Yn gryno
Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio i ymestyn eich sgiliau mewn ystod o chwaraeon tîm ac unigol.
... Oes gennych ddiddordeb symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon
... Oes gennych ddiddordeb mawr mewn chwaraeon
... Oes gennych allu corfforol i ddatblygu ystod o weithgareddau chwaraeon
Byddwch yn astudio pynciau gan gynnwys:
- Y corff mewn chwaraeon
- Iechyd, diogelwch a niwed
- Paratoi ar gyfer chwaraeon
- Arweinyddiaeth mewn chwaraeon
- Niwed mewn chwaraeon ac ystod o chwaraeon ymarferol
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel cymorth cyntaf, gweithgareddau awyr agored, academïau pêl droed, pêl rwyd neu rygbi.
Asesir y cwrs trwy waith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. Bydd dulliau asesu yn cynnwys ymchwil unigol, gwaith grwp, gwaith prosiect, cyflwyniadau llafar, arddangosiadau gweledol, aseiniadau ysgrifenedig ac arsylwi ar eich perfformiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 Chwaraeon
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg / Rhifedd Mathemateg neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd D neu uwch.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb ac mae cymryd rhan ymarferol yn hanfodol wrth gwblhau'r cwrs hwn.
Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon, Gweithgareddau Awyr Agored neu Wasanaethau Cyhoeddus, Diploma mewn Hyfforddi Ffitrwydd neu gyflogaeth mewn diwydiant sy'n gysylltiedig â chwaraeon.
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Mae disgwyl i ddysgwyr brynu dillad chwaraeon fel amod o dderbyn lle ar y cwrs. Y gost yw tua £75 - £100.