En
Lloyd Sheppard running

Cwrdd â'r Dysgwr: Lloyd Sheppard yn Rhoi ei Yrfa Chwaraeon ar Waith


20 Chwefror 2023

Enw: Lloyd Sheppard
Cartref: Coed Duon
Cwrs: Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon BTEC (Diploma Estynedig) Lefel 3
Campws: Campws Crosskeys

Mae’r dysgwrBTEC Hyfforddiant Chwaraeon a Datblygiad, Lloyd Sheppard, yn athletwr dygnwch sy’n arbenigo mewn rhedeg 10km. Mae wedi ei restru yn 10 uchaf y byd ar gyfer ei grŵp oedran, ac ar sail cariad gwirioneddol at chwaraeon, penderfynodd ddilyn BTEC yn y pwnc sydd ar ei fryd ar Gampws Crosskeys.

Pam ddewisoch chi astudio BTEC Chwaraeon Lefel 3 ar Gampws Crosskeys?
”Mae chwaraeon yn rhywbeth rwy’n ei fwynhau, felly dewisais gwblahu’r BTEC Lefel 3 gan nad oeddwn erioed yn hoff o arholiadau ac roeddwn yn grediniol y byddai’r BTEC yn fy ngweddu’n well gyda’r elfennau ymarferol. Dewisais Gampws Crosskeys gan fy mod yn teimlo mai hwn oedd y lle gorau i mi- roedd cyfleusterau da yno a’r math o gwrs roeddwn yn chwilio amdano.”

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?
“Rwyf yn mwynhau ymchwilio i’r elfennau unigol ar chwaraeon, a dysgu am y gwahanol feysydd fel chwaraeon a’r corff. Rwyf hefyd yn mwynhau elfen ymarferol y cwrs a’r gefnogaeth y mae’r tiwtoriaid yn ei rhoi. Byddwn yn dweud mai’r peth gorau am astudio yn Coleg Gwent yw’r gefnogaeth gan y tiwtoriaid, yn ogystal â’r ffrindiau rwyf wedi eu gwneud yn sgil y cwrs hefyd.”

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yma yn y coleg, a beth yw eich amcanion tymor hir?
“Hyd yma, fy nghyflawniad mwyaf yn Coleg Gwent yw cwblhau fy ngwaith cwrs ac ennill fy nghymwysterau y llynedd ar gyfer BTEC Chwaraeon a Bagloriaeth Cymru. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn hon, rwyf yn ymchwilio i fynd i’r brifysgol i gwblhau gradd mewn gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r coleg wedi fy helpu i gael y graddau sydd eu hangen arnaf ar gyfer hyn, yn ogystal â bod o gymorth i mi ddysgu sgiliau cyflogadwyedd.”

Gradd Sylfaen Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon

Sports coaching and development

Os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon ac iechyd corfforol fel Lloyd, mae’r BTEC mewn Hyfforddiant Chwaraeon a Datblygiad yn gwrs ymarferol a fydd yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn dilyn gyrfa yn y maes hwn.

Mae’r cwrs ar gael ar Gampws Crosskeys, Campws Uska Pharth Dysgu Blaenau Gwent ac mae’n cynnwys dewis eang o fodiwlau fel: archwilio gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Gweithredol; Iechyd a Lles; Sgiliau Hyfforddi; Datblygiad Chwaraeon; Seicoleg Chwaraeon, Maethiad, Anatomeg a Ffisioleg, Anafiadau Chwaraeon, Profi a Hyfforddiant Ffitrwydd, Rheolau a Rheoliadau Chwaraeon; Sgiliau Technegol a Thactegol; Materion Cyfoes mewn Chwaraeon; a llawer mwy.

I goroni eich profiad dysgu, bydd gennych fynediad at gampfeydd, offer chwaraeon o safon uchel a chyfleusterau awyr agoreddrwy gydol eich cwrs, felly gallwch feithrin eich sgiliau i berffeithrwydd. Yn ogystal, caiff dysgwyr eu hannog i ymuno â’r academïau chwaraeon fel Academi Rygbi Iau Dreigiau Coleg Gwent, sydd o fudd i fyfyrwyr gydag oriau hyfforddi bob wythnos gyda hyfforddwyr rygbi’r Dreigiau!

Wrth eich bodd â chwaraeon ond yn ansicr ai Hyfforddi a Datblygiad yw’r trywydd cywir i chi? Mae gennym hefyd Radd Sylfaen mewn Cyflyru Chwaraeon, Adsefydlu a Thylino sy’n cychwyn ar Gampws Crosskeys y mis Medi hwn!

Felly, dilynwch ôl troed eich arwyr chwaraeon a rhoi eich gyrfa ym myd chwaraeon ar waith. Darganfyddwch ein cyrsiau Chwaraeon ar-lein neu cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored nesafi ddarganfod mwy.