En

Lefelau A

Dewis gwych, addysgu gwych, dyfodol gwych

Gyda chyfradd basio Safon Uwch o 97.4% yn 2023, rydych yn gwybod y gallwch ddisgwyl addysgu o safon gan ein tiwtoriaid sydd wedi ennill gwobrau, cefnogaeth wych, a phrofiad dysgu arbennig yn Coleg Gwent.

Gallwch astudio Safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwentcampws Crosskeys ac ym Mharth Dysgu Torfaen. Dilynir cyrsiau Safon Uwch dros ddwy flynedd, gan ennill eich cymwysterau UG yn y flwyddyn gyntaf, a’r cymwysterau Safon Uwch llawn yn yr ail flwyddyn. Bydd angen i chi ddewis lleiafrif o 3 neu 4 pwnc Safon Uwch ac mae’n bwysig dewis y pynciau cywir ar gyfer yr yrfa y byddwch eisiau ei dilyn.

Rhwydwaith Seren

Rydym eisiau sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn cyflawni eu potensial. Mae’r Rhwydwaith Seren yn darparu sylfaen arbennig i bob myfyriwr a gafodd raddau A* yn TGAU i ymgeisio am le gyda phrifysgolion cystadleuol a dethol Grŵp Russell (grŵp o brifysgolion gyda ffocws cyfunol ar ymchwil ac enw da o ran cyflawniad academaidd). Nod y gweithgareddau a ddarperir yw hybu hyder a gwytnwch, yn ogystal ag ehangu dealltwriaeth o’r pwnc, eich helpu i ddatblygu’r nodweddion y mae prifysgolion Grŵp Russell yn eu gwerthfawrogi ac yn chwilio amdanynt yn eu hymgeiswyr.

Ansicr ynghylch pa lwybr rydych eisiau ei ddilyn?

Peidiwch â phoeni. Mae ein pynciau Lefel A wedi’u grwpio gyda’i gilydd fel llwybrau gyrfa, sy’n cynnwys pynciau sy’n cyd-fynd â’i gilydd i’ch helpu chi i ddewis y cyrsiau mwyaf addas ar gyfer eich nod gyrfaol. Dysgwch fwy ar ein tudalen Llwybrau Safon Uwch neu siaradwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr cyfeillgar am gyngor.

Gyda thros 30 pwnc Safon Uwch i ddewis ohonynt, rydym yn sicr o gynnig cyfuniad i’ch helpu i wireddu gyrfa eich breuddwydion, creu llwybr i fyd gwaith, neu i’r brifysgol!

Bydd eich prif amcan, eich angerdd a’ch sgiliau yn penderfynu pa lwybr yw’r un cywir i chi. Dechreuwch eich stori lwyddiant gyda ni heddiw!

Edrychwch ar ein cyrsiau

86 cwrs ar gael

Yn wreiddiol ystyriais fynd i’r chweched dosbarth oherwydd yr holl straeon a glywais  am y coleg. Ond byddwn bellach yn argymell Lefelau A yma gan fod cymaint o opsiynau ar gyfer cymorth a chefnogaeth. Y peth gorau am astudio yng Ngholeg Gwent yw’r cyfleoedd allgyrsiol y mae’r athrawon yn eu rhoi i chi. Es i ysgol haf ym Mhrifysgol Rhydychen – ni fyddai hyn fyth wedi digwydd heb y coleg!

Mia Jones
Saesneg, Y Gyfraith a Seicoleg, Lefel A

Dal ddim yn siŵr os yw Lefel A ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau