En

Mae Coleg Gwent yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd a Phrentisiaethau 2019!


4 Mawrth 2019

Mae Coleg Gwent yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd a Phrentisiaethau 2019!

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd ac Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (4-8 Mawrth), byddwn yn arddangos llwyddiannau rhai o’n prentisiaid a’n myfyrwyr, a sut mae’r coleg yn eu helpu nhw i gyflawni gyrfaoedd eu breuddwydion.

Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd</span> Mae’r myfyriwr Rheolaeth Adwerthu, Brian Beni, (yn y llun uwch) yn astudio gradd sylfaen gyda ni ar hyn o bryd. Hoffai agor ei fusnes ei hun yn Affrica, sef o ble y daw yn wreiddiol. “Deuthum o Affrica gyda phrin sgiliau Saesneg; roedd rhaid mi gyfieithu popeth ond mae’r coleg wedi fy helpu i deimlo’n hyderus wrth siarad, darllen ac ysgrifennu. “Rwyf wedi gwneud lefel 2 mewn TG a lefelau 2 a 3 mewn. Busnes cyn mynd ymlaen i’r radd sylfaen hon. Mae’n well na mynd i’r Brifysgol gan fod y dosbarthiadau yn llai felly rydych chi’n dod i nabod y tiwtor yn well ac yn cael mwy o gefnogaeth.” Ar ôl darfod ei radd, bydd Brian yn dychwelyd i Affrica. Ei gyngor i fyfyrwyr? “Byddwch chi eich hun. Gofynnwch gwestiynau bob tro pan nad ydych chi’n siŵr o’ch pethau.”

Mae myfyriwr therapi harddwch Lefel 3, Elle Rogers, yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arni i sefydlu ei busnes ei hun fel therapydd harddwch symudol. “Rwyf wrth fy modd hefo harddwch a cholur, rwyf yn mwynhau gwneud i bobl edrych yn dlws. Rwyf eisiau sefydlu fy musnes fy hun a thrwy astudio Bagloriaeth Cymru, sy’n edrych ar ddatblygu busnes, materion y gymuned a materion cyfoes, bydd hyn yn fy nghynorthwyo i sefydlu ar fy mhen fy hun fel therapydd harddwch symudol. “Fy nghyngor i ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio’r cwrs yma? Sicrhewch eich bod yn teimlo’n gyffyrddus â’r amgylchedd cyn i chi gofrestru; astudiais i fy nwy flynedd gyntaf mewn coleg arall cyn trosglwyddo i’r coleg hwn oherwydd roedd well gen i’r fan yma. Mae salon newydd ar ein campws ac roeddwn i’n teimlo bod yr athrawon a’r cyd-fyfyrwyr yn hynod o groesawgar.”

Mae Chloe Rouse, 20, yn fyfyrwraig ar ein cwrs iechyd a gofal lefel 3, cwrs sydd wedi’i ddylunio gyda chyflogwyr fel gall myfyrwyr weithio ar brosiectau diwydiant y byd go iawn. Dyma ein hail flwyddyn fel yr unig goleg sy’n rhan o Careers Colleges yng Nghymru, ac mae Chloe yn medi manteision y rhaglen hon. “Cefais fy nghyflwyno i’r cwrs Careers Colleges hwn gan diwtor, rwy’n gwneud profiad gwaith dau ddiwrnod yn y coleg, yn gweithio gyda myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol</a>;; rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda nhw. Rwyf hefyd yn astudio tri diwrnod yn y coleg fel rhan o’r cwrs – mae gwahanol fodiwlau ac unedau i’w hastudio mewn iechyd a gofal. “Roedd astudio iechyd a gofal wastad yn opsiwn i mi, roeddwn eisiau gweithio gyda phobl sydd ag anawsterau dysgu gan fod fy chwaer wedi cael diagnosis ohonynt. Rwyf eisiau mynd yn syth i swydd ar ôl hyn ac aros yng Nghymru.” Yn ddiweddar, ymgymerodd y Career Colleges Trust ag ymchwil ar ran Coleg Gwent ac mae mwy na hanner o bobl ifanc 13-16 oed yng Nghymru yn credu bod y system addysg yn canolbwyntio ar raddau academaidd neu dablau cynghrair yn hytrach na chyfleoedd gyrfaoedd y dyfodol. Darllenwch fwy am y canfyddiadau yma.

Wythnos Genedlaethol PrentisiaethauBu iJoshua Martin astudio lefelau A yn gyntaf yn y chweched dosbarth a hyfforddodd fel cyfrifydd a gweithio fel cogydd cyn astudio Diploma Estynedig Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 gyda ni i fod yn beirianydd – gyrfa sydd wedi mynd â’i fryd erioed. “Roedd lefelau A yn ymddangos fel y dewis amlwg ar ôl TGAU ac nid oedd llawer o bobl yn gwybod am brentisiaethau y tu hwnt i fod yn fecanydd. Dewisais Fathemateg, Cemeg, TGCh a Dylunio Cynnyrch. Wedi i mi ennill graddau A yn y pynciau hyn yn TGAU, roeddwn o’r gred eu bod yn ddewis da, yn arbennig gan eu bod yn fy rhoi ar lwybr gyrfa peirianneg. Ar ôl i mi gychwyn fy lefelau A, bu i’r naid yn nwyster y cyrsiau yn rhwystr i mi, hyd nes y dywedodd fy athro Mathemateg wrthyf na fyddwn i byth yn ei gwneud hi fel peiriannydd”, dywedodd Josh. Ar ôl cwblhau ei lefelau A, cyflawnodd ganlyniadau a alluogodd ef i ymgymryd â blwyddyn sylfaen yn y brifysgol yn unig, felly penderfynodd ddilyn cymhwyster proffesiynol ACCA ym Mhrifysgol De Cymru yn hytrach na’r flwyddyn sylfaen. Yn sydyn iawn sylweddolodd nad dyma oedd yn mynd â’i fryd, penderfynodd Josh i ymgymryd â swydd llawn amser fel cogydd a gynigiwyd iddo yn ei swydd rhan amser yn y diwydiant lletygarwch. Gan weithio fel cogydd am flwyddyn, sylweddolodd bod ei galon yn y maes peirianneg ac ymgeisiodd i astudio gyda ni. “Yn fwy cymwys ac yn hŷn na phawb arall, dewisais ddechrau astudio’r Diploma Estynedig Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 yn Coleg Gwent. Erbyn yr amser y byddwn yn gorffen y cymhwyster ar ôl dwy flynedd, byddai fy ffrindiau wedi gorffen eu graddau a byddwn i dal mewn sefyllfa lle byddai gennyf gymhwyster sy’n gymesur â’r lefelau A yr oeddwn wedi’u hennill eisoes yn unig. Gwaetha’r modd, dechreuais arni a dyna pha bryd y sylweddolais fod mwy a mwy o brentisiaethau uwch/gradd yn cael eu cyflwyno gan gwmnïau mawrion a phenderfynais mai dyna oedd fy nod. Gallwn ddechrau gwaith cyflogedig yn syth ar ôl gorffen fy nghymhwyster a byddwn yn cael gradd lawn am ddim”, ychwanegodd Josh.

Mae Ryan Bowles yn gyn-fyfyriwr Cerbyd Modurol Crosskeys. Cychwynnodd Ryan ar ei gyfnod yn Coleg Gwent fel dysgwr ar raglen gyswllt ysgolion, ble caiff ddysgwyr ysgol y cyfle i fynychu coleg unwaith yr wythnos i gwblhau cwrs galwedigaethol. Pan ddaeth cyfnod Ryan yn yr ysgol i ben, cofrestrodd ar gwrs Diploma llawn amser ar gampws Crosskeys. Yn ystod ei amser yno, cyflawnodd Ddiplomâu Lefel 1, 2 a 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn. Fis Medi diwethaf, enillodd Ryan brentisiaeth cerbydau nwyddau trwm gyda MAN ac o fewn ychydig fisoedd cystadlodd yn rownd derfynol cystadleuaeth Sgiliau Cerbydau Nwyddau Trwm Cymru, gan ennill y fedal efydd. Mae’n wych gweld y cyflawniadau y mae Ryan wedi’u gwneud ers bod yn un o’n dysgwyr.

Diwrnod Rhyngwladol y Merched IMae Diwrnod Rhyngwladol y Merched (Dydd Gwener 8 Mawrth) yn digwydd ochr yn ochr ag Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd ac Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. I ddathlu’r diwrnod cenedlaethol hwn, rydym ni’n rhannu llwyddiannau ein myfyrwyr benywaidd a’u teithiau yn y coleg hyd yn hyn. Darganfyddwch fwy.