En
Coleg Gwent is going green - join us in the fight against climate change

Ymunwch â ni yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd


21 Tachwedd 2022

Mae newid hinsawdd yn un o heriau byd-eang mwyaf arwyddocaol ein hoes. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan wrth helpu i leihau ein heffaith ar y blaned. Rydym am wneud cynaliadwyedd yn flaenoriaeth yn Coleg Gwent. Rydym yn gwneud cynnydd yn unol â tharged llywodraeth y DU i leihau 100% o allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, ond mae dipyn o ffordd i fynd eto, ac mae angen i bawb helpu.

Yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni hyd yn hyn

Mae llawer o newidiadau wedi bod ar droed o amgylch y coleg i leihau ein heffaith ar y blaned. Rydym wedi newid sut rydym yn cael gwared ar sbwriel a chyflwyno prosesau newydd, rydym wedi sefydlu ein tasglu cynaliadwyedd; hyn oll i roi cynaliadwyedd wrth wraidd yr holl a wnawn.

Coleg Gwent is going green - join us in the fight against climate change

Drwy ein hymdrechion parhaus i fod yn lanach ac yn wyrddach, rydym wedi trawsnewid pethau ar ein campysau. Rydym wedi bod yn monitro ein harferion ers 2005, ac wedi lleihau ein defnydd o ynni. Gallwn nawr gyhoeddi yn falch bod 100% o’n sbwriel yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi. Drwy uwchraddio offer rydym wedi lleihau allyriadau 62%, ac mae 100% o’n trydan yn adnewyddadwy. Rydym hefyd wedi cydweithio â chymunedau lleol ar brosiectau cynaliadwyedd ac wedi datblygu partneriaethau gyda Cynnal Cymru, Cadw Cymru’n daclus, a’r Woodland trust.

Yn rhan o’n cynllun pum mlynedd i leihau gwastraff, allyriadau a’n heffaith amgylcheddol daethom i’r brig, a’n henwi yn enillwyr Coleg y Flwyddyn yng Ngwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol 2021, roedd hyn hyd yn oed yn fwy o sbardun i barhau gyda’n hymdrechion!

Ein camau nesaf

Mae ein Tasglu Cynaliadwyedd wedi cynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod, er mwyn parhau i wella ein coleg a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Byddwn yn canolbwyntio ar deithio, cyflwyno mannau ailgylchu, ac adeiladu gweithlu mwy gwybodus.

Bydd ein staff a’n myfyrwyr yn chwarae rhan allweddol wrth i ni weithio tuag at darged di-garbon net erbyn 2050. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan yn y coleg i achub y blaned. Dyma rai ffyrdd syml y gallwch chi helpu:

  • Defnyddiwch lai o bapur – daw 81% o’n hallyriadau o faint o bapur a ddefnyddiwn. Y llynedd defnyddiwyd 11 miliwn o ddalennau o bapur. Gyda’r niferoedd syfrdanol hyn, mae angen i ni leihau faint rydyn ni’n ei argraffu a chynllunio yn fwy digidol.
  • Cymerwch ran yn ein harolwg teithio fel y gallwn ddeall sut mae dysgwyr a staff yn cymudo i’r coleg. Os ydych yn byw gerllaw, beth am ystyried cerdded neu feicio?
  • Parhewch i ddiffodd goleuadau a chyfrifiaduron pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
  • Defnyddiwch Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd traws-gampws i leihau ein hallyriadau.

Ein hystod o gyrsiau gwyrdd

Ni ddaw ein hymrwymiad i’r amgylchedd i ben yno. Fel coleg, rydym yn addysgu ac yn hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Felly, ochr yn ochr â gwneud newidiadau yn y coleg i hyrwyddo cynaliadwyedd, trwy ddefnyddio’r dulliau diweddaraf a datblygiadau technolegol rydym hefyd yn uwchsgilio gweithwyr y dyfodol fel y gallant wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn rhai o’r sectorau sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd.

Gyda chynaliadwyedd mewn golwg, rydym yn cyflwyno cyrsiau sy’n canolbwyntio ar ynni gwyrdd, cerbydau trydan, ac adeiladu cynaliadwy. Mae’r rhain yn ystyriaethau allweddol nawr ac yn y dyfodol. Mae llawer o’r cyrsiau hyblyg hyn ar gael am ddim, gwiriwch Cyfrifon Dysgu Personol (PLAs) i weld a ydych chi’n gymwys. Fe allwch chi gymryd camau tuag at ddod yn weithiwr proffesiynol ecogyfeillgar gyda’n Cyrsiau cerbydau trydan/hybrid, ein cwrs arbenigol  Hyfforddiant pwmp gwres ffynhonnell aer Daikin, neu Ddiploma NVQ mewn inswleiddio a thriniaethau adeiladu.

Coleg Gwent is going green - join us in the fight against climate change

Mae llawer y gallwn ei wneud i leihau ein heffaith bersonol ar yr amgylchedd. Mae ein cyrsiau gyda’r nos i Uwchgylchu dodrefn, a’r Cwrs Sylfaenol Cynnal Cartref yn eich galluogi i ailddefnyddio, ailgylchu a thrwsio pethau yn hytrach na phrynu pethau newydd. Os chwaraewn ni i gyd ein rhan a blaenoriaethu cynaliadwyedd, gyda’n gilydd cawn effaith gadarnhaol ar y blaned.

Mae’r Coleg wedi ei ymrwymo i ddod yn lanach ac yn wyrddach gan osod esiampl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, galwn ar ein dysgwyr, staff a’n cymuned i ymuno â ni yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd!