En
Environmental awards

Edrych yn ôl: Blwyddyn ar ôl ennill Gwobr Amgylcheddol Coleg y Flwyddyn


11 Gorffennaf 2022

Y llynedd, enwyd Coleg Gwent yng Ngwobr Coleg y Flwyddyn yn y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol cyntaf, ac rydym yn falch o fod yn llysgenhadon yr amgylchedd. Mae’n bwysig i ni osod esiampl i genedlaethau’r dyfodol ac rydym yn frwd dros addysgu’r genhedlaeth nesaf ar yr effaith a gawn ar ein planed, tra’n hyrwyddo materion amgylcheddol yn ein harferion bob dydd.

O leihau’r ynni a ddefnyddir i ymgorffori dyluniad eco-gyfeillgar yn ein datblygiadau diweddaraf, rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i fodloni targed sero net Llywodraeth Cymru fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fodloni eu hanghenion yn y modd mwyaf amgylcheddol gyfeillgar. Felly, rydym yn parhau i hyrwyddo cynaliadwyedd a’r amgylchedd ac rydym yn falch o noddi y Wobr Entrepreneur Amgylcheddol Cenedlaethol eleni.

Dod yn Hyrwyddwyr Amgylcheddol

O ganlyniad i’n cynllun pum mlynedd i leihau gwastraff, allyriadau ac effaith ar yr amgylchedd cawsom ein coroni’n Goleg y Flwyddyn yn y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol yn 2021. Dechreuwyd cofnodi allyriadau carbon yn 2005, pan oedd 100% o’r gwastraff yn mynd i safle tirlenwi a’r defnydd o ynni yn 19,374,341 kWh. Ers hynny, mae’r coleg wedi gweddnewid ei ymdrech i arbed yr amgylchedd.

Arwyddwyd ‘Siarter Cynaliadwyedd’ Llywodraeth Cymru, gan gytuno i fewnosod cynaliadwyedd yn y coleg. Drwy sefydlu’r Grŵp Rheoli Amgylcheddol a gweithredu system reoli amgylcheddol, rydym wedi lleihau ein hallyriadau o 62% drwy uwchraddio offer, mesurau effeithlonrwydd ynni, ac arferion gwaith gwell. Bellach rydym yn prynu trydan sy’n 100% adnewyddol, yn monitro’r defnydd o ynni, yn atal 100% o wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, ac yn ymgorffori datblygiad cynaliadwy i brosiectau. Rydym hefyd wedi gweithio gyda chymunedau lleol ar brosiectau cynaladwyedd a datblygu partneriaethau gyda  Cynnal Cymru, Cadw Cymru’n Daclus, a’r ymddiriedolaeth Goetir.

Rydym wedi ennill sawl gwobr amgylcheddol, gyda gwobr Coleg y Flwyddyn yn uchafbwynt:

  • Safonau Amgylcheddol y Ddraig Werdd lefel 2, 4 a 5
  • Safon rhagoriaeth BREEAM i Barth Dysgu Blaenau Gwent a Bloc-X Campws Crosskeys
  • Statws Masnach Deg a Safonau Iechyd Corfforaethol lefel arian
  • Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Gwisg Werdd cynaladwyedd blynyddol yr EAUC
  • ISO 14001, 45001, a 18001
  • Y coleg mwyaf cynaliadwy yn y DU o ran rheoli gwastraff
  • Enillwyr Gwobrau Academi Cynaliadwy Cynnal Cymru – Cash for Change (2018)
  • Enillwyr Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol 2021 – Categori Addysg

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent “Roedd ennill y wobr Coleg y Flwyddyn yn gydnabyddiaeth bwysig o’r gwaith mae Coleg Gwent wedi ei wneud i gydnabod yr angen i newid ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Rydym yn falch o’r hyn a gyflawnwyd ym maes cynaliadwyedd ond yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy eto.”

Beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i Coleg Gwent

environment

Gan adeiladu ar ein Gwobr Coleg y Flwyddyn, rydym yn parhau i ymdrechu i leihau ein heffaith amgylcheddol. Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynaliadwyedd a Lleihau Carbon i ddatblygu cynllun gweithredu a’n harwain tuag at ddod yn garbon sero net.

Eleni, rydym wedi lleihau’r defnydd o ynni o 57% ac allyriadau CO2 o 62%, ac rydym yn cymryd camau i leihau ein hôl troed carbon. Mae cynaliadwyedd wedi bod yn uchel ar ein hagenda erioed, felly rydym yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch yr heriau sydd o’n blaenau. Rydym wedi dechrau gweithio ar un datblygiad fydd yn agos iawn at weithrediad sero net hefyd.

Gyda chynlluniau uchelgeisiol i ddod yn wyrddach, rydym yn gosod targedau heriol ond cyraeddadwy i leihau carbon:

  • Ymgorffori cynaliadwyedd i brosesau gwneud penderfyniadau.
  • Bydd staff a dysgwyr yn cwblhau hyfforddiant Llythrennedd carbon a bydd cynaliadwyedd yn rhan o swydd ddisgrifiadau, DPP a sesiynau cynefino dysgwyr.
  • Gwella’r gwaith o wahanu gwastraff er mwyn cyrraedd graddfa ailgylchu o 50% erbyn 2030 a 100% erbyn 2050.
  • Datblygu a gwella polisïau a gweithdrefnau caffael cynaliadwyedd i sicrhau bod pob cynnyrch a deunyddiau a brynir gan y coleg yn dod o ffynhonnell gynaliadwy a moesegol.
  • Sicrhau bod safonau ac egwyddorion BREAM yn cael eu hymgorffori i bob prosiect adeiladu mawr.
  • Gwella’r ardaloedd o amgylch pob campws i sicrhau eu bod yn fioamrywiol gyfoethog, gydag amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys mannau gwyllt.
  • Integreiddio datblygiad cynaliadwy o fewn y cwricwlwm ar bob cwrs sy’n cael ei ddarparu gan y coleg.
  • Croesawu technolegau gwyrdd wrth ddarparu’r cwricwlwm, h.y., cynyddu dysgu ar-lein, gosod targedau clir i leihau/ddileu’r angen i argraffu ar bapur.
  • Ymgysylltu a chydweithio ar brosiectau cynaliadwyedd mwy darbodus.
  • Gweithio gyda darparwyr arlwyo i sicrhau bod yr holl fwyd a fwyteïr yn y coleg yn gynaliadwy, wedi ei seilio ar blanhigion yn bennaf, ac yn dod o ffynonellau lleol a moesegol.
  • Datblygu Polisïau Teithio Gwyrdd, cerbydau hybrid, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, ac adolygu’r polisi gweithio gartref, gyda phob cyfarfod ar draws y coleg i’w cynnal ar Microsoft teams.

Rydych yn edrych ymlaen at y dyfodol yn Coleg Gwent a byddwn yn parhau i fod yn llysgenhadon ar gyfer yr amgylchedd gan osod esiampl dda i genedlaethau’r dyfodol ei dilyn. Dysgwch fwy am ein coleg yma ac ymgeisiwch nawr i ymuno â’n cymuned sy’n tyfu’n barhaus.