En
Dragons academy staff and partners

Rygbi’r Dreigiau yn Cyhoeddi Partneriaeth gyda Coleg Gwent


8 Rhagfyr 2021

Pleser yw cyhoeddi ein bod bellach yn un o Bartneriaid Masnachol Swyddogol Rygbi’r Dreigiau ar gyfer tymhorau 2021-2022. Yn ogystal â datblygu talentau rygbi pobl ifanc, ni yw un o’r colegau gorau ei berfformiad yng Nghymru ar gyfer Safon Uwch ac astudiaethau galwedigaethol, felly bydd modd ichi ddilyn addysg ôl-16 ochr yn ochr â gwella eich sgiliau ar y cae rygbi.

Mae gan Rygbi’r Dreigiau enw da am feithrin rhai o’r talentau newydd gorau yn y byd rygbi yng Nghymru, gyda chwaraewyr lleol yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol ar y cae. Rydym wedi gweithio gyda’r Dreigiau ers sawl blwyddyn i hwyluso addysg ôl-16 ochr yn ochr â hyfforddiant rygbi, gan esgor ar chwaraewyr y dyfodol ar gyfer y Dreigiau. Mae nifer o’r chwaraewyr lleol hyn wedi deillio o’n Hacademi Rygbi Dreigiau Iau lwyddiannus yng Nghampws Crosskeys, gydag 11 o gyn-chwaraewyr Coleg Gwent yn chwarae’n broffesiynol ar hyn o bryd, pum chwaraewr yn y garfan bontio ddatblygol a saith o’n dysgwyr cyfredol yn Academi’r Dreigiau. Hefyd mae Elliot Dee, cyn-ddysgwr yn Coleg Gwent, wedi chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiannau rygbi Cymru yn ystod y tymhorau diwethaf, ac felly Ollie Griffiths a Tyler Morgan, sef chwaraewyr rhyngwladol a chyn-fyfyrwyr Coleg Gwent.

Mae Academi Rygbi Iau Dreigiau Coleg Gwent yn galluogi darpar chwaraewyr rygbi proffesiynol i wella’u sgiliau a chael mynediad at amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau ar garreg eu drws, gan esgor yr un pryd ar gyfleoedd i fentro i’r byd rygbi proffesiynol gyda’r Dreigiau. Mae Academi Rygbi Iau y Dreigiau wedi mynd o nerth i nerth. Yr hyfforddwyr ar hyn o bryd yw Matthew Jones (Prif Hyfforddwr a chyn-chwaraewr ar gyfer Cymru/y Gweilch/y Dreigiau/hyfforddwr Lefel 3 Undeb Rygbi Cymru/a chwaraewr/hyfforddwr ar hyn o bryd yng Nghlwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr), Scott Matthews (Academi Cydlynydd Rygbi a chyn-chwaraewr rhyngwladol ar gyfer Cymru dan 20 oed/Hyfforddwr Lefel 3 Undeb Rygbi Cymru/a Chapten cyfredol Clwb Rygbi Pont-y-pŵl), a Steven Llewellyn (cyn-chwaraewr yng Nghlwb Rygbi Caerdydd/cyn-chwaraewr yng Nghlwb Rygbi Crosskeys/hyfforddwr Lefel 3 Undeb Rygbi Cymru).

Dragons academy staff and players

Y llynedd, cafodd y tîm ei enwi’n Bencampwyr Ysgolion a Cholegau Cymru Undeb Rygbi Cymru, a chwaraeodd 16 o’n carfan bresennol rygbi cynrychiadol ar gyfer tîm dan 18 y Dreigiau, gyda chwech o chwaraewyr yn cael eu dewis ar gyfer timau dan 18/dan 19 Cymru, a thri yn chwarae yn nhîm dan 20 Cymru. Yn y cyfamser, mae llwyddiant ein tîm Merched y llynedd yn rhywbeth na welwyd mo’i debyg erioed o’r blaen, a llwyddasant i ennill y gystadleuaeth Urdd WRU 7 a’r gystadleuaeth WRU 10 yn Stadiwm y Principality. Mae carfan merched Rygbi 7 Colegau Cymru yn Bencampwyr trwy Cymru, ac roedd pedwar chwaraewr o Coleg Gwent yn hollbwysig i lwyddiant y garfan honno. Mae twf ac ymroddiad y merched wedi arwain at yr academi rygbi gyntaf yng Nghymru ar gyfer merched. Sefydlwyd hon yng Nghampws Crosskeys fis Medi diwethaf, gan adeiladu ar lwyddiannau’r llynedd.

Mae’r bartneriaeth hon yn cadarnhau ein perthynas hir gyda Rygbi’r Dreigiau, ac mae logo Coleg Gwent i’w weld ar y crysau newydd, ar ffurf arddangosfa LED a hefyd ar faneri’r cae. Bydd hyn yn helpu i ddenu talent newydd i Academi Rygbi Iau Dreigiau Coleg Gwent ac yn galluogi Rygbi’r Dreigiau i barhau i gefnogi’r gymuned a gynrychiolir ganddynt, gan gynorthwyo chwaraewyr ifanc trwy gyfrwng rhaglenni datblygu a chefnogi addysg ôl-16 yn ein hardal.

Mae Jonathan Westwood, Pennaeth Masnachol y Dreigiau, wrth ei fodd o gael ein croesawu i’r teulu masnachol. Mae’r berthynas a grëwyd gennym mewn byr o amser yn brawf bod gennym angerdd cyffredin a gweledigaeth o dwf. Esboniodd fod “Coleg Gwent wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau nifer o bobl o fewn y Dreigiau, yn cynnwys ein gyrfaoedd ni ein hunain, a bydd ein partneriaid yn cynnig cyfleoedd ysbrydoledig eraill ar gyfer myfyrwyr y dyfodol. Rydym yn ymfalchïo yn ein cysylltiad â Coleg Gwent – cysylltiad sydd wedi’i adeiladu ar sylfeini cadarn iawn. Credwn fod Chwaraeon ac Addysg yn gyfuniad perffaith ar gyfer cyfoethogi lles y corff a’r meddwl, gan fynd ati yr un pryd i ddatblygu’r sgiliau bywyd hanfodol y mae eu hangen i gyrraedd ein llawn botensial.”

Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda’n gilydd i feithrin talent rygbi newydd a chreu cyfleoedd ar y cae a thu hwnt i’r rhai hynny sy’n anelu at lwyddo yn y byd rygbi proffesiynol. Beth am ddysgu mwy am Academi Rygbi Iau Dreigiau Coleg Gwent a gweld sut y gallwch gyfuno eich datblygiad yn y maes rygbi gydag astudiaethau academaidd.