Diweddariad diwethaf i Ddysgwyr, Ymgeiswyr, Rhieni a Gofalwyr
Dysgwyr newydd yn ymuno â ni ym mis Medi
Os ydych wedi gwneud cais i ymuno â ni, dylech fod wedi derbyn eich cynnig erbyn hyn i sicrhau eich lle. Os nad ydych, gallwch fewngofnodi nawr i wneud hynny.
Os ydych wedi derbyn eich cynnig, byddwch wedi cael gohebiaeth reolaidd i’ch paratoi ar gyfer y Coleg cyn cofrestru.
Fel rhan o’r broses o baratoi ar gyfer cofrestru, bydd angen i chi uwchlwytho llun* er mwyn i ni allu argraffu eich bathodyn ID yn barod i chi ei gasglu. Os ydych yn cael trafferth wrth geisio uwchlwytho llun, mae cyfarwyddiadau yma ar sut i wneud hynny.
*Cofiwch, os yw eich llun gennym eisoes, ni fyddwch wedi cael cais i uwchlwytho un.
Cynhelir y cofrestru yn fras yn ystod pythefnos olaf mis Awst. Cewch wahoddiad i’r cofrestru a chewch amser a dyddiad penodol, felly cofiwch gadw golwg ar eich e-bost ynglŷn â hyn cyn bo hir.
Diweddariad Coronafeirws
Mae canllawiau’r llywodraeth ar brofi wedi newid
- Nid oes angen i’r rhan fwyaf o ddysgwyr brofi’n rheolaidd ar gyfer Covid-19 ac ni fydd y Coleg yn darparu profion ar gyfer pob dysgwr o hyn ymlaen.
- Os ydych mewn lleoliad gwaith Iechyd a Gofal rhaid i chi barhau i brofi ddwywaith yr wythnos. Gallwch wneud cais am gitiau Profion Llif Unffordd.
- Os ydych yn ddysgwr ILS neu’n agored i niwed yn glinigol, gallwch wneud cais am gitiau Profion Llif Unffordd.
- Mae’r llywodraeth yn darparu profion rhad ac am ddim os oes gennych symptomau Covid-19. Gallwch archebu’r rhain o wefan y llywodraeth neu drwy ffonio 119.
- Os byddwch yn profi’n bositif ar gyfer Covid-19, rhowch wybod i’ch tiwtor ac arhoswch i ffwrdd o’r coleg am 5 diwrnod. Bydd y mesur hwn ar waith hyd at ddiwedd mis Mehefin
- Mae mygydau’n parhau i fod ar gael yn y derbynfeydd os ydych yn dewis gwisgo un.
Ydych chi’n sefyll arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch neu alwedigaethol?
Adolygwch y canllawiau Covid-19:
- Os oes gennych unrhyw un o brif symptomau COVID-19, dylech hunanynysu a chymryd prawf llif unffordd (LFT).
- Os yw’r prawf yn bositif, dylech hunanynysu am o leiaf 3 diwrnod. Diwrnod 1 yw’r diwrnod y dechreuodd eich symptomau. Cofnodwch eich canlyniad.
- Ar ddiwrnod 3, os yw’ch symptomau wedi cilio, gwnewch brawf LFT. Os yw’r prawf hwnnw’n negatif, gwnewch braf LFT arall ar ddiwrnod 4.
- Os yw’ch canlyniad prawf diwrnod 4 hefyd yn negatif, a’ch bod yn teimlo’n dda heb dymheredd uchel, gallwch roi’r gorau i hunanynysu er mwyn sefyll eich arholiad. Cofnodwch eich canlyniadau.
- Os yw naill ai’r prawf ar ddiwrnod 3 neu’r prawf ar ddiwrnod 4 yn bositif, dylech barhau i hunanynysu a chysylltu â’ch ysgol neu leoliad addysg.
- Os ydych yn dal i brofi tymheredd uchel neu’n teimlo’n sâl, parhewch i hunanynysu nes bod eich tymheredd yn dychwelyd i’r tymheredd arferol, neu nes eich bod yn teimlo’n well.
- Dylech barhau i gymryd LFTs yn ddyddiol hyd nes y cewch 2 ganlyniad negatif yn olynol, ddiwrnod ar wahân, neu tan ddiwrnod 10 – pa un bynnag yw’r cynharaf. Nid oes angen canlyniad LFT negatif arnoch ar ddiwrnod 10 i roi’r gorau i hunanynysu.
- Mae’r llywodraeth yn darparu profion rhad ac am ddim os oes gennych symptomau Covid-19. Gallwch archebu’r rhain o wefan y llywodraeth neu drwy ffonio 119.
Gwybodaeth am y Ganolfan Brechu Torfol
Campws Pont-y-pŵl – Gwybodaeth am y Ganolfan Brechu Torfol
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn defnyddio ein hen Gampws Pont-y-pŵl fel safle i roi brechiadau COVID-19 fel rhan o’r rhaglen brechu torfol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan – Our Vaccination Centres – Aneurin Bevan University Health Board (nhs.wales)
Cyrraedd Campws Pont-y-pŵl Coleg Gwent:
Campws Pont-y-pŵl Coleg GwentNP4 5YE
Ffordd Blaendare Pont-y-pŵlSut ydym yn cadw ein cymuned yn ddiogel
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn cael eu cadw’n ddiogel ar y campws ac rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein staff a’n dysgwyr gyda hyn. Dyma ychydig o Gwestiynau Cyffredin i helpu i egluro’r mesurau sydd gennym ar waith.
Os byddwch yn profi’n bositif am Covid-19, dylech aros gartref am 5 diwrnod yn unol â pholisi’r Coleg i gadw dysgwyr eraill yn ddiogel. Gallwch ddod yn ôl i’r coleg ar ddiwrnod 6, os ydych yn teimlo’n ddigon da.
Os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19 ac angen aros gartref am 5 diwrnod, ni fydd hyn yn effeithio ar eich taliadau EMA os allwch ddarparu tystiolaeth i’ch Tiwtor Personol eich bod wedi profi’n positif.
Yn yr achos annhebygol y gwnaiff Covid-19 amharu ar arholiadau allanol eleni, mae’r Coleg wedi darparu cynllun wrth gefn. Dylech fod wedi derbyn y cynllun gan eich darlithydd cyn y Nadolig. Mae copi o’r llythyr i’w gael yma.