En
A Royal visit for a special DofE event

Ymweliad Brenhinol ar gyfer digwyddiad arbennig DofE


10 Tachwedd 2022

Rydym wedi cael ymweliad arbennig iawn gan Iarll Wessex, heddiw, wrth iddo ymuno â myfyrwyr o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru ar gyfer diwrnod her arbennig Gwobr Dug Caeredin ym Mharth Dysgu Torfaen.

Croesawyd mwy na 50 o bobl ifanc o golegau ac ysgolion ledled De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys cymysgedd o gyfranogwyr DofE a phobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu mwy amdano. Yn ystod diwrnod her DofE ar ein campws yng Nghwmbrân, fe wnaethon nhw roi cynnig ar gymorth cyntaf, gwaith tîm ac ymgyrchu, gyda deiliad y Wobr Aur ac Ymddiriedolwr DofE,  Iarll Wessex, yn ymuno â nhw.

A Royal visit for a special DofE event

Cyfarfu’r Iarll â dysgwyr o golegau ac ysgolion lleol wrth iddynt gymryd rhan mewn cyfres o heriau cyflym. Buont yn gweithio mewn timau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n adlewyrchu pedwar rhan DofE – Corfforol, Sgiliau, Alldaith a Gwirfoddoli. Roedd hyn yn cynnwys her gwaith tîm, dysgu sgiliau cymorth cyntaf, dysgu gosod pebyll a phacio offer, a chreu eu hymgyrchoedd bach eu hunain ar faterion pwysig.

Roedd yn fraint cynnal y digwyddiad arbennig hwn ar ein campws mwyaf newydd, Parth Dysgu Torfaen. Rydym yn falch o gefnogi’r DofE, gan helpu ein pobl ifanc i lwyddo a ffynnu fel aelodau o’n cymuned. Roedd ymweliad arbennig yr Iarll, fel Ymddiriedolwr y DofE, yn ei gwneud yn ddiwrnod cofiadwy ac ysbrydoledig i ddysgwyr, gan ddangos gwerth y sgiliau gydol oes y maent yn eu datblygu trwy’r DofE.

A Royal visit for a special DofE event

Cyfleoedd i newid bywydau

Mae gweithgareddau allgyrsiol yn rhan bwysig o’ch profiad yng Ngholeg Gwent. Felly, rydym yn annog pob myfyriwr i gymryd rhan mewn clybiau, gweithgareddau a chwaraeon ochr yn ochr â’ch cwrs, yn ogystal â chynnig y DofE i’ch helpu i ddatblygu set sgiliau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o’n cymuned.

Ar adeg pan fo angen cyfleoedd hygyrch yn fwy nag erioed, mae DofE Cymru yn gweithio’n galed i ehangu mynediad i’r DofE ar gyfer pobl ifanc mewn addysg bellach, gyda’r elusen DofE yn anelu at gyrraedd miliwn o bobl ifanc ledled y DU erbyn 2026.

A Royal visit for a special DofE event

Bob blwyddyn, mae’r DofE yn ysbrydoli cannoedd o filoedd o bobl ifanc o bob cefndir i ddatblygu sgiliau, gwytnwch a hunanhyder. Mae’r DofE, sy’n agored i bob unigolyn ifanc 14-24 oed, yn cynnig cyfle i ddarganfod angerdd a doniau newydd, ennill sgiliau ymarferol fel datrys problemau a gwaith tîm, gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau, a datblygu hyder a gwytnwch – wrth weithio tuag at wobr gydnabyddedig a pharchus. Mae pobl ifanc yn dewis eu gweithgareddau eu hunain ac yn gosod eu nodau eu hunain, sy’n golygu y gall eu DofE gyd-fynd ag ymrwymiadau fel astudio, gwaith, cyfrifoldebau gofalu, a bywydau cymdeithasol. Mae’n ffordd wych o ennill sgiliau ar gyfer cyflogaeth ac am oes.

Darganfyddwch fwy am y gweithgareddau allgyrsiol, fel DofE, y gallwch chi gymryd rhan ynddynt ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn ein digwyddiad agored nesaf .