En
LGBT+ History Month 2022

Mis Hanes LGBT+ 2022


1 Chwefror 2022

Wyddoch chi fod 2022 yn nodi 50 mlynedd ers ein Gorymdaith Pride gyntaf yn y DU yn 1972?

Yn y cyfamser, mae Schools Out UK yn dathlu dros 45 mlynedd o ymgyrchu dros gynhwysiant LGBT+, gan ddarparu adnoddau a hyfforddiant i ysgolion a sefydliadau addysgiadol fel Coleg Gwent, yn cynnwys deunyddiau ar gyfer Mis Hanes LGBT+.

Mae amcanion Mis Hanes LGBT+ yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy:

  • Cynyddu gwelededd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, eu hanes, bywydau a’u profiadau yn y cwricwlwm ac yn addysgiadol
  • Codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar y gymuned LGBT+
  • Gwneud sefydliadau addysgiadol yn lleoedd diogel i holl gymunedau LGBT+
  • A hyrwyddo llesiant pobl LGBT+, drwy sicrhau bod y system addysg yn eu cydnabod ac yn eu galluogi i gyflawni eu llawn potensial.

Fel coleg amrywiol a chynhwysol, mae ein cymuned yn cynrychioli bob rhan o’r gymdeithas. Felly, mae’n bwysig i ni ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb y mis hwn, a phob amser, drwy ein gwaith o ddydd i ddydd yn y coleg. Un o’r pethau diweddaraf yr ydym yn falch o’u cyflwyno yw’n bathodynnau rhagenw!

Cyflwyno bathodynnau rhagenw

LGBT+ History Month 2022 - Carli and RubieMae Carli Drew, Swyddog Adnoddau Dysgu o Gampws Dinas Casnewydd,, yn aelod o’n bwrdd llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Coleg Gwent. Nod y bwrdd llywio yw dathlu amrywiaeth ein dysgwyr, staff a chymuned ehangach y coleg, wrth wneud Coleg Gwent yn sefydliad ble mae pawb yn teimlo’n rhydd i fod yn nhw eu hunain mewn amgylchedd diogel.

Mae merch Carli, Rubie Jobbins, yn ddysgwr yn Coleg Gwent ac yn aelod balch o’r gymuned LGBT+. Ar ôl siarad gyda Rubie a’i ffrindiau am rai o’r newidiadau yr hoffent eu gweld ar y campws i’n helpu ni wella’u profiad, cawson nhw’r syniad o fathodynnau rhagenw. Mae hyn yn cynnig ffordd symlach i’w gwneud yn haws i bawb ddangos pa ragenwau sy’n ddewisol ganddynt, mewn ffordd anffurfiol.

Drwy brynu bathodynnau pin i’r coleg, mae hyn wedi galluogi Carli a Rubie i roi’r newid hwn ar waith, gan wneud bathodynnau rhagenw ar gael yn rhad ac am ddim i bawb mewn ardaloedd cymunedol megis llyfrgelloedd ar bob campws. Gall staff a dysgwyr nawr fachu bathodyn a’i osod ar gortyn cerdyn adnabod i ddangos pa ragenwau sy’n ddewisol ganddynt i’w cyfoedion.

Prynwyd y bathodynnau pin o gayprideshop.co.uk, gyda 15% o’r elw’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng tair elusen LGBT+ ysbrydoledig:

  • The Albert Kennedy Trust – cefnogi pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol sy’n ddigartref, yn byw mewn amgylchedd anghyfeillgar neu mewn argyfwng tai.
  • The George House Trust – cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth am HIV.
  • Mermaids – cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 20 oed â rhywedd amrywiol neu drawsryweddol, a’u teuluoedd.

Rydym yn falch o gael dysgwyr a staff fel Rubie a Carli, sy’n ei wneud yn nod ganddynt i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob dydd yn y coleg. Mae Mis Hanes LGBT+ yn fis ar gyfer pawb, p’un a ydych chi’n ddysgwr, rhiant, aelod o staff, neu’n sefydliad: a ph’un a ydych chi’n aelod o rwydwaith neu grŵp cymdeithasol LGBT+, neu ddim. Mae’r bathodynnau rhagenw’n ffordd syml i ddangos eich bod yn gyfaill i’r gymuned LGBT+ ac yn ei chefnogi, ac yn cynnal ein gwerthoedd craidd yn Coleg Gwent.

Dysgwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Coleg Gwent, a chofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf i ddarganfod sut allwch chi ddod yn rhan o’n cymuned groesawgar.