Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar elfen ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth er mwyn dilyn gyrfa yn y maes hwn.
...oes gennych ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac iechyd corfforol
...rydych eisiau cwrs ymarferol
...rydych eisiau datblygu gwybodaeth i ddilyn gyrfa yn y maes yma
Byddwch yn astudio modiwlau gan gynnwys:
- Anatomi a Ffisioleg mewn Chwaraeon
- Hyfforddi Ffitrwydd a Rhaglennu ar gyfer Iechyd, Chwaraeon a Llesiant
- Datblygiad Proffesiynol yn y Diwydiant Chwaraeon
- Arweinyddiaeth Chwaraeon
- Trefnu Digwyddiadau Chwaraeon
- Cynnal Profion Ffitrwydd
- Perfformiad Chwaraeon Ymarferol
- Hyfforddi ar gyfer Perfformiad
- Dulliau ymchwil mewn Chwaraeon
- Datblygu a Darparu Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
- Archwilio Busnes yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Actif
- Caffael Sgiliau mewn Chwaraeon
- Profiad Gwaith mewn Hamdden Actif
- Rheoli Anafiadau Chwaraeon
- Seicoleg Chwaraeon
- Rheolau, Rheoliadau a Gweinyddu mewn Chwaraeon
- Sgiliau Technegol a Thactegol mewn Chwaraeon
- Rheoli Hamdden
- Egwyddorion a Phrecedurau ar gyfer Gweithgareddau Anturiaethol Awyr Agored
- Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Gweithgareddau Anturiaethol Awyr Agored
- Ymarfer ar gyfer Grwpiau Penodol
- Ymarfer, Iechyd a Bywydydd
- Materion Cyfredol yn y Chwaraeon
- Rheoli Hamdden
- Gweithrediadau Canolfan Hamdden
Byddwch yn cael y cyfle i astudio Tystysgrif mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon a Thystysgrif mewn Hyfforddi Ffitrwydd.
Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol, tasgau a reolir, arholiad allanol, cyflwyniadau, portffolio o waith a goruchwyliaeth. Wedi i chi ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Chwaraeon
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Tystysgrif SLQ mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon
- Tystysgrif Lefel 2 YMCA mewn Hyfforddi Ffitrwydd
I gofrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Raddfa Deilyngdod a naill ai TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae cyfranogiad ymarferol yn hanfodol wrth gwblhau'r cwrs hwn. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â dangos parch at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant.
Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.
Oddi yno, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys cyrsiau ar lefel Prifysgol a chyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon a hamdden e.e. hyfforddi cymunedol, y diwydiant ffitrwydd a datblygu chwaraeon.
I gofrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch arnoch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Raddfa Deilyngdod a naill ai TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae costau ychwanegol yn cynnwys hyd at £82.50 ar gyfer cit, £50.00 ar gyfer tripiau/Cofrestru gyda DofE/ffioedd Gwersylla DofE.
Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i ymgymryd ag ystod o deithiau a digwyddiadau addysgol e.e. Prifysgol Metropolitan Caerdydd - dosbarthiadau cryfder a chyflyru, Prifysgol De Cymru - profi ffitrwydd ac iechyd. Mae gan Barth Dysgu Blaenau Gwent amrywiaeth o dimau sy’n chwarae mewn ystod o gynghreiriau gan gynnwys rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a phêl-fasged.
Ar gyfer chwaraewyr Academi Rygbi Menywod y Dreigiau, mae eich amserlen wedi'i threfnu o amgylch Academi'r Dreigiau, ac rydych yn cael eich cludo o safle i safle er mwyn cymryd rhan yn y ddarpariaeth. Efallai y byddwch angen trefnu eich cludiant eich hun adref o Gampws Crosskeys ar gyfer rhai o'r gemau.
Mae gan bob dysgwr y cyfle i wneud cais am gyllid Erasmus a chymryd ymweliad â gwlad Ewropeaidd fel rhan o'u hastudiaethau.