En
Drawing attention to art, design and illustration main

Tynnu sylw at gelf, dylunio a darlunio


19 Ionawr 2021

Ydych chi erioed wedi ystyried gyrfa greadigol mewn Celf, Dylunio neu Ddarlunio? Efallai y cewch eich synnu gan ba mor eang yw’r sector hwn. Mae’n ymestyn y tu hwnt i’r diwydiannau creadigol ac yn dylanwadu ar sawl agwedd ar fywyd bob dydd heb i ni sylweddoli arno.

Yn wir, mae’r celfyddydau gweledol bellach yn cael eu defnyddio’n aml i addysgu a phortreadu negeseuon pwysig ar draws sectorau gwahanol, gyda nifer cynyddol o swyddi y tu allan i’r diwydiannau creadigol traddodiadol. Felly, fel rhan o’n cyrsiau a’n gwaith gyda chyflogwyr lleol yn Coleg Gwent, mae ein dysgwyr Celf a Darlunio’n gweithio ar ystod o friffiau byw gyda sefydliadau na fyddwch wedi eu hystyried yn rhan o’r sector creadigol o’r blaen, ac yn defnyddio eu sgiliau yn ein cymunedau ac yn rhoi blas i’n myfyrwyr ar fywyd yn gweithio fel gweithiwr creadigol.

Cynnwys trosedd yn y llun

Mae ein dysgwyr Gradd Sylfaen Darlunio wedi bod yn gweithio ar friff byw ar gyfer Heddlu Gwent, gan ddefnyddio celf i helpu i frwydro yn erbyn trosedd. Maent wedi bod yn creu pedwar o ddarluniadau golygyddol i gyd-fynd ag erthyglau sy’n gysylltiedig â throsedd, gan ddefnyddio eu creadigrwydd i bortreadu negeseuon pwysig i’r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o drosedd yn y gymuned.

A Barnett

Rydym y falch o fod yn cydweithio gyda Heddlu Gwent ar y prosiect hwn am ar ail flwyddyn, ar ôl i ddysgwyr y llynedd greu cyfres arbennig o ddarluniau i godi ymwybyddiaeth o droseddau dros y Nadolig. Eleni, cafodd ein dysgwyr ddewis o amrywiaeth o erthyglau yn trafod pynciau megis cam-drin domestig, dwyn cŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod Calan Gaeaf, a mwy, a rhoi eu dysgu ar waith mewn sefyllfa bywyd go iawn. Mae’r prosiectau arbennig hyn yn caniatáu ein dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau i gyfrannu i’n cymuned leol, ac mae’n ysbrydoledig gweld Darlunio’n cael ei ddefnyddio ar gyfer achos da, ac yn rhoi trosedd yn y llun i bawb ei weld.

Dywedodd Gareth Noyes, Swyddog Digidol a Dylunio o Heddlu Gwent: “Mae cael gweithio gyda’r myfyrwyr ar y cwrs darlunio, a Kelly eu tiwtor, wedi bod yn wych. Fe weithion nhw’n galed iawn, a chynhyrchu darluniadau rhagorol. Mae’r mathau hyn o brosiectau cydweithio yn ymgysylltiad cymunedol gwych i ni fel Heddlu, a gyda gobaith, rydym yn creu cysylltiadau cryf a phositif gyda phobl ifanc yng Ngwent. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r myfyrwyr eto y flwyddyn nesaf os bydd ymrwymiadau eraill yn caniatáu.

Emily Nicholls Spiking Drinks

Rhoi bywyd i straeon

Yn y cyfamser, mae ein myfyrwyr Gradd Sylfaen Darlunio ail flwyddyn yn cychwyn briff byw arall gyda ‘Bear with Us Productions’, sy’n arbenigo mewn darluniadau, dylunio, cynhyrchu, a marchnata llenyddiaeth i blant. Maent yn gweithio gyda thîm mawr o ddarlunwyr a dylunwyr llawrydd i helpu pobl i ysgrifennu, darlunio a chyhoeddi eu llyfrau plant eu hunain, ac ar gyfer y briff byw hwn, mae ein dysgwr yn creu darluniadau ar gyfer un o’r straeon canlynol: ‘Noswyl Calan Gaeaf’, ‘Y Ffatri Gymylau’ a’r ‘Ysgub Hudolus’. Bydd y lluniau terfynol gorau yn cael eu troi yn llyfr a’i gyhoeddi drwy wefan gyhoeddi uniongyrchol Amazon, a bydd ar gael i’r cyhoedd ei brynu.

Mae Sarah Dixon yn cymryd rhan yn y prosiect hwn ar hyn o bryd drwy greu darluniadau ar gyfer y stori Calan Gaeaf. Mae hi’n mwynhau prosiect Bear with Us, ac yn cael boddhad creadigol, a’i hoff agwedd ar y prosiect yw rhoi bywyd i’r stori gyda darluniadau, yn ogystal â dylunio pob cymeriad o fewn y straeon dewisol.

Sarah Dixon Halloween Night Illustration

Mae hwn yn gyfle gwych i un o’n myfyrwyr gyhoeddi llyfr i blant fel rhan o’u repertoire, ac yn ychwanegol, mae Mia Lloyd, un o’n cyn-fyfyrwyr o garfan y llynedd, yn gweithio gyda ‘Bear with Us’ ar hyn o bryd, ac yn y broses o gyhoeddi ei llyfr cyntaf hefyd. Eglurodd: “Mae’n teimlo’n anhygoel i gael cyhoeddi fy ngwaith darlunio’n swyddogol. Ni fyddai’r cyfle hwn i gychwyn gyrfa wedi bod yn bosib heb y sgiliau a ddysgais a’r cysylltiadau wnes i yn Coleg Gwent.”

Fframio materion amgylcheddol

Prosiect arall sy’n cael ei gwblhau gan ein dysgwyr Celf a Dylunio Lefel 3 yw gweithio gyda phrosiect Gwastadeddau Byw Gwent i godi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd rydym yn byw ynddo. Dyma ein hail gydweithrediad gyda Gwastadeddau Byw Gwent, a phwrpas y prosiect yw cynhyrchu gweithiau creadigol all ymgysylltu, addysgu, hysbysu ac annog y cyhoedd i hyrwyddo a chysylltu gyda thirlun hanesyddol Gwastadeddau Gwent. I gyflawni hyn, mae ein dysgwyr yn cynhyrchu darluniadau cyfoes wedi’u hysbrydoli gan bryfeteg, gyfochr â darluniadau posib ar gyfer Gwestai Chwilod.

Mae’r cydweithrediad hwn yn brofiad gwerthfawr i’n dysgwyr, ac mae’n bwysig iddyn nhw ddefnyddio eu harfer celf a sgiliau cyfathrebu gweledol i addysgu eraill a chodi ymwybyddiaeth o faterion ecolegol pwysig, wrth ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r manteision a’r rôl mae celf yn ei chwarae o fewn cymdeithas.

Bydd y prosiect yn dod i ben gydag arddangosfa o waith celf y dysgwyr, ac wrth i’r gwestai chwilod gael eu hadeiladu a’u lleoli ar safle Campws Dinas Casnewydd. Mae llwyddiant y prosiect hwn yn weledol, wrth i ddarluniad Wasp Spider, Eve Morgan, dysgwr, ymddangos ar dudalen flaen Cylchlythyr Hydref Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru a chafodd ei chynnwys fel artist clawr yn eu lansiad ar y Cyfryngau Cymdeithasol.

Eve Morgan

Mae mwy i’w astudio yn Coleg Gwent nag ochr academaidd eich cwrs yn unig. Rydym yn gweithio i gefnogi ac elwa cyflogwyr lleol drwy ddatblygu ein cwricwlwm a briffiau byw, ond rydym hefyd yn cynnig cyfleodd cyffrous i’n myfyrwyr gael profiadau ymarferol, bywyd go iawn yn ystod eu hastudiaethau. Felly, byddwch yn gadael y coleg gyda sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymhwyster cydnabyddedig i’ch helpu chi i sefyll allan, a chychwyn eich gyrfa greadigol.

Dysgwch fwy am astudio Celf, Dylunio a Darlunio nawr, ac os ydych yn gyflogwr lleol, cysylltwch i archwilio sut allwn ni weithio gyda chi i helpu eich busnes i ffynnu.