En

Cyfrifon Dysgu Personol

Manteisiwch ar gyrsiau HYBLYG, AM DDIM mewn amrywiaeth o ddiwydiannau

Os ydych chi dros 19 oed neu’n hŷn, mewn swydd sy’n ennill llai na £30,596* y flwyddyn ac eisiau cymryd y cam nesaf i gyflawni gyrfa arbennig, gall Cyfrif Dysgu Personol fod yn ddelfrydol i chi.

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyrsiau am ddim sy’n rhoi sgiliau a chymwysterau newydd i chi – rhai y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt – i’ch helpu chi i fanteisio ar brinder sgiliau a chael eich gyrfa i symud.

Yn well fyth, maent yn hyblyg –bydd y coleg yn gwneud ei orau glas i gwrdd ag anghenion pawb wrth gynllunio’r dyddiadau a’r amseroedd y cynhelir y cyrsiau. Mae’r colegau yn hyblyg a’u nod fydd darparu’r dysgu o amgylch ymrwymiadau teuluol a gwaith unigolion.

*Os ydych yn enill dros £30,596, mae genym gyrsiau Cyfrifiadura a “Net Zero” sy wedi’i ariannu heb cap tal.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin a dysgu mwy am Gyfrifon Dysgu Personol.

Gwnewch gais ar gyfer un cwrs ar y tro yn unig, oherwydd os gwnewch sawl cais, dim ond un y gellir ei brosesu.

Er y gallech fod yn gymwys i gael arian ar gyfer mwy nag un cwrs Cyfrif Dysgu Personol, dim ond un cais y pen y gallwn ei dderbyn ar y tro. Os bydd cais yn llwyddiannus ar gyfer cwrs, rhaid i chi gwblhau’r cwrs cyntaf cyn y gellir wneud rhagor o geisiadau.

Noder, byddwch angen cysylltiad â’r rhyngrwyd a gliniadur/cyfrifiadur er mwyn cwblhau un o’n cyrsiau e-ddysgu neu rithiwr. Hefyd, byddwch angen meicroffon a gwe-gamera ar gyfer rhai cyrsiau. Gwiriwch eich bod yn gallu defnyddio’r offer hanfodol cyn cyflwyno eich cais.

I hawlio ad-daliad ar gyfer costau CDP fel ffioedd arholiadau, lawrlwythwch y ffurflen hon.

 

Oherwydd galw mawr, nid oes modd bellach i ni dderbyn ceisiadau ar gyfer hyfforddiant Cerbydau Nwyddau Trwm a ariannwyd gan y Cyfrif Dysgu Personol am gyfnod amhenodol.

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Anfonwch e-bost at pla@coleggwent.ac.uk.
Fel arall, gallwch ffonio 01495 333777

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau