Y ffordd hyblyg o ennill y Lefelau A sydd eu hangen arnoch!
Wrth ddewis astudio ar gwrs rhan-amser Safon Uwch gyda Coleg Gwent, mae ystod eang o bynciau ar gael i chi. O Saesneg a Hanes i’r Cyfryngau a Ffotograffiaeth, gallwn ni gynnig cwrs i gyd-fynd â phob maes diddordeb.
Beth bynnag yw’ch rheswm am astudio, os oes angen pwnc Safon Uwch penodol arnoch chi er mwyn cyflwyno cais ar gyfer eich cwrs delfrydol yn y brifysgol, neu os yw’n rhywbeth rydych chi bob amser wedi dymuno ei wneud, mae ein cyrsiau rhan-amser Safon Uwch yn cynnig ffordd hyblyg o astudio.
Buaswn yn argymell Coleg Gwent am yr amrywiaeth o gyfleoedd a chyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn eich datblygu ymhellach. Mae’r darlithwyr yn anhygoel – gallwch ddod i’w hadnabod ar sail un-i-un a datblygu a thyfu fel person. Gallwch lwyddo yn eich arholiadau yma hefyd, oherwydd mae’r cymorth ar gael yma.
Christina Williams
Astudiaethau Busnes UG
Dal ddim yn siŵr os yw Lefel A ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr