En
Tracy Harris, Richard Harrington, Gareth John Bale and

Dysgwyr y Celfyddydau Perfformio yn Gweithio gyda Pobl Greadigol Enwog Cymru


5 Chwefror 2021

Nid yw’n gyfrinach fod Cymru wedi cynhyrchu rhai doniau creadigol rhagorol dros y blynyddoedd, ac rydym yn falch i chwarae ein rhan mewn meithrin perfformwyr Cymreig newydd hefyd. Mae ein Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio yn arwain y ffordd i berfformwyr uchelgeisiol sy’n mentro i fyd cystadleuol drama. Maent yn cael manteisio ar ein tiwtoriaid medrus ac yn cael eu harwain ganddynt, defnyddio cyfleusterau proffesiynol a manteisio ar bartneriaeth swyddogol gyda Theatr Riverfront; yn ogystal â chael eu harwain gan ystod o siaradwyr gwadd gyda mewnwelediad gwerthfawr i’r diwydiant cymhleth hwn.

Mae ein Gradd Sylfaen yn rhoi cyfle i chi archwilio drama o safbwynt rhyng-ddisgyblaethol, ac agor drysau (nid drysau llwyfan yn unig) at rolau ar draws y sector. Mae rhywbeth i bawb, pa un ai eich bod yn chwilio am brif rôl ar lwyfan y West End, cyfnod ar y sgrin fawr, neu gyfle i ysgrifennu eich sgript eich hun!

Eleni, mae ein dysgwyr Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio wedi cael y cyfle i gyfarfod a dysgu gan actorion, cyfarwyddwyr, dramodwyr a gwneuthurwyr ffilm proffesiynol o Gymru, sy’n rhannu eu blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth drwy sesiynau rhithiol.

Cwrdd â’r arbenigwyr

Head shot of performing arts learner Kayleigh Barton

Mae Owen Thomas, Gareth John Bale, Richard Harrington a Tracy Harris yn enwau cyfarwydd iawn yn y diwydiant celfyddydau perfformio yng Nghymru. Darparodd bob un ohonynt fewnwelediad unigryw i’r sector i’n dysgwyr. Mae un dysgwr, Kayleigh Barton, wedi mwynhau  cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r maes celfyddydau perfformio: “Ers cychwyn ym mis Medi, mae nifer y gweithwyr proffesiynol rwyf wedi cwrdd â nhw, a gweithio iddynt ar gyfer un modiwl, wedi bod yn arbennig! Mae bob gweithiwr proffesiynol wedi rhoi adborth gwych i mi, a gallaf ei ddefnyddio ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol, a bydd yn parhau i elwa fy sgiliau fel actores.”

Beirniadu ffilm gyda Gareth John Bale

Mae Gareth John Bale, Actor a Chyfarwyddwr Cymraeg enwog, wedi serennu mewn nifer o gynyrchiadau teledu a pherfformiadau theatr, yn o gystal â chyfarwyddo ystod o gynyrchiadau theatr. Beirniadodd waith ffilm ein dysgwyr Celfyddydau Perfformio  o safbwynt actio a chyfarwyddo, cynigiodd ganllawiau ar actio ar gyfer sgrin, a thrafod ei brofiadau a siarad am ddatblygu gyrfa.

Perfformio ‘Ripples’ gan Tracy Harris

Fel rhan o’u modiwl Creu Perfformiad, cafodd ein dysgwyr fwynhau cwmni Tracy Harris, Dramodydd a Gwneuthurwr Ffilm Cymraeg, sy’n gweithio gyda nhw ar ei drama, ‘Ripples’. Mae Tracy yn teimlo ei fod yn bwysig meithrin, cefnogi a mentora’r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig, ac mae’n edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw. Oherwydd COVID, ni allwyd perfformio drama Tracy yn y theatr y llynedd, felly, mae ein myfyrwyr wedi cael y cyfle cyffrous i fod yn criw cyntaf i berfformio’r ddrama mewn theatr.

Golygu sgript gyda Owen Thomas

Yn ystod eu Prosiect Ymarferol Diwydiannau Creadigol, gweithiodd ein dysgwyr gydag Owen Thomas, Dramodydd Cymraeg, sydd â chyfres helaeth o ddramâu llwyddiannus i’w enw. Owen oedd y golygydd sgript ar gyfer y myfyrwyr, gan osod y thema ar gyfer eu penodau, a rhoi adborth ar eu drafftiau. Rhannodd ei brofiad mewn ysgrifennu dialog effeithiol, ffurfio stori a’r elfennau o adrodd stori sydd eu hangen mewn sgript, gan ddweud “mae’r cyfle i rannu ychydig o’r hyn rydym wedi ei ddysgu yn brofiad gwerth chweil.”

Dosbarth meistr cynhyrchu a pherfformio gyda Richard Harrington

Yn enw cyfarwydd ar aelwydydd, ymunodd Richard Harrington o Hinterland, Gangs of London a Poldark, gyda’n grŵp i  drafod y gwaith o ysgrifennu a chynhyrchu drama Laura Wade, ‘Home, I’m Darling’. Tynnodd Richard y testun yn ddarnau, gan gynghori ar gymeriadau a darpariaeth, a darllenodd a pherfformiodd ein dysgwyr olygfeydd gydag o. Dywedodd “roedd gweithio gyda’r myfyrwyr Celfyddydau Perfformio medrus hyn yn fy atgoffa pam roeddwn eisiau bod yn berfformiwr. Dangosodd bob un eu personoliaeth yn y sesiwn, a’u defnyddio nhw’n fanteisiol – roedd eu dehongliadau’n chwistrellu bywyd newydd, egni a dealltwriaeth i’r deunydd, oedd yn ei gyfoethogi rhagor.”

Yn ystod eu hastudiaethau, bydd mwy o weithwyr proffesiynol celfyddydau perfformio Cymreig yn gweithio gyda’n dysgwyr. Bydd hyn yn cyfoethogi eu sgiliau, ac yn eu harwain nhw at y lefel nesaf o berfformio, a rhoi mewnwelediad gwerthfawr iddynt i yrfa yn y diwydiant.

Chwilfrydig am yrfa ym maes y Celfyddydau Perfformio?

Headshot of Performing Arts learner Dylan Guard

Mae astudio’r Celfyddydau Perfformio yn Coleg Gwent yn rhoi cyfle i chi archwilio’r ystod o rolau sydd ar gael yn y diwydiant hwn a datblygu dealltwriaeth gref o’r sector. Gyda gweithdai, ymarferion, trafodaethau, prosiectau a pherfformiadau drwy’r cwrs, byddwch yn ennill profiad hanfodol i roi hwb i’ch cyflogadwyedd. Yn ychwanegol at hynny, byddwch yn ennill mewnwelediad gan weithwyr proffesiynol yn ystod y cwrs hefyd.

Dywedodd Dylan Guard, myfyriwr y flwyddyn gyntaf  “rydych yn teimlo eich bod yn gallu arbrofi a rhoi cynnig ar bethau newydd heb neb yn eich beirniadu, a dyna yn union rydych ei angen ar gyfer y diwydiant hwn. Rwy’n credu y bydd y sgiliau rwyf yn eu dysgu o’r cwrs hwn yn fy helpu i gyflawni fy nod a dod yn actor.”

Os hoffech chi ddysgu mwy, ewch i’n gwefan i ddod o hyd i’n Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio a chychwyn eich gyrfa yn y sector cyffrous hwn yn Coleg Gwent.