• Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Bioleg UG Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2026/27 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2027/28 yn agor ym mis Tachwedd 2026.

Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae hwn yn gipolwg trylwyr a llawn gwybodaeth ar gyrsiau Bioleg. Mae cwrs CBAC Safon Uwch mewn Bioleg yn darparu ystod eang o wybodaeth sy’n cynnwys agweddau amrywiol ar ystod o themâu. Mae’r rhain yn cynnwys Anatomeg, Ffisioleg, Ecoleg, Microbioleg, Microsgopeg, Geneteg a Biocemeg.

...os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn llwybr Meddygol neu Wyddonol

...os hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes Gofal Iechyd, Peirianneg, Fferylliaeth, Addysg, Gwyddorau Ffisegol fel rhai enghreifftiau

...oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth

Mae’r fanyleb wedi’i rhannu yn gyfanswm o 5 uned: 2 uned Safon Uwch Gyfrannol a 3 uned Safon Uwch.

Mae’r cwrs Safon UG Bioleg yn cynnwys:

  • Bioleg 1: Biocemeg sylfaenol a threfniant celloedd
  • Bioleg 2: Bioamrywiaeth a ffisioleg systemau’r corff

Mae’r cwrs Safon Uwch Bioleg yn cynnwys:

  • Bioleg 3: Egni, homeostasis a’r amgylchedd
  • Bioleg 4: Amrywiad, etifeddiaeth ac opsiynau
  • Bioleg 5: Arholiad ymarferol

Caiff pob un o’r 5 uned ei hasesu gan fwrdd arholi CBAC. Mae Uned 5 yn cynnwys dau Arholiad Ymarferol i’w gwblhau yn y coleg dan amodau arholiad. Ar ôl eu cwblhau, byddwch chi’n ennill: Safon UG Bioleg a Safon Uwch Bioleg yn ogystal â llawer o sgiliau trosglwyddadwy pwysig.

Cyrsiau addysg uwch y gall Bioleg fod yn rhan o'r cymhwyster mynediad, yn cynnwys Meddygaeth, Fferylliaeth, Ffisiotherapi, Biocemeg, Iechyd Amgylcheddol, Geneteg, Nyrsio, Optometreg, Cadwraeth, Ecoleg, Gwyddor Filfeddygol a Biodechnoleg.

O leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd A* i C gan gynnwys TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg neu TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf a TGAU Mathemateg a Rhifedd. 

Hefyd, mae’n rhaid cynnwys: 

Gradd B mewn Bioleg neu radd BB ar gyfer Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl yn ogystal â gradd B mewn Mathemateg a Rhifedd a gradd B mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Ni dderbynnir TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol. GCSE Applied Science is not accepted. 

Hefyd, mae’n rhaid i ymgeiswyr UG Bioleg astudio ar o leiaf un cwrs STEM Safon UG arall. 

Mae hefyd yn rhaid i ymgeiswyr basio asesiad cychwynnol sy’n seiliedig ar allu yn ystod y cyfnod cofrestru. 

Tutor and student sharing exam results

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFAS0105A1
Dull Astudio
Llawn Amser
Hyd
1 flwyddyn
Dyddiau
Infill to fulltime course

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFAS0105A1
Dull Astudio
Llawn Amser
Hyd
1 flwyddyn

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFAS0105A1
Dull Astudio
Llawn Amser
Hyd
1 flwyddyn

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2027

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student ambassador with a campus tour sign

Noson Agored Coleg Mawrth 2027

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2027

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp