En
Higher education students win awards at graduation event

Myfyrwyr addysg uwch yn ennill gwobrau mewn digwyddiad graddio


13 Hydref 2022

Neithiwr, dathlodd ein myfyrwyr addysg uwch eu cyflawniadau mewn digwyddiad dynodedig yng  Nghlwb Golff Bryn Meadows – un o’n partneriaid addewid y gweithwyr lleol. Mynychodd dros 150 o westeion y digwyddiad i gydnabod gwaith caled a llwyddiant ein dysgwyr ysbrydoledig ar draws ystod o gyrsiau lefel prifysgol.

Dathlodd y digwyddiad raddio dysgwyr Pearson a gwblhaodd gyrsiau HNC a HND mewn celfyddydau perfformio a cholur arbenigol, adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, peirianneg sifil,  gweithgynhyrchu uwch, a pheirianneg drydanol yn Coleg Gwent. Gan nad oes gan Pearson eu seremoni graddio eu hunain, rydym yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr dderbyn tystysgrifau graddio, i nodi eu cyflawniad wrth iddynt fynd ymlaen o’r coleg i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

Higher education students win awards at graduation event

Ochr yn ochr â seremonïau graddio Pearson, enwebwyd myfyrwyr addysg uwch o bob rhan o’r coleg ar gyfer rhestr o wobrau arbennig, yn cynnwys Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn, Cyflawnwr Uchel, Dysgwr Ysbrydoledig, a Goresgyn Trallod Roedd yna hefyd Wobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn i fyfyriwr o bob un o’n cyfranogwyr  prifysgol partner – Aberystwyth, Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Caerwrangon, a Pearson.

Enwebodd staff y dysgwyr oedd ar eu cwrs yn seiliedig ar eu hymrwymiad i’w hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u cynnydd yn ystod eu hamser yn Coleg Gwent. Tynnodd y beirniad restr fer o gannoedd o fyfyrwyr ar gyfer y gwobrau mawreddog, cyn dewis enillwyr, a dysgwyr a ddaeth yn ail gyda chanmoliaeth uchel, o bob categori.

Higher education students win awards at graduation event

Llongyfarchiadau enfawr i bawb a enwebwyd a’r enillwyr haeddiannol:

  • Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn – Romie Bow
  • Cyflawnwr Uchel – Thomas Hathway
  • Dysgwr Ysbrydoledig – Romie Bow
  • Goresgyn Trallod – Dawn Rowlands
  • Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn:
    • Aberystwyth – Kate Brocklehurst
    • Metropolitan Caerdydd – Racheal Thomas
    • Prifysgol De Cymru – Charlyann McClagish
    • Caerwrangon – Dominic Williams
    • Pearson – Emily Watkins

Yn ogystal â gwobrau’r dysgwyr, roedd yna wobr Aelod o Staff Addysg Uwch y Flwyddyn, ble roedd modd i’n dysgwyr enwebu eu tiwtoriaid a diolch iddynt am eu cymorth. Llongyfarchiadau i Tracey Dobbs & Peter Britton am ennill y gydnabyddiaeth hon.

Higher education students win awards at graduation event

Gyda diodydd croeso, bwyd bys a bawd, bwth tynnu lluniau, telynor talentog, a sgwrs ysbrydoledig gan Becky Legge o Fragdy Tiny Rebel, cyn-fyfyriwr o Coleg Gwent, roedd yn noson i’w chofio i’n dysgwyr a oedd yn graddio. Wrth gwblhau cwrs addysg uwch yn Coleg Gwent, maent yn gadael y coleg gyda chymhwyster lefel prifysgol sy’n eu galluogi i gyflawni eu huchelgais a datblygu eu gyrfa. Felly, llongyfarchiadau i’n dosbarth addysg uwch 2022!

Cewch fwy o wybodaeth am ein cyrsiau addysg uwch – mae cymhwyster lefel prifysgol o fewn eich gafael.