En
Crosskeys campus and Additional Support Assistant Anthony Price

Angen ychydig o gymorth ychwanegol yn y coleg? Mae ein Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol (ASAs) yma i chi!


23 Ebrill 2021

Mae cefnogi ein dysgwyr yn un o’n blaenoriaethau yn Coleg Gwent. Oherwydd hyn, rydym wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd dysgu sy’n darparu’r holl gymorth a chefnogaeth sydd ei angen arnoch chi i ffynnu yn y coleg. Mae ein Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol (ASAs) cyfeillgar a gofalgar, fel Anthony Price, yn rhan annatod o’n cymuned gefnogol, ac yn sicrhau na fyddwch ar eich pen eich hun yn y coleg.

Roedd Anthony yn gweithio fel Siopwr Personol yn Tesco cyn ymuno â Coleg Gwent fel ASA, ac roedd yn mwynhau helpu eraill bob dydd. Roedd ganddo hefyd gefndir mewn chwaraeon. Roedd yn hyfforddi yn ei glwb rygbi lleol, ac yn dyfarnu yng Nghynghreiriau Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru. Mae’n mwynhau gweithio gyda phobl erioed, a’u helpu mewn unrhyw ffordd bosib.

Ar ôl cael profiad ysbrydoledig yng Ngholeg Padua, Awstralia, lle cafodd gymorth i ddatblygu ei sgiliau rygbi, sylweddolodd Anthony ei fod eisiau gweithio gyda dysgwyr mewn amgylchedd addysg bellach hefyd. Roedd eisiau swydd lle gallai gefnogi myfyrwyr ar eu taith ddysgu, a phenderfynodd ddod yn ASA yn Coleg Gwent. Mae Anthony bellach yn helpu ac yn cefnogi ein dysgwyr yn ddyddiol. Mae’n eu hannog ac yn rhoi hwb i’w hyder, a’u galluogi nhw i ffynnu a bod yn llwyddiannus yn y coleg.

Felly, beth mae ASA, fel Anthony, yn ei wneud i gefnogi ein dysgwyr yn y coleg?

Mae Anothony yn cyrraedd y coleg cyn i’r gwersi ddechrau, ac yn siarad gyda thiwtoriaid a myfyrwyr i adnabod unrhyw anghenion y gallai ymdrin â nhw yn ystod y wers. Ar ôl i’r wers ddechrau, mae’n gweithio gyda’n tiwtoriaid arbenigol i sicrhau bod bob dysgwr yn deall eu tasgau a’u hamcanion yn llawn. Mae’n gweithio’n agos gyda’r dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol, a’u helpu nhw i reoli eu gwaith. Mae hefyd yn cynorthwyo gyda thripiau oddi ar y safle a theithiau o’r coleg, megis asesiadau alldaith awyr agored.

Mae’n hanfodol fod ASAs fel Anthony yn adeiladu perthynas gref gyda’n dysgwyr, ac yn eu hadnabod yn dda. Dywedodd fod “bywyd yn y coleg yn wahanol i’r ysgol am ei fod yn fwy hamddenol. Mae myfyrwyr yn gwisgo eu dillad eu hunain, ac mae’r coleg yn llai ffurfiol. Gallwch chwerthin gyda’ch tiwtoriaid a’ch cyfoedion, ac mae’r amgylchedd hamddenol hwn yn helpu myfyrwyr i deimlo’n gyfforddus ac i setlo i fywyd coleg.”

Felly, mae rôl Anthony yn bwysig. Mae’n helpu ein dysgwyr i deimlo’n gyfforddus a’u bod nhw’n cael eu cefnogi yn y coleg, sy’n gallu bod yn heriol i rai myfyrwyr newydd.

Beth mae Anthony yn ei fwynhau fwyaf am fod yn ASA?

Mae Anthony yn mwynhau dysgu am ddiddordebau dysgwyr, beth maen nhw ei hoffi, ddim yn ei hoffi, ac a oes unrhyw beth penodol y gall ef ei wneud i’w cefnogi nhw i reoli eu gwaith. Mae’n mwynhau fod bob diwrnod yn wahanol, gweithio gyda myfyrwyr, a’u gwylio nhw’n datblygu fel unigolion ar lefel bersonol ac academaidd. Mae’n ceisio ysbrydoli ein dysgwyr a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, eu helpu a’u hannog nhw i gredu ynddynt eu hunain ar bob cyfle, fel y profiad a gafodd yn Awstralia. Mae’n mwynhau gweithio gydag adran Chwaraeon y coleg yn benodol, lle mae’n defnyddio ei brofiadau mewn chwaraeon i helpu tiwtoriaid ddarparu profiad dysgu cwbl unigryw.

Mae Anthony yn cadw meddwl agored o fewn ei swydd, ac mae bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i gynorthwyo eraill yn y coleg. Mae hyd yn oed wedi mentro astudio ein HND mewn Hyfforddi a Datblygiad Chwaraeon ar Gampws Crosskeys ac mae’n bwriadu cyfoethogi ei gymhwyster gyda gradd o Brifysgol De Cymru.

Pa gyngor fyddai Anthony yn ei roi i ddysgwyr sy’n ystyried ymuno â Coleg Gwent?

Os ydych yn edrych ar gyrsiau y gallwch eu dilyn yn Coleg Gwent, mae Anthony yn dweud fod gan y coleg “amgylchedd amrywiol a chroesawgar sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr dyfu a datblygu’n bersonol ac yn academaidd.”

Mae gan ein coleg amgylchedd lle gall pawb deimlo’n gyfforddus ac yn rhan o gymuned. Mae gennym lawer o weithgareddau cyfoethogi ar gael i chi gymryd rhan ynddynt gyfochr â’ch astudiaethau, o gynrychioli’r coleg mewn cystadlaethau chwaraeon i gyfleoedd gwirfoddoli. Mae rhywbeth i bawb yn Coleg Gwent!

Yn bwysicach na dim, gallwn ddarparu cymorth ychwanegol os oes ei angen ar ddysgwyr. Mae gan ein coleg amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi a staff cymorth penodol, fel Anthony, sydd bob amser ar gael i’ch arwain chi. Mae ein holl staff ac ASAs wedi cael hyfforddiant mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol, heriau ac anableddau. Felly, yn ogystal â nifer o adnoddau eraill ar y campws, gallwn sicrhau eich bod yn gwneud cynnydd yn y coleg ac yn llwyddo o fewn eich astudiaethau.

I ddysgu mwy am ymuno â chymuned Coleg Gwent cofrestrwch nawr ar gyfer ein Digwyddiad Agored Rhithiwr nesaf. Yn ogystal ag ystafelloedd trafod maes pwnc, teithiau campws, gweithgareddau allgyrsiol ac astudiaethau achos myfyrwyr go iawn, mae gennym sgwrs fyw benodol am ein gwasanaethau cefnogi dysgwyr. Ymunwch â ni i ddysgu popeth rydych angen ei wybod am y ffordd all Coleg Gwent eich cefnogi chi ar eich taith addysg bellach!