En
Coleg Gwent Open Day is back at a campus near you

Diwrnod Agored yn ôl ar eich campws lleol


21 Mawrth 2022

Ddydd Sadwrn 26ain o Fawrth, rhwng 10am ac 1pm, rydym yn cynnal digwyddiad agored ar y campws er mwyn eich croesawu chi yn ôl i’n pum campws ar gyfer y diwrnod agored cyntaf mewn dwy flynedd ar y campws.

Ers dechrau pandemig COVID, rydym ni wedi symud at raglen lwyddiannus o ddigwyddiadau agored rhithiol er mwyn i chi gael blas ar fywyd y coleg a chadw pawb yn ddiogel ar yr un pryd. Fodd bynnag, gan ein bod bellach yn cael cwrdd, rydym yn edrych ymlaen at gynnal diwrnod agored traddodiadol ym mhob un o’n campysau yng Nghasnewydd, Crosskeys, Brynbuga, Cwmbrân a Glynebwy.

Ar ôl dwy flynedd o ddigwyddiadau rhithiol, eglurodd y Pennaeth Guy Lacey y bydd yn wych cael mynd yn ôl i gynnal diwrnod agored wyneb yn wyneb, er mwyn i ni gael croesawu pobl i’n coleg eto a dangos y cyfleoedd anhygoel sydd ar gael yma. Mae’r holl staff yn Coleg Gwent yn edrych ymlaen yn arw at allu rhoi croeso cynnes iawn i’n hymwelwyr unwaith eto.

Bydd y diwrnod agored yn gyfle gwych i chi ymweld ag un o’r colegau gorau ei gyflawniad yng Nghymru Cewch ddod i adnabod ein campysau, gweld ystafelloedd llawn offer a chyfleusterau o’r radd flaenaf; sgwrsio gyda’r tiwtoriaid profiadol am yr amrywiaeth o gyrsiau llawn amser, rhan amser ac addysg uwch a gynigir; cyfarfod staff cymorth cyfeillgar i ofyn cwestiynau am fywyd coleg; ac ymgeisio am gyrsiau yn rhwydd ac yn ddi-lol ar eich stepen drws.

Coleg Gwent campuses

Mynychodd Aiden King-Smith, Dysgwr Celf a Dylunio, ddigwyddiad agored cyn penderfynu ar gwrs ar Gampws Dinas Casnewydd, gan ddweud: “Fe wnes i ddod i ddigwyddiad agored ar y campws, ac roedd yn ddefnyddiol iawn cael gweld y cyfleusterau, sgwrsio â thiwtoriaid, a gweld pa fath o brofiad sydd i’w gael yma. Yn enwedig â minnau heb wneud hyn o’r blaen!”

Pa bynnag bwnc sy’n eich diddori – o beirianneg i Lefel A, gofal iechyd i seiber, ac arlwyo i ofal anifeiliaid – mae mwy o wybodaeth ar gael yn y digwyddiad agored drwy weithgareddau a phrofiadau rhyngweithiol. Bydd staff wrth law i’ch arwain, rhoi cyngor, mynd â chi ar deithiau o gwmpas y campws, a darparu gwybodaeth am gyllid, teithio, a’r gwasanaethau cymorth.

A Level Learner Lilly PowellMae’r diwrnod agored ar gael i bawb – mae croeso i’r rhai sy’n gadael yr ysgol, rhieni, a dysgwyr aeddfed. Bydd yn cynnwys yr holl ddewis o gyrsiau amser llawn, rhan amser ac addysg uwch ar eich campws lleol. Yn ôl dysgwr Lefel A Parth Dysgu Blaenau Gwent, Lilly Powell; “Mae gan y Coleg rywbeth at ddant pawb. Mae ysbryd cymunedol cryf iawn yng Ngholeg Gwent. Nid dim ond un grŵp o ddysgwyr Lefel A sydd yma fel y byddech chi’n ei weld yn y chweched dosbarth, ond yn lle hynny, mae yna bobl â diddordeb ym mhob sector, galwedigaeth a phwnc, felly mae yna gymysgedd gwych o bobl.”

 Bydd gweithdrefnau diogelwch hanfodol yn parhau ar waith er mwyn i chi allu profi bywyd coleg yn ddiogel yn y diwrnod agored. Anogir cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo’n rheolaidd i leihau unrhyw risg i ymwelwyr a staff.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr a darpar ddysgwyr i’n campysau eto er mwyn iddynt gael cipolwg ar fywyd yn Coleg Gwent. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle yn y diwrnod agored a chewch fwy o wybodaeth am y digwyddiad coleggwent.ac.uk/agored.