En
Employability skills

Gwnewch y gorau o’ch cyfleoedd gyda sgiliau cyflogadywedd


27 Ionawr 2022

Mae Wythnos Gyflogadwyedd ar fin cyrraedd Coleg Gwent o 31 Ionawr – 6 Chwefror, ac mae gennym lu o weithgareddau wedi’u paratoi er mwyn i’n dysgwyr gymryd rhan ynddynt a gwella eu cyfle o gael swydd mewn marchnad swyddi gystadleuol.

Yn Coleg Gwent, mae’n cyrsiau yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer y byd gwaith gan roi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus. Gan weithio’n agos â chyflogwyr ar draws ystod o sectorau, gwyddom pa sgiliau y mae’r galw mwyaf amdanynt a’r hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn eu gweithlu. Felly, rydym yn addasu’n cyrsiau er mwyn rhoi i chi yr wybodaeth, sgiliau a’r profiad fydd yn sicrhau y byddwch yn gyflogai hynod ddeniadol.

Wythnos Gyflogadwyedd

Yn yr Wythnos Gyflogadwyedd hon, rydym wedi trefnu cyfres o sgyrsiau gan siaradwyr gwadd er mwyn i’n dysgwyr gael darganfod awgrymiadau gwych a chyngor ar gyflogadwyedd. Cyflwynir y sgyrsiau gan arbenigwyr diwydiant gan gynnwys Celfyddydau a Busnes Cymru, NatWest a That Media Group, yn ogystal â’n Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd, Zoe Blackler.

Gyda’r themâu yn amrywio o ‘Ysgrifennu cyflwyniad gwych mewn 60 eiliad’ a ‘Sut i gyflwyno’ch syniadau’, i ‘Rhwydweithio digidol ac adeiladu presenoldeb ar-lein’, ‘Ymateb i newid’ a ‘Datblygu partneriaethau gyda busnes a chysylltu gyda diwydiant’, bydd llu o awgrymiadau a syniadau defnyddiol fydd yn fanteisiol i’n dysgwyr pan fyddant yn ymgeisio am swyddi. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a gwybodaeth yn y meysydd hyn, fel y gallant fynd o’r sgyrsiau a rhoi eu dysg ar waith er mwyn gwella’u cyfle o gael swydd!

Mae gennym hefyd gyfres o sgyrsiau yn benodol ar gyfer y diwydiannau creadigol, megis ‘Cael mynediad i’r diwydiant teledu a ffilm a mynd yn llawrydd’ a ‘Curadu a sut i weithio gydag orielau’. Bydd y sgyrsiau mwy penodol hyn yn berthnasol ac yn fuddiol i’n dysgwyr sy’n astudio drama, cerddoriaeth, dawns, celf, dylunio, ffotograffiaeth, y cyfryngau a mwy, gan roi dealltwriaeth iddynt o gyfuniad unigryw o sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn y diwydiant creadigol.

Gellir rhagdybio y bydd hon yn wythnos wych i’n dysgwyr gymryd rhan a chymryd camau tuag at yrfa ddisglair yn y dyfodol – mae manylion am yr holl sgyrsiau a sut i gofrestru ar gael drwy’r ap myfyrwyr, CG Connect Yn ogystal â’r Wythnos Gyflogadwyedd, mae cymorth ar gael yn y coleg drwy gydol y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i wella’u rhagolygon a datblygu eu hunain ar gyfer gwaith.

8 Awgrym gwych i ddod yn fwy cyflogadwy

Employability Week

Mae ein tîm CG Ambitions yn cynnig cymorth, arweiniad a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn academaidd a dyma ychydig o awgrymiadau gwych i chi gael cychwyn arni:

  1. Dewch o hyd i brofiad gwaith yn y maes yr hoffech weithio ynddo – gall hyn hyd yn oed gael ei gynnwys fel rhan o’ch cwrs yn Coleg Gwent!
  2. Dewch i archwilio gweithgareddau allgyrsiol fydd yn rhoi hwb i’ch CV – o gystadlaethau i ymweliadau addysgiadol, cewch ddarlun ychwanegol o’ch gyrfa yn y dyfodol.
  3. Ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth i ysgrifennu’ch CV gall – CG Ambitions gynnig llu o awgrymiadau gwych i chi yma.
  4. Ar gyfer cael awgrymiadau am sgiliau cyfweld – gallwch archebu slot 1:1 gyda’r tîm CG Ambitions er mwyn ymarfer eich technegau cyfweld a chael cyngor ar sut i wella.
  5. Astudiwch Fagloriaeth Cymru i roi hwb i’ch set sgiliau – mae’n gymorth i ddatblygu sgiliau lu, o gyfathrebu i waith tîm, ac o feddwl yn feirniadol i drefnusrwydd.
  6. Datblygwch eich sgiliau Mathemateg a Saesneg – gallwch wirioneddol wella‘ch rhagolygon drwy wella’ch Mathemateg a Saesneg, a gallwn eich helpu i gyrraedd eich nod.
  7. Dysgwch amdanoch eich hun a pha yrfa fyddai’n gweddu’ch sgiliau– bydd ein Buzz Quiz defnyddiol yn eich helpu i adnabod sut fath o bersonoliaeth sydd gennych a chael argymhellion swyddi wedi’u personoleiddio, pynciau i’w hastudio a hyd yn oed awgrymiadau i’ch helpu i weithio’n well.
  8. Dewch i archwilio llwybrau gyrfa – efallai y byddwch yn canfod rôl nad oeddech wedi’i hystyried o’r blaen, felly beth am i chi archwilio’r sectorau swyddi i ddarganfod sut y gellir defnyddio’ch sgiliau.

Bydd dewis i astudio yn Coleg Gwent yn eich helpu i dyfu a datblygu’ch sgiliau ar gyfer y byd gwaith. Byddwch yn gadael y coleg gyda’r cymwysterau, profiad, a’r sgiliau y bydd cyflogwyr eu heisiau a’u hangen, felly gwnewch gais nawr i’w wneud yn gam nesaf i ni a gwnewch yn fawr o’n cymorth a chefnogaeth ychwanegol gyda sgiliau cyflogadwyedd yn Coleg Gwent!