En

Dysgwyr addysg uwch yn disgleirio. Cyhoeddi enillwyr yn ystod digwyddiad graddio


13 Hydref 2023

Enwebwyd myfyrwyr addysg uwch o bob rhan o’r coleg ar gyfer rhestr o wobrau arbennig

Yr wythnos hon, dathlwyd cyflawniadau ein dysgwyr addysg uwch mewn digwyddiad gwobrwyo a graddio arbennig a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Bryn Meadows.

Mynychodd dros 150 o westeion y digwyddiad i gydnabod gwaith caled a llwyddiant ein dysgwyr ysbrydoledig ar draws ystod o gyrsiau lefel prifysgol.

Dathlodd y digwyddiad raddio dysgwyr Pearson a gwblhaodd gyrsiau HNC a HND mewn celfyddydau perfformio a cholur arbenigol, adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, peirianneg sifil gweithgynhyrchu uwch, a pheirianneg drydanol yn Coleg Gwent.

Ochr yn ochr â seremonïau graddio Pearson, enwebwyd myfyrwyr addysg uwch o bob rhan o’r coleg ar gyfer rhestr o wobrau arbennig, yn cynnwys Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn, Cyflawnwr Uchel, Dysgwr Ysbrydoledig, a Goresgyn Trallod Roedd yna hefyd Wobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn i fyfyriwr o bob un o’n cyfranogwyr  prifysgol partner – AberystwythMetropolitan CaerdyddPrifysgol De CymruCaerwrangon, a Pearson.

Enwebodd staff y dysgwyr oedd ar eu cwrs yn seiliedig ar eu hymrwymiad i’w hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u cynnydd yn ystod eu hamser yn Coleg Gwent. Tynnodd y beirniad restr fer o gannoedd o fyfyrwyr ar gyfer y gwobrau mawreddog, cyn dewis enillwyr, a dysgwyr a ddaeth yn ail gyda chanmoliaeth uchel, o bob categori.

Llongyfarchiadau enfawr i bawb a enwebwyd a’r enillwyr haeddiannol:

  • Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn –Duane Richards
  • Llysgennad Dysgu Addysg Uwch – Carolyn Watkins
  • Cyflawnwr Uchel –Matthew Jones
  • Dysgwr Ysbrydoledig – Tomos Hitchman
  • Goresgyn Trallod – Leanne Windsor, Jade Parry
  • Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn:
    • Aberystwyth –Bethan Johnson
    • Metropolitan Caerdydd – Vincent Dimu
    • Prifysgol De Cymru – Caitlyn Mapps
    • Caerwrangon – Graham Betty
    • Pearson – Duane Richards

Yn ogystal â gwobrau’r dysgwyr, roedd yna wobr Aelod o Staff Addysg Uwch y Flwyddyn, ble roedd modd i’n dysgwyr enwebu eu tiwtoriaid a diolch iddynt am eu cymorth. Llongyfarchiadau i Gordon Collins & Dennis Gardineron am ennill y gydnabyddiaeth hon.

Ymunodd ein siaradwr gwadd a chyn-fyfyriwr Coleg Gwent, Megan Goodchild, â’r noson a siaradodd am ei llwyddiant ers y coleg a lansio’r stiwdio goluro gyntaf yn ne Cymru sef ‘The Face Boss Studio’.

Dywedodd Angela Lewis, Pennaeth Addysg Uwch: “Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn ddathliad ysbrydoledig o ymroddiad, dyfalbarhad a chyflawniad. Rydym yn hynod falch o gyflawniadau ein dysgwyr talentog ac o’r tîm gweithgar o staff sy’n eu cefnogi bob dydd i gyflawni pethau mawr.

“Mae’r dathliad hwn yn gweithio fel atgoffwr pwerus o arwyddocâd dysgu gydol oes a’r potensial sydd gennym fel addysgwyr i gael effaith gadarnhaol. Gadewch inni barhau i gofleidio gwybodaeth a thyfiant, a newid bywydau trwy ddysgu.”

Llongyfarchiadau i’n dosbarth addysg uwch 2023!

Cewch fwy o wybodaeth am ein cyrsiau addysg uwch – mae cymhwyster lefel prifysgol o fewn eich gafael.