En
diversity and inclusion at college

Tynnu sylw at amrywiaeth a chynhwysiant yn y coleg


4 Hydref 2022

Fel coleg amrywiol a chynhwysol sydd wrth wraidd ein cymuned, rydym yn cynrychioli bob rhan o’r gymdeithas ac yn chwarae rôl allweddol ym mywydau llawer o bobl; p’un a ydym yn adnabod rhywun sy’n gweithio neu’n astudio yma, yn fyfyriwr yma ein hunain, neu hyd yn oed yn cael torri ein gwallt neu’n cael gwasanaeth i’n car gan gyn-fyfyrwyr o Coleg Gwent.

Gyda chyrhaeddiad mor eang ar draws ein hardal leol, mae’n bwysig ein bod yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb i’n myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi cyflwyno ychydig o fentrau cyffrous i godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r genhedlaeth nesaf i fod yn fwy derbyniol a chynhwysol.

Dathlu diwrnodau ymwybyddiaeth

Drwy ddathlu gwyliau cenedlaethol a dyddiau ymwybyddiaeth blynyddol, rydym yn creu diwylliant cynhwysol ac yn addysgu myfyrwyr a staff ar bynciau ingol. Mae ein calendr digwyddiadau’n ymdrin ag ystod eang o bynciau, hyrwyddo’r Gymraeg, Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, iechyd meddwl, gwyliau crefyddol, anableddau, LGBTQ+, hawliau merched, a mwy, gyda hyfforddiant a mentrau cynhwysol eraill ar gyfer myfyrwyr a staff.

 diversity and inclusion at college

Croesawu Mis Hanes Pobl Dduon

Yn ogystal â bod yn gysylltiedig â’r Grŵp Arweinyddiaeth Addysg Bellach Du, rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon drwy gydol mis Hydref. Gyda’r thema graidd ‘Amser am Newid: Gweithredu, Nid Geiriau’, mae gennym amrywiaeth o sgyrsiau a hyfforddiant ar gael. Rydym yn croesawu’r cysyniad o newid drwy gefnogi busnesau a berchnogir gan leiafrifoedd ac yn sicrhau bod staff a dysgwyr yn teimlo bod y coleg yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda chymunedau mwy amrywiol.

Cyflwyno Rhwydweithiau Cyswllt

Er mwyn cyfrannu tuag at hybu newid, rydym wedi cyflwyno Rhwydweithiau Cyswllt staff ar gyfer grwpiau difreintiedig a’r rhai a dangynrychiolir i fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys. Mae’r rhain yn cynnwys ENABLED, (Gwella Galluoedd ac Ysgogi Anableddau), Cydraddoldeb Hil, LGBT+, Menywod Ynghyd, Men’s Alliance, Neurodivergent a Cynefin – Rhwydwaith Iaith Gymraeg.

Yn y cyfamser, mae’r Undeb Myfyrwyr hefyd yn cynnwys clybiau a chymdeithasau cynhwysol gwych ar gyfer dysgwyr, o Clwb i’r Byddar a LGBTQ+ i Clwb Cymraeg. Mae hyn yn caniatáu dysgwyr i rwydweithio a datblygu grwpiau cymorth hefyd.

Ymrwymo i Dim Hiliaeth Cymru

Yn unol â chynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ar gyfer colegau addysg bellach, rydym wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant gwrth-hiliol i bob aelod o staff ochr yn ochr ag ymuno â’r addewid Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru. Bydd y coleg yn ymrwymo i hyrwyddo cytgord a chydraddoldeb hiliol, gydag agwedd dim goddefgarwch tuag at hiliaeth.

 diversity and inclusion at college

Cyflwyno bathodynnau rhagenw

Er mwyn cefnogi’r gymuned LGBTQ+ yn ein coleg, fe wnaethom greu bathodynnau rhagenw defnyddiol i fod ar gael i ddysgwyr a staff ym mhob campws. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i bob un ohonom ddangos ein rhagenwau dewisol mewn ffordd anffurfiol, wrth dangos ein cefnogaeth a’n cynghreiriaeth i’r gymuned LGBT yn ogystal â dyddiau ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff.

Hyrwyddo’r agenda

Mae Nkechi Allen Dawson, ein Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant ymroddgar, yn goruchwylio’n cenhadaeth i ddod yn fwy cynhwysol ac amrywiol. Mae’n ceisio sicrhau bod ‘Cynhwysiant’ yn dod yn un o werthoedd ein coleg, ac mae hi o’r farn y gellir cyflawni hyn dim ond os ydym yn ymddiried, gwerthfawrogi a pharchu ein gilydd ac yn dathlu ein hamrywiaeth. Felly, gyda chefnogaeth ein Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – sef casgliad o staff sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y coleg – rydym yn eich cefnogi chi i fod yn naturiol ac yn driw i chi’ch hun, er mwyn eich helpu i wireddu’ch llawn botensial a bod y gorau y gallwch fod.

Rydym yn awyddus i annog pawb i gymryd rhan a chefnogi newid yn Coleg Gwent, gan nad yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn waith un person, ond yn gyfrifoldeb cyfunol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud ein coleg yn lle diogel a chynhwysol i bawb!

Darllenwch ragor ynghylch y ffordd rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant drwy ein siarter amrywiaeth.