Sioe dod o hyd i’ch dyfodfol, gan Coleg Gwent
Uned 2, Y Porthladd, Canolfan Siopa Friars Walk, Casnewydd
Ymunwch â ni fis Mehefin hwn yng Nghanolfan Siopa Friars Walk ar gyfer digwyddiad ‘Sioe Dod o Hyd i’ch Dyfodol’ cyntaf erioed Coleg Gwent
P’un a ydych chi yn yr ysgol ac yn chwilio am gyngor ar opsiynau gyrfa, neu’n oedolyn sy’n dymuno meithrin sgiliau newydd neu ddechrau gyrfa newydd, galwch heibio i gael sgwrs am eich dyfodol.
Bydd ein tîm Recriwtio Myfyrwyr wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar opsiynau gyrfa a chwrs a bydd yna amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol ymarferol i’ch ysbrydoli chi i gyflawni eich nodau gyrfa.
Uchafbwyntiau’r Digwyddiad
- Byddwn yn cynnal gweithdai o amrywiaeth o ddiwydiannau i trosglwyddo cyngor gwerthfawr i rhoi mewnwelediadau i wahanol opsiynau gyrfa.
- Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol, gan gynnwys paentio car â chwistrell yn rhithwir, gorsaf chwarae gemau, argraffydd 3D, a mwy.
- Gwisgwch ar gyfer llwyddiant mewn amrywiaeth o wisgoedd a chymryd hunlun yn ein bwth lluniau.
- Cael cyngor arbenigol ar gyllid myfyrwyr, ymrestru, canllawiau cwrs, bywyd yn y coleg a sut i wneud cais.
- Cymerwch seibiant a mwynhewch baned o de a darn o gacen am ddim yn ein caffi Coleg Gwent!
Oriau
Dydd Llun 10.00yb – 5.00yp
Dydd Mawrth 10.00yb – 5.00yp
Dydd Mercher 10.00yb – 5.00yp
Dydd Iau 10.00yb – 5.00yp
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf!
Gallwch ddod o hyd i ni yn Uned 2, Y Porthladd, Friars Walk, Casnewydd ar 10 – 13 Mehefin.