8 Mai 2025
Gall gadael yr ysgol a phenderfynu’r hyn yr hoffech chi ei wneud nesaf fod yn eithaf llethol. Mae cynifer o opsiynau ar gael felly mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi’n meddu ar wybodaeth lawn er mwyn gwneud y dewis gorau ar gyfer eich dyfodol.
Rydyn ni yma i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin efallai sydd gennych chi am eich camau nesaf, o ddewis y pynciau cywir i ddeall sut i gyflwyno cais a pha gymorth sydd ar gael i chi. Bydd y canllaw defnyddiol hwn yn eich helpu chi i benderfynu beth sydd orau ar eich cyfer chi.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyrsiau Safon Uwch a chyrsiau BTEC?
Mae cyrsiau Safon Uwch a chyrsiau BTEC yn ddewisiadau poblogaidd ar ôl arholiadau TGAU gan fod yn addas i arddulliau dysgu gwahanol a nodau gyrfa gwahanol. Dyma’r prif wahaniaethau:
Safon Uwch
BTEC
Oes angen dewis cymhwyster TGAU sy’n cyfateb i’r pwnc rwy’n dymuno ei astudio yn y coleg?
Nac oes, ddim o reidrwydd! Rydych chi’n llawer mwy tebygol o wneud yn dda os ydych chi’n dewis pynciau rydych chi’n eu mwynhau. Dyma awgrymiadau defnyddiol wrth ddewis eich pynciau TGAU:
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais cyn gynted â phosibl am fod llawer o’n cyrsiau’n llenwi’n gyflym. Caiff ceisiadau eu prosesu ar sail y cyntaf i’r felin felly mae cyflwyno cais yn gynnar yn rhoi’r siawns orau posibl i chi ennill lle.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu fy arholiadau Saesneg a Mathemateg?
Fel dysgwr amser llawn yn y coleg, cewch gymorth i wella eich sgiliau Mathemateg a’ch sgiliau Saesneg. Os nad oeddech chi wedi llwyddo i ennill gradd C neu uwch ar gyfer eich arholiadau TGAU Mathemateg a Saesneg, byddwch chi’n parhau i astudio’r pynciau hyn gyda ni. Yn dibynnu ar eich lefel, bydd hyn naill ai’n golygu ailsefyll eich arholiadau TGAU neu weithio ar Sgiliau Hanfodol. Os ydych chi eisoes wedi ennill gradd C neu uwch, byddwch chi’n parhau i ddatblygu’r sgiliau hyn drwy gydol eich prif gwrs neu drwy gymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau.
Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio am ymgeiswyr sy’n meddu ar gymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, graddau A* i C. Os nad ydych chi’n meddu ar y cymwysterau hyn, gall gyfyngu ar eich opsiynau ar gyfer swyddi ac astudio. Ond, peidiwch â phoeni, os nad oeddech chi wedi ennill y graddau angenrheidiol, gallwn ni roi ail gyfle i chi.
Pam dylech chi wella eich sgiliau Mathemateg a’ch sgiliau Saesneg?
A fyddaf yn cael unrhyw gymorth ariannol?
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gael cymorth ar gyfer costau astudio ac mae llawer o grantiau gwahanol ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os ydych chi’n 16 i 18 oed ac rydych chi’n byw yng Nghymru, gallech chi fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a allai dalu £40 yr wythnos i chi, a delir pob dwy wythnos.
I gael cymorth neu gyngor, e-bostiwch Wasanaethau Dysgwyr ar un o’n campysau neu ffoniwch 01495 333777. Ewch i tudalen cymorth ariannol. i gael yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cyflwyno cais am gymorth ariannol.
Oes angen i mi dalu am fy nghyrsiau?
Os ydych chi’n ystyried astudio ar gyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau BTEC yn Coleg Gwent, dyma newyddion da: nid oes yn rhaid i chi dalu amdanyn nhw! Mae hyn yn golygu y gallwch chi ganolbwyntio ar ddewis y pynciau rydych chi’n dwlu arnynt a chynllunio eich dyfodol heb boeni am ffioedd dysgu.
Gall penderfynu ar yr hyn i’w wneud ar ôl gorffen yn yr ysgol fod yn beth mawr a gall gael effaith go iawn ar eich dyfodol. Trwy ddysgu am y gwahaniaethau rhwng cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau BTEC, deall pam bod ennill cymwysterau Saesneg a Mathemateg mor bwysig a gwybod sut i gyflwyno cais, gallwch chi wneud dewisiadau clyfar sy’n cyd-fynd â’ch nodau. Mae’n hollol normal i chi deimlo’n ansicr felly peidiwch ag oedi i ofyn i’ch athrawon, eich cynghorwyr gyrfa neu ein tîm recriwtio myfyrwyr cyfeillgar yma yn y coleg. Trwy’r wybodaeth a’r gefnogaeth gywir, gallwch chi ddechrau eich pennod nesaf yn hyderus a sefydlu eich hun i brofi llwyddiant.