwyn cael y graddau sydd eu hangen arnoch i wneud cais i’r brifysgol.

Felly, pa un ai eich bod eisiau bod yn filfeddyg, bargyfreithiwr, llawfeddyg, nei beiriannydd; dewch o hyd i’r cwrs cywir ar eich cyfer chi yn Coleg Gwent er mwyn mynd i’r brifysgol.

Dewiswch eich cyrsiau Safon Uwch

Cyrraedd y sêr

Llwyddodd Hussain i gael ei dderbyn i Brifysgol Caergrawnt i astudio Peirianneg Awyrofod ar ôl cwblhau cyrsiau Safon Uwch ar Gampws Crosskeys. Dewisodd Coleg Gwent oherwydd bod gennym enw da o ran darparu cyrsiau Safon Uwch. Cafodd dair gradd A* mewn Mathemateg, Ffiseg a Chemeg. Dysgwch sut wnaeth Coleg Gwent helpu Hussain i gyrraedd y sêr:

“Cyn dechrau yn y coleg, nid oeddwn wedi bod mewn addysg ers peth amser. Felly, roeddwn yn poeni am fod yn wahanol ac na fyddwn yn gallu ymdopi â gofynion cyrsiau Safon Uwch o gymharu ag unigolion oedd newydd gwblhau eu cymwysterau TGAU. Gwnaeth y system diwtorial fy helpu i setlo a chadw trefn ar fy ngwaith.

Rhoddodd y coleg fynediad am ddim i mi i’r holl nodiadau cwrs ac adnoddau ychwanegol ar-lein hefyd. Roedd hyn yn hanfodol gan fy mod yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith dysgu ac adolygu y tu allan i’r dosbarth. Roedd yr amgylchedd yn gyfforddus a hamddenol, ond yn llawn ffocws pan fo angen, ac roeddwn yn hoff iawn o hynny, ac yn gallu ffynnu.

Astudio yn Coleg Gwent oedd un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed! Mae’r cymorth a’r parch a geir gan athrawon heb ei ail; mae’r cyfleusterau’n wych; ac mae’r bobl rydych yn cwrdd â nhw yn anhygoel. Nid oes llawer o bobl yn gwybod bod nifer o gyrsiau eraill ar gael yn y coleg, nid Safon Uwch a BTEC yn unig. Maent yn cynnwys rhaglenni lefel uwch megis HNDs a HNCs. Felly mae croeso i bawb o bob gallu yno, nid unigolion sy’n serennu’n academaidd yn unig.

Un diwrnod, rwy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant peirianneg awyrofod ym maes mecaneg orbitol a llong ofod, a chyfrannu at ymchwil enfawr yno. Mae’r coleg wedi fy helpu drwy ddarparu’r addysg a’r cymwysterau roeddwn eu hangen i ddilyn yr yrfa hon. Rwyf wedi datblygu llawer o sgiliau wrth gwblhau fy nghymwysterau Safon Uwch hefyd, megis rheoli amser, gweithio mewn tîm, a sgiliau rhyngweithio.”

 

Dilynwch esiampl Hussain, a chyflawni’r graddau hanfodol er mwyn LLWYDDO i gael lle mewn prifysgol gyda Coleg Gwent.

Dewch i’n digwyddiad agored nesaf i daro golwg ar ein cyrsiau, cwrdd â’n tiwtoriaid, trafod eich opsiynau a chael blas ar ein gwasanaethau cymorth. Gwnewch gais nawr!

Hussain

Astudiwch gyrsiau Safon Uwch yn Coleg Gwent a Llwyddo i gael y graddau i fynd i’r brifysgol!