Yn gryno
Mae hwn yn gipolwg trylwyr a llawn gwybodaeth ar gyrsiau Bioleg. Mae cwrs CBAC Safon Uwch mewn Bioleg yn darparu ystod eang o wybodaeth sy’n cynnwys agweddau amrywiol ar ystod o themâu. Mae’r rhain yn cynnwys Anatomeg, Ffisioleg, Ecoleg, Microbioleg, Microsgopeg, Geneteg a Biocemeg.
...os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn llwybr Meddygol neu Wyddonol
...os hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes Gofal Iechyd, Peirianneg, Fferylliaeth, Addysg, Gwyddorau Ffisegol fel rhai enghreifftiau
...oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth
Mae’r fanyleb wedi’i rhannu yn gyfanswm o 5 uned: 2 uned Safon Uwch Gyfrannol a 3 uned Safon Uwch.
Mae’r cwrs Safon UG Bioleg yn cynnwys:
- Bioleg 1: Biocemeg sylfaenol a threfniant celloedd
- Bioleg 2: Bioamrywiaeth a ffisioleg systemau’r corff
Mae’r cwrs Safon Uwch Bioleg yn cynnwys:
- Bioleg 3: Egni, homeostasis a’r amgylchedd
- Bioleg 4: Amrywiad, etifeddiaeth ac opsiynau
- Bioleg 5: Arholiad ymarferol
All 5 units will be assessed by the WJEC exam board. Unit 5 is composed of two Practical Examinations completed in college under exam conditions. Once completed, you’ll achieve: AS Level Biology and A Level Biology along with many important transferrable skills.
Cyrsiau addysg uwch y gall Bioleg fod yn rhan o'r cymhwyster mynediad, yn cynnwys Meddygaeth, Fferylliaeth, Ffisiotherapi, Biocemeg, Iechyd Amgylcheddol, Geneteg, Nyrsio, Optometreg, Cadwraeth, Ecoleg, Gwyddor Filfeddygol a Biodechnoleg.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Bioleg neu radd B mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol, a gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd ac Iaith Saesneg.