Yn gryno
Mae yna ffocws ymarferol i’r cwrs hwn a byddwch yn cael eich annog i ymuno ag academïau chwaraeon y coleg. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth i ddilyn gyrfa yn y maes hwn.
...oes gennych ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac iechyd corfforol
...rydych eisiau cwrs ymarferol
...rydych eisiau datblygu gwybodaeth i ddilyn gyrfa yn y maes yma
Byddwch yn astudio modiwlau gan gynnwys:
- Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
- Iechyd, Lles a Chwaraeon
- Datblygu eich Sgiliau Hyfforddi
- Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
- Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon
- Datblygu Chwaraeon
- Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
- Seicoleg Chwaraeon
- Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
- Anatomi a Ffisioleg mewn Chwaraeon
- Anafiadau Chwaraeon
- Profi Ffitrwydd
- Hyfforddiant Ffitrwydd
- Sgiliau Technegol a Thactegol mewn Chwaraeon
- Rheolau, Rheoliadau a Gweinyddu mewn Chwaraeon
- Cymhwyso Chwaraeon Ymarferol
- Dylanwad Technoleg mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
- Trefnu Digwyddiadau mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
- Materion Moesegol a Chyfoes mewn Chwaraeon
- Cyfathrebu Marchnata
- Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol mewn Chwaraeon
Ar ein Campws Parth Dysgu Torfaen & Bleanau Gwent, mae gennym gyfle hefyd i astudio Tystysgrif mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon a'r Dystysgrif mewn Cyfarwyddo Ffitrwydd.
Cewch eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, gwaith portffolio ac arsylwi. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch wedi sicrhau:
- Lefel 3 Datblygiad Chwaraeon, Hyfforddi a Ffitrwydd
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
I gofrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Raddfa Deilyngdod a naill ai TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae cyfranogiad ymarferol yn hanfodol wrth gwblhau'r cwrs hwn. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â dangos parch at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant.
Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.
Oddi yno, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys cyrsiau ar lefel Prifysgol a chyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon a hamdden e.e. hyfforddi cymunedol, y diwydiant ffitrwydd a datblygu chwaraeon.
Mae gan bob dysgwr gyfle i wneud cais am gyllid Erasmus ac ymweld â gwlad Ewropeaidd fel rhan o'u hastudiaethau.
Mae gan bob dysgwr y cyfle i wneud cais am gyllid Erasmus a chymryd ymweliad â gwlad Ewropeaidd fel rhan o'u hastudiaethau.