En

BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae yna ffocws ymarferol i’r cwrs hwn a byddwch yn cael eich annog i ymuno ag academïau chwaraeon y coleg. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth i ddilyn gyrfa yn y maes hwn.

Dyma'r cwrs i chi os...

...oes gennych ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac iechyd corfforol

...rydych eisiau cwrs ymarferol

...rydych eisiau datblygu gwybodaeth i ddilyn gyrfa yn y maes yma

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio modiwlau gan gynnwys:

  • Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
  • Iechyd, Lles a Chwaraeon
  • Datblygu eich Sgiliau Hyfforddi
  • Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
  • Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon
  • Datblygu Chwaraeon
  • Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
  • Anatomi a Ffisioleg mewn Chwaraeon
  • Anafiadau Chwaraeon
  • Profi Ffitrwydd
  • Hyfforddiant Ffitrwydd
  • Sgiliau Technegol a Thactegol mewn Chwaraeon
  • Rheolau, Rheoliadau a Gweinyddu mewn Chwaraeon
  • Cymhwyso Chwaraeon Ymarferol
  • Dylanwad Technoleg mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
  • Trefnu Digwyddiadau mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
  • Materion Moesegol a Chyfoes mewn Chwaraeon
  • Cyfathrebu Marchnata
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol mewn Chwaraeon

Ar ein Campws Parth Dysgu Torfaen & Bleanau Gwent, mae gennym gyfle hefyd i astudio Tystysgrif mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon a'r Dystysgrif mewn Cyfarwyddo Ffitrwydd.

Cewch eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, gwaith portffolio ac arsylwi. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch wedi sicrhau:

  • Lefel 3 Datblygiad Chwaraeon, Hyfforddi a Ffitrwydd
  • Cymwysterau cefnogol priodol i ehangu eich sgiliau a chwrdd ag anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)

Mae costau ychwanegol yn cynnwys hyd at £82.50 ar gyfer cit, £50.00 ar gyfer tripiau a £57.50 ar gyfer Trafnidiaeth gyda’r Dreigiau, Cofrestru gyda DofE a ffioedd Gwersylla DofE.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Raddfa Deilyngdod a naill ai TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.

Mae cyfranogiad ymarferol yn hanfodol wrth gwblhau'r cwrs hwn. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â dangos parch at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.

Oddi yno, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys cyrsiau ar lefel Prifysgol a chyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon a hamdden e.e. hyfforddi cymunedol, y diwydiant ffitrwydd a datblygu chwaraeon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gan bob dysgwr gyfle i wneud cais am gyllid Erasmus ac ymweld â gwlad Ewropeaidd fel rhan o'u hastudiaethau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon Lefel 3?

CFBE0023AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr