En
Kayleigh Barton headshot and Crosskeys campus and performers on stage

Cwrdd â'r Dysgwr: Kayleigh yn perfformio'n dda o fewn addysg uwch


24 Mawrth 2021

Enw: Kayleigh Barton
Cartref: Y Fenni
Cwrs: Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio
Campws: Crosskeys Campus

Mae astudio ar lefel prifysgol yn gam mawr. Ond fel y dysgodd Kayleigh Barton, nid oes rhaid i chi fynd yn bell o adref i ddatblygu eich gyrfa. Mae ein cyrsiau addysg uwch ar gael yn lleol i chi.

Mae Kayleigh â’i bryd ar ddod yn actores lwyddiannus, a daeth o hyd i Radd Sylfaen ddelfrydol mewn Celfyddydau Perfformio mewn amgylchedd oedd yn addas iddi. Mae hi’n mwynhau pob eiliad o’r radd hyd yn hyn…

Pam y dewisoch chi astudio eich cwrs lefel prifysgol yn Coleg Gwent?

“Ar ôl astudio cymwysterau Safon Uwch, gwyddwn fy mod eisiau mynd i’r Brifysgol. Wrth edrych ar Brifysgolion a chyrsiau gwahanol, dysgais y byddai’n rhaid i mi fyw ar safle rhai Prifysgolion, ac nid oeddwn yn rhy hoff o’r syniad.

Gwelais y gallwn ddilyn cwrs yng Nghaerdydd, a’i gwblhau yno. Yna gwelais yr un cwrs yng Nghampws Crosskeys yn Coleg Gwent, oedd yn cynnig yr un cymhwyster. Felly, penderfynais fynd i Crosskeys am gyfweliad i weld a oeddwn yn gallu ymuno â’r cwrs hwn, a chefais daith o’r cyfleusterau yno hefyd. Roeddwn yn fodlon iawn ar ôl gorffen y daith, a gwyddwn beth oedd fy mhenderfyniad.

Ers cychwyn ym mis Medi, mae pawb rwyf wedi cwrdd â nhw wedi bod yn groesawgar, ac rwy’n falch iawn fy mod yn cael astudio mewn amgylchedd mor arbennig! Roeddwn yn bryderus iawn i gyfarfod â phobl newydd a fy nghwrs ar fy niwrnod cyntaf, ond yn syth ar ôl cychwyn, diflannodd y nerfau am fod pawb yn yr un cwch. Gwnaeth pawb helpu a chefnogi ei gilydd, a gwyddwn y byddwn yn parhau i wneud hynny.”

Pam y dewisoch chi’r Radd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio?

“Rwyf wedi mwynhau Drama ac Actio ers i mi fod yn ddim o beth, felly doedd dim amheuaeth mai dyma oeddwn eisiau ei wneud fel gyrfa yn y dyfodol. Fy hoff elfen o ddilyn gyrfa ym maes Drama ac Actio yw’r dawnsio, y canu a’r actio ar lwyfan. Rwy’n teimlo’n gartrefol iawn bob tro rwy’n cymryd rhan mewn sioe ac yn camu ar lwyfan. Rwyf bob amser yn cael y teimlad mai dyma’n union lle rwyf eisiau bod nawr, ac yn y dyfodol.

Penderfynais astudio Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio pan roeddwn yn edrych ar UCAS a’r dewis amrywiol o gyrsiau Prifysgol ar ddiwedd fy astudiaeth Safon Uwch. Ar ôl dod o hyd i’r cwrs hwn, penderfynais wneud mwy o ymchwil arno er mwyn deall beth oedd ynghlwm ag o. Wrth bori, teimlais gysylltiad cryf yn ffurfio rhyngof fi a’r cwrs. Roedd y cwrs yn cynnwys popeth roeddwn eisiau ei astudio, a phopeth roeddwn yn chwilio amdano.”

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

“Rwyf wedi mwynhau bob eiliad o’r cwrs ers ei gychwyn! Rwyf wedi mwynhau cyfarfod â thiwtoriaid newydd, a gwneud ffrindiau newydd. Rwyf wedi cael cyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol nad oeddwn byth wedi meddwl y buaswn yn cael cyfle i gwrdd â nhw, fel rhan o’r modiwlau rydym wedi’u cwblhau. Yn eu plith roedd Owen Thomas, Gareth John Bale, Richard Harrington a Tracy Harris. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gymryd y camau nesaf ar y cwrs hwn, ac rwy’n gwybod fy mod am fwynhau pob eiliad o’r daith!”

Beth yw eich cyflawniad mwyaf yn y coleg hyd yn hyn?

“Hyd yn hyn, fy nghyflawniad mwyaf yw cwrdd â’r gweithwyr proffesiynol. “Ers cychwyn ym mis Medi, mae nifer y gweithwyr proffesiynol rwyf wedi cael cyfle i gwrdd â nhw, a gweithio iddynt ar gyfer un modiwl, wedi bod yn arbennig! Ni feddyliais y byddwn yn cael cyfle o’r fath. Mae bob gweithiwr proffesiynol wedi rhoi adborth gwych i mi, a gallaf ei ddefnyddio ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol, a bydd yn parhau i gefnogi fy sgiliau fel actores.

Tracy Harris, Richard Harrington, Gareth John Bale and Owen Thomas

Tracy Harris, Richard Harrington, Gareth John Bale, Owen Thomas

 

Cyflawniad arall rwy’n falch iawn ohono oedd derbyn fy marc cyntaf. Derbyniais farc o 2:1 ar gyfer fy aseiniad cyntaf, oedd yn farc eithaf uchel ar y meini prawf marcio. Rwy’n hapus iawn gyda’r marc hwnnw, ac rwy’n teimlo ei fod yn gyflawniad da iawn ar gyfer fy aseiniad cyntaf!”

Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs lefel prifysgol yn Coleg Gwent?

“Un o’r pethau gorau heb os yw cwrdd â ffrindiau newydd. Rwyf wedi gwneud ffrindiau arbennig, fydd yn ffrindiau am byth! Mae’n un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen ato fwyaf wrth ddod i’r coleg bob dydd. Maent yn gwneud y cwrs yn ddiddorol iawn, ac rydym yn gwybod ein bod ni’n gallu gweithio’n dda gyda’n gilydd. Un o’r pethau gorau eraill yw cwrdd â’r tiwtoriaid. Maen nhw wedi bod yn groesawgar tu hwnt, ac wedi gwneud y gwaith ar gychwyn y cwrs yn ddiddorol iawn, a byddant yn parhau i wneud hynny rwy’n siŵr!”

Beth yw eich nodau tymor hir ar ôl gorffen eich Gradd Sylfaen?

“Fy nodau tymor hir yw parhau â’r cwrs hwn, a mynd i Brifysgol Caerdydd ar gyfer fy mlwyddyn olaf i astudio Gradd Anrhydedd BA mewn Celfyddydau Perfformio. Yna, ar ôl cwblhau’r ddwy flynedd nesaf yma yn Coleg Gwent, byddaf wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i fod yn actores lwyddiannus!”

A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio eich cwrs lefel prifysgol yn Coleg Gwent?

“Ewch amdani! Dyna yw fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr sydd eisiau astudio cwrs lefel prifysgol yn Coleg Gwent. Manteisiwch ar bob cyfle sy’n codi, am na wyddoch pryd ddaw cyfle cyffelyb ar eich traws eto. Cymerwch un dydd ar y tro a cheisiwch wneud eich gorau hyd yn oed os yw pethau’n heriol. Gallwch ond gwneud eich gorau yn dibynnu ar yr ymdrech rydych yn ei roi i’r cwrs!”

Nid oes angen bod ofn Addysg Uwch. Drwy astudio’n lleol yn Coleg Gwent, gallwch ennill cymhwyster lefel prifysgol heb orfod byw oddi wrth deulu a ffrindiau, a bydd y gost yn llawer llai i chi hefyd! Os ydych chi’n edrych ar eich opsiynau addysg uwch, ac eisiau datblygu eich gyrfa ymhellach, fel Kayleigh, beth am ymuno â’n Digwyddiad Agored Rhithiwr ar Addysg Uwch. Dewch o hyd i gyrsiau lefel prifysgol yn agosach i adref, er mwyn i chi astudio’n lleol a datblygu ymhellach!