En
Alumni spotlight Dan Nicholls from Dragons Rugby

Sbotolau ar gyn-fyfyriwr: Dan Nicholls o Rygbi’r Dreigiau


24 Ionawr 2022

Coleg Gwent yw’r lle mae llwyddiant yn dechrau ar gyfer cymaint o bobl! Mae llu o actorion, entrepreneuriaid, cerddorion, a sêr chwaraeon wedi dechrau eu taith ar un o’n pum campws, ac mae Dan Nicholls yn ymuno â hwy fel un o’n cynfyfyrwyr llwyddiannus sydd bellach yn gweithio gyda Rygbi’r Dreigiau.

Ar ôl astudio BTEC mewn Astudiaethau Chwaraeon Cenedlaethol ar Gampws Crosskeys rhwng 1991-1993, mae gyrfa lwyddiannus Dan ym myd chwaraeon yn tarddu o Coleg Gwent. Gyda chariad oes tuag at chwaraeon, roedd dewis astudio ei ddiddordeb pennaf yn y coleg yn ddewis naturiol, a dewisodd astudio gyda ni oherwydd ein henw da am gyrsiau chwaraeon.

Ers gadael y coleg, mae Dan wedi symud ymlaen i weithio mewn rolau cyffrous drwy gydol ei yrfa, ac fel Partneriaid Masnachol i Rygbi’r Dreigiau, rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio ag ef unwaith eto yn Coleg Gwent.

Stori Dan

Dan Nicholls Coleg Gwent AlumniBeth oedd y peth gorau am astudio yn Coleg Gwent?

“I mi, roedd y profiad coleg cyfan yn bwysig, nid y cwrs yn unig. Bu dwy flynedd yn y coleg yn help mawr i mi ddatblygu ac aeddfedu fel oedolyn. Gwnaeth y profiad o fywyd coleg – gydag oedolion hŷn a thiwtoriaid yn fy amgylchynu a chael fy nhrin yn wahanol i’r ysgol – wahaniaeth mawr. Gwnes ffrindiau oes yno ac mae’n debyg ei fod yn un o’r profiadau mwyaf boddhaus, hwyliog, addysgiadol a gefais erioed. Teimlais fy mod wedi aeddfedu ac wedi dysgu sgiliau bywyd gwych ar Gampws Crosskeys, a roddodd gychwyn da i mi yn y byd gwaith.”

Dywedwch wrthym am eich gyrfa a’r hyn rydych yn ei wneud nawr.

“Mae fy ngyrfa wedi creu cylch cyfan ers gadael y campws yn 1993. Ar y cychwyn cefais fy nghyflogi fel Swyddog Datblygu Chwaraeon ac ystyriais fynd i’r brifysgol, ond cyfyngodd anaf coes difrifol ar rai o fy mhenderfyniadau. Ar ôl darganfod mai ychydig o gyfleoedd oedd yn bodoli yn y byd datblygu chwaraeon ar y pryd, symudais i gyflogaeth o fewn y diwydiant technoleg. Ar ôl 20 mlynedd o yrfa foddhaus iawn mewn rolau amrywiol ym myd peirianneg, gwasanaeth a gwerthu, penderfynais fy mod eisiau dychwelyd at fy mhrif ddiddordeb – chwaraeon.

Felly, yn 2018, cychwynnais mewn swydd fel Rheolwr Partneriaethau gydag Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality, gan ofalu am nifer o gleientiaid blaenllaw. Ar ôl dwy flynedd, symudais i weithio i’r Dreigiau lle rwy’n gweithio ar hyn o bryd fel Rheolwr Gwerthiant Masnachol.

Bellach rwy’n gyfrifol am yr holl weithgareddau masnachol, noddi a refeniw yn Rodney Parade yng Nghasnewydd. Mae’n swydd amrywiol iawn. Un diwrnod gallaf fod mewn cyfarfodydd gyda chleientiaid, trafodaethau cytundebol ac yn gwneud gwerthiannau newydd, tra gall diwrnod arall olygu paratoi ar gyfer gemau, cyfathrebu â noddwyr a threfnwyr y gynghrair. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath!”

Dan Nicholls from Dragons Rugby at Crosskeys campus

Hyd yn hyn beth yw eich llwyddiant mwyaf ers astudio yn Coleg Gwent?

“Mae’r ffordd rwyf wedi gallu trosglwyddo fy sgiliau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau a rolau yn llwyddiant mawr. Rwyf wedi meithrin perthnasau mewnol ac allanol drwy gydol fy ngyrfa, ac mae hyn wedi dod yn eithriadol o bwysig wrth ymdrin â chwmnïau’n uno, prosiectau refeniw uchel ac anghenion amrywiol cleientiaid.

Yn ogystal, rwy’n credu y gall profi cyfnodau anodd hefyd gael ei weld fel llwyddiant. Rwyf wedi wynebu sawl achos o ddiswyddo mewn cwmnïau yn ystod fy ngyrfa ac wedi goroesi bob un. Roedd gwydnwch a dysgu sut i weithio drwy gyfnodau mwy heriol yn wers wych.”

A fyddech yn argymell i eraill astudio yn Coleg Gwent?

“Yn sicr! Mae’n gyfleuster gwych gydag ystod eang o gyrsiau ac enw da yn gefn iddo. Mae’n rhoi lle i fyfyrwyr asesu eu cynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol, wrth aros mewn addysg llawn amser. Ar ôl dychwelyd i Coleg Gwent drwy ein prosiect partneriaeth fasnachol newydd gyda’r Dreigiau, rwyf wedi gweld y cynnydd maent wedi ei wneud ar y campws, ac roedd bod yn dyst i hyn yn gyffrous iawn!”

Os ydych eisiau llwyddo ym myd chwaraeon fel Dan a rhoi hwb i gychwyn eich gyrfa, dewiswch Coleg Gwent ac ymunwch â’n rhestr o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus, sy’n parhau i dyfu. Cofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf i ddysgu mwy yngylch ein cyrsiau a bywyd coleg.