Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o Wleidyddiaeth a'r berthynas rhwng syniadau, sefydliadau a phrosesau gwleidyddol yng Nghymru fodern a thu hwnt iddi, strwythurau awdurdod a phwer yn system wleidyddol Cymru a'r Deyrnas Unedig a sut gall y rhain fod yn wahanol i systemau gwleidyddol eraill, yn arbennig y rheiny yn yr Unol Daleithiau.
...ydych chi'n hoffi cael y newyddion diweddaraf am wleidyddiaeth
...ydych chi am ddysgu sut mae systemau gwleidyddol yn gweithio
...ydych chi am ennill gyrfa yn y meysydd canlynol: Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, y Gyfraith, Gwasanaethau Cyhoeddus, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau
...oes diddordeb gennych mewn dilyn llwybr y Dyniaethau, llwybr y Gyfraith neu lwybr y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae'r Lefel UG yn cynnwys dau fodiwl sy'n canolbwyntio ar Lywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru fodern a'i chyd-destun o fewn y DU.
- Uned 1: Llywodraeth yng Nghymru a'r DU
- Uned 2: Byw a chymryd rhan mewn democratiaeth
Mae'r Lefel A yn cynnwys yr unedau UG ynghyd â dwy uned arall i’w hastudio ar lefel uwch.
- Uned 3: Cysyniadau a themâu gwleidyddol
- Uned 4: Llywodraeth a gwleidyddiaeth yr UDA
Byddwch yn cael eich asesu drwy arholiadau allanol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau asesiadau mewnol drwy gydol y flwyddyn. Ar ôl gorffen, byddwch yn ennill:
- Lefel UG mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
- Lefel A mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dadleuon gwleidyddol a chyfweliadau gyda'r cyfryngau lleol a chenedlaethol ar faterion cyfoes.
Mae'n bwysig eich bod yn holgar ac yn chwilfrydig, gyda diddordeb mewn gwleidyddiaeth a materion cyfoes.
Mae gan fyfyrwyr sydd â Lefel UG neu Lefel A mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth fynediad at ystod eang o gyfleoedd gyrfaol ac addysgol posib mewn meysydd megis Busnes, Economeg, y Gyfraith, y Cyfryngau, Athroniaeth, Newyddiaduraeth ac, wrth gwrs, Gwleidyddiaeth. Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio â symud ymlaen i astudiaethau uwch wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn caniatáu iddyn nhw archwilio ystod eang o gyfleoedd am gyflogaeth.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.