En
Alumni Rachele Amana

Cyfarfod â’r Dysgwr: Taith Rachele i ddod yn Weithiwr Cymdeithasol


19 Ebrill 2021

Enw: Rachele Amana
Cartref:
Casnewydd
Cwrs:
ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a Mynediad i Nyrsio
Campws:
Campws Dinas Casnewydd

A hithau o Gamerŵn ac yn siarad Ffrangeg, roedd Rachele eisiau dysgu siarad Saesneg i allu cyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill yn y gymuned. Felly, penderfynodd astudio ESOL yng Ngholeg Gwent, a pharatôdd hyn hi am addysg bellach tra roedd hi’n datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth mewn pynciau fel ysgrifennu traethodau. Rhoddodd hyn fodd i Rachele fynd yn ei blaen i gwblhau cwrs Mynediad i Nyrsio Addysg Bellach. Mae hi bellach yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i’w chymuned leol.

Pam wnaethoch chi ddewis Coleg Gwent?

“Roeddwn i’n Geisiwr Lloches ar yr adeg y cyflwynais gais i Goleg Gwent, felly ychydig iawn a wyddwn am yr hyn oedd ar gael yn y gymuned a’r ardaloedd cyfagos. Felly, cefais gyngor a chymorth gan bobl eraill i ddewis coleg addas ar fy rhan. Er hynny, byddwn i’n dweud eu bod nhw wedi gwneud y dewis perffaith i mi oherwydd bu fy athrawon, a phawb o fy nghwmpas, yn gefn i mi gyflawni fy neilliannau personol a chyrraedd fy nod”.

Beth oeddech chi’n hoffi fwyaf am eich cwrs?

Yn fyfyrwraig ESOL, roeddwn i’n mwynhau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Roeddwn i hefyd yn rhyfeddu at y gwahaniaethau diwylliannol rhwng Camerŵn, Cymru, a Phrydain gyfan, a’r pwyslais ar amryfaliaeth a pharch pobl fel unigolion yng Ngholeg Gwent. Roedd fy athrawon ESOL i gyd mor gadarnhaol, goddefgar ac amyneddgar, a gwnaethant i mi deimlo’n gartrefol.

Yna, tra roeddwn i’n gwneud fy nghwrs Mynediad i Nyrsio AU, dysgais am bethau difyr fel dylunio eich babi eich hun – proses ddrud y mae rhai enwogion yn ei gwneud. Dysgais hefyd am effeithiau negyddol rhai meddyginiaethau sydd ar gael i’w prynu ar y we. Mwynheais y rhan fwyaf o’r modiwlau ac ysgrifennu fy nhraethawd hir.

Er bod y cwrs Mynediad i Nyrsio yn anodd, roedd yn bosibl oherwydd roedd yr athrawon yn hynod gefnogol a bu’n sylfaen dda i mi astudio ar lefel gradd.”

Beth yw’r peth gorau am astudio yng Ngholeg Gwent?

“Roedd fy mywyd cymdeithasol yn wych! Fe wnes i ffrindiau da ac rydw i’n dal mewn cysylltiad â rhai o fy athrawon a fu’n ddylanwadol yn fy mywyd drwy roi cyngor a chymorth i mi. Bydd y diwrnod y cefais ddillad hyfryd gan un o fy athrawon yn aros efo fi am byth – sôn am deimladwy. Rydw i wedi cadw rhai ohonynt i gofio. Mae hyn yn atgyfnerthu’r ffaith bod Coleg Gwent yn rhoi gwerth ar addysg, ond hefyd ar ddatblygu cyfeillgarwch a chael pobl ofalgar o’ch cwmpas.

Roedd amrywiaeth o lyfrau hefyd ar gael yn y llyfrgell ac roedd rhai llyfrau ar gael ar ffurf E-lyfrau. Ni fu’n rhaid i mi brynu’r un llyfr yn ystod fy amser yn y Coleg oherwydd roedd digonedd yn y llyfrgell i fodloni anghenion myfyrwyr. Cefais gymorth hefyd fel cael staff y llyfrgell i brawf-ddarllen, ac roedd cwrs ychwanegol ar gael i wella fy Saesneg o’r enw Learn Direct.”

A oeddech chi’n wynebu unrhyw her cyn mynd i Goleg Gwent? Os felly, sut wnaeth y coleg eich helpu chi?

“Fel y soniais ynghynt, bod yn geisiwr lloches oedd angen gallu siarad Saesneg oedd fy her fwyaf. Rydw i’n cofio un o fy athrawon ESOL yn dweud wrthyf ‘os wyt ti am wella dy Saesneg, rhaid i ti wneud ffrindiau efo pobl eraill yn y gymuned.’

Fe wnes i wirioneddol fwynhau fy hun yn ystod yr holl flynyddoedd hynny yng Ngholeg Gwent oherwydd cefais gymorth ymarferol ac emosiynol gan fy holl athrawon. Gwerthfawrogais y cymorth emosiynol yn fawr gan mai dyma oedd ei angen fwyaf arna’ i oherwydd fy sefyllfa a fy amgylchiadau ar y pryd. Daliais ati oherwydd y cymorth ymarferol ac emosiynol a gefais a wnaeth i mi deimlo fy mod o bwys a’m hannog i weithio’n galetach. Cefais Wobr Gwydnwch Eunice Taylor hyd yn oed!”

Beth ydych chi’n ei wneud nawr a beth yw eich nodau hirdymor o ran gyrfa?

“Cwblhau Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol oedd fy nghamp fwyaf hyd yma. Cwblheais radd BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd.

Rydw i bellach yn Weithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gyda blwyddyn yn y swydd. Gyda’r Gwasanaethau Oedolion ydw i ar hyn o bryd. Er hynny, cefais swydd yn ddiweddar gyda’r Gwasanaethau Plant a byddaf yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd.”

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr eraill sy’n meddwl astudio yng Ngholeg Gwent?

“Os ydw i wedi llwyddo i gyflawni fy neilliannau personol, mae hyn yn golygu y gall unrhyw fyfyriwr wneud yr un fath oherwydd mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd yn dangos diddordeb mewn astudio. Mae athrawon a holl aelodau staff Coleg Gwent wedi cyfrannu’n aruthrol at fy llwyddiant, ac wedi fy helpu i oresgyn helbulon a bod y ferch yr oeddwn i eisiau bod.”

Llwyddodd Rachele i gyrraedd ei nod i wella’i sgiliau Saesneg drwy ein cwrs ESOL, a mynd ymlaen i gwrs Mynediad i Nyrsio a gwneud ffrindiau am oes tra roedd hi wrthi. Gyda’r cymorth iawn, mae hi’n dangos i ni fod unrhyw beth yn bosibl. Gallech chi wneud yr un fath â hi drwy gyflwyno cais heddiw i ddechrau ar eich taith efo Coleg Gwent.

Gallwch ymuno â’n Digwyddiad Agored Rhithiol nesaf a chael mwy o wybodaeth.