En
Robin's story

Llwyddo fel oedolyn sy’n ddysgwr: Stori Robin


20 Hydref 2022

A ydych yn meddwl ambell waith y dylech fod wedi dilyn llwybr gyrfa gwahanol? Dyw hi byth yn rhy hwyr i fentro i broffesiwn newydd gyda Coleg Gwent!

Nid lle i bobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol yn unig yw’r coleg. Mae ein cymuned groesawgar ac amrywiol yn cwmpasu pob oed. Gyda channoedd o gyrsiau rhan-amser ac amser llawn hyblyg, rhad ac am ddim ar gael ar garreg eich drws, mae Coleg Gwent yn lle gwych i oedolion ddychwelyd at addysg er mwyn newid eu stori.

Mae myfyrwyr hŷn yn ymuno â ni am lu o resymau gwahanol… Efallai fod gennych fwy o amser i astudio nawr ar ôl i’ch plant gyrraedd rhyw oed. Efallai eich bod wedi darganfod diddordeb neu gariad at rywbeth, a’ch bod yn dymuno ymhél â’r maes hwnnw’n llawn-amser. Neu, yn syml, efallai eich bod wedi cael llond bol ar eich swydd ‘9 tan 5’ a’ch bod yn dymuno dilyn gyrfa newydd gyffrous.

Beth bynnag fo eich rhesymau, byddwch yn siŵr o fynd â’r maen i’r wal. Yn ogystal â chynnig dewis eang o gyrsiau hyblyg, rhad ac am ddim sy’n ddelfrydol i oedolion, rydym hefyd yn cynnig opsiynau ar gyfer cymorth ariannol er mwyn eich hwyluso yn Coleg Gwent.

Porwch ein cyrsiau rhan amser

Gweddnewid eich gyrfa

Penderfynodd Robin, oedolyn sy’n ddysgwr, astudio Hyfforddiant Personol yng Nghampws Brynbuga. Roedd yn teimlo’n nerfus ynglŷn â dychwelyd i’r coleg, oherwydd roedd 27 mlynedd wedi mynd heibio ers iddo adael yr ysgol. Ac yntau wedi ymddiddori drwy gydol ei oes mewn chwaraeon, penderfynodd droi ei ddiddordeb ysol yn yrfa newydd sbon. Dewch i ddarganfod sut y newidiodd Robin ei stori trwy astudio yn Coleg Gwent:

“Rydw i wastad wedi gwirioni ar chwaraeon. Roeddwn i’n arfer nofio i Gasnewydd, a hefyd fe wnes i chwarae golff ar lefel sirol. Ond dim ond ar ôl imi ennill tipyn o bwysau ar ôl priodi a chael plant y penderfynais ymuno â’r gampfa – a chyn pen dim, roeddwn i wedi colli 4 stôn! Fe ges i flas mawr ar wneud ymarfer corff ac roeddwn i’n mynd i’r gampfa bum diwrnod yr wythnos. Dyma fy nghariad yn gofyn, ‘pam na wnei di chwilio am swydd mewn campfa?’. Felly, ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil, fe ddes i o hyd i gwrs, gadewais fy swydd amser llawn, ac fe es i ati o ddifrif i sicrhau gyrfa newydd i mi fy hun. Dyna’r peth gorau imi ei wneud erioed!

Roedd bod yn fyfyriwr hŷn yn brofiad brawychus, ond ar ôl y diwrnodau cyntaf llwyddais i wneud llu o gyfeillion, a bydd rhai ohonyn nhw’n gyfeillion mynwesol am byth. Mae’r cwrs yn wych – mae mor wahanol i’r ysgol. Mae’r holl oedolion sydd yna yn dymuno cyflawni rhywbeth. Mae’n hamddenol, ond yn gofyn llawer yr un pryd. Ac mae’r tiwtoriaid yn eithriadol – maen nhw wir eisiau ichi gyrraedd eich nod, ac maen nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu trwy’r cwrs. Cyn belled â’ch bod yn gweithio’n galed, fe fydd y tiwtoriaid yn mynd y tu hwnt i bob gofyn er mwyn bod yna ichi. Maen nhw wedi gwneud imi gredu ynof fi fy hun, oherwydd roeddwn i’n arfer bod yn eithaf swil. Ac mae cael campfa o’r radd flaenaf yn fonws enfawr hefyd. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd. Mae’r cymwysterau sydd gen i nawr wedi agor llawer o ddrysau newydd ac arwain at lu o brofiadau cyffrous – ac maen nhw’n dal i wneud hynny.

Rydw i wedi dysgu cymaint yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydw i’n hyfforddwr beicio mewnol, yn hyfforddwr hyfforddiant cylchol, yn arweinydd cerdded, yn hyfforddwr ffitrwydd awyr agored, yn therapydd tylino chwaraeon, yn hyfforddwr ymarfer corff ar gyfer plant, yn hyfforddwr ymarfer corff i gyfeiliant cerddoriaeth, yn hyfforddwr campfa… A hyn i gyd mewn dwy flynedd! Erbyn hyn, mae gen i chwech o ddosbarthiadau parhaol mewn pump o gampfeydd gwahanol – diolch i Coleg Gwent.

Gallaf lwyr argymell y cwrs hyfforddiant personol i bwy bynnag sy’n danbaid dros chwaraeon neu ffitrwydd. Os ydych yn barod i weithio’n galed, bydd yn brofiad gwirioneddol werth chweil. Pleser, yn hytrach na gorchwyl, yw mynd i’r gampfa i hyfforddi cleientiaid; mae fel pe bawn i’n mynd yno i gael hwyl. Mae pob diwrnod yn wahanol, rydych yn cyfarfod â phobl newydd, ac rydych yn eu helpu i newid eu bywydau er gwell. Dyna sydd gan Coleg Gwent i’w gynnig!”

 

Dilynwch yn ôl troed Robin a LLWYDDWCH fel oedolyn sy’n ddysgwr yn Coleg Gwent!

Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf er mwyn dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid, trafod eich opsiynau, neu gael gwybodaeth am ein gwasanaethau cymorth – ac ymgeisiwch nawr!

Robin

Manteisiwch ar y cyfle i Lwyddo fel y dymunwch gyda chwrs rhan amser!