En

UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C (neu’n uwch) arnoch, gan gynnwys Celf/Pwnc Creadigol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU sy’n cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C (neu’n uwch).

Yn gryno

Bydd y cwrs blwyddyn o hyd newydd ac arloesol hwn, a gymeradwywyd gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL), yn eich helpu i ddarganfod eich prif ddiddordebau ym maes celf a dylunio a datblygu rhai o’r sgiliau hanfodol sy’n sail i ddisgyblaethau creadigol. Bydd yn eich annog i gyfathrebu'n weledol, i feddwl yn gysyniadol ac i ddatblygu technegau datrys problemau ac ymarferol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau archwilio meysydd gwahanol o fewn celf a dylunio 

...ydych eisiau ymestyn eich gallu i feddwl yn gysyniadol ac i gyfathrebu'n weledol 

...ydych eisiau gyrfa yn y diwydiannau creadigol, fel ffasiwn, celf gain, dylunio neu ffotograffiaeth  

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs yn cwmpasu arbenigeddau creadigol gyda phrosiectau cyffrous a gynlluniwyd i adlewyrchu profiad yn y diwydiant. Bydd gennych fynediad at weithdai a stiwdios celf a dylunio proffesiynol a byddwch yn dysgu trwy arbrofi, gan ddefnyddio ystod eang o brosesau 2D, 3D a digidol. Bydd prosiectau yn eich helpu i ennill dealltwriaeth gyd-destunol o gelf a dylunio, gan eich cefnogi i greu a mynegi eich taith bersonol a dehongliadau. Bydd gan eich tiwtoriaid sgiliau, gwybodaeth a phrofiad helaeth o ymarfer diwydiannol ac addysg o fewn y celfyddydau creadigol, a thrwy gydol y flwyddyn byddwch yn cael eich annog i ddatblygu cysylltiadau a diddordebau personol. Yn Nhymor 3, byddwch yn ymgymryd â phrosiect personol i nodi maes diddordeb mwy arbenigol megis paentio a lluniadu, ffasiwn a thecstilau, dylunio 3D, ffotograffiaeth a dylunio digidol. Byddwch yn cael eich asesu yn ôl eich gwaith cwrs, gan gyflawni gradd Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn y pen draw, yn ogystal â chymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau, eich gweithgareddau sgiliau a’ch Saesneg a Mathemateg.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C (neu’n uwch) arnoch, gan gynnwys Celf a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU sy’n cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C (neu’n uwch). Byddwn hefyd yn disgwyl i chi fod yn ymroddedig i bresenoldeb llawn, gyda brwdfrydedd dros y pwnc, hunan-gymhelliant, y gallu creadigol a’r awydd i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r diploma blwyddyn o hyd hwn, gallwch symud ymlaen i’r ail flwyddyn lle byddwch yn gallu canolbwyntio ar arbenigedd o’ch dewis, yn ogystal â gweithio ar draws cyfryngau a gweithdai i’ch helpu i ddewis eich gyrfa greadigol. Ar ôl cwblhau blwyddyn dau, byddwch yn gallu symud ymlaen i Addysg Uwch, gan gynnwys ein hystod o gyrsiau ar lefel Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch. Gallwn hefyd eich arwain trwy broses ymgeisio UCAS i wneud cais am ystod eang o raglenni gradd yn y celfyddydau creadigol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn eich croesawu i nosweithiau agored a sesiynau blasu (gweler y wefan ar gyfer dyddiadau cyfredol), i brofi gweithdai creadigol ac ymweld â'n hamgylchedd creadigol gyda'r holl gyfleusterau

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3?

NFBE0001AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr