En
Show racism the red card day - staff wearing red at Coleg Gwent

Dangos y cerdyn coch i hiliaeth


22 Hydref 2021

Mae heddiw yn ‘Ddiwrnod Gwisgo Coch‘, ac rydym yn gwneud union hynny i ddangos ein cefnogaeth tuag at ddangos y cerdyn coch i hiliaeth. Fel coleg, rydym yn falch o fod yn gymuned amrywiol a chynhwysol lle nad oes lle i hiliaeth a chaiff pawb ei drin yn deg. Mae ein harferion bob dydd yn atgyfnerthu hyn, ond mae heddiw yn gyfle i wneud safiad wrth i ni ddangos mai mewn undeb mae nerth yn erbyn hiliaeth drwy wisgo coch i gefnogi.

I gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Dduon, rydym hefyd yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn gysylltiedig â’r Grŵp Arweinyddiaeth AB Du. Golyga hyn y gallwn gydweithio ar weledigaeth gyffredin i gael gwared ar hiliaeth yn y sector addysg bellach, a datblygu buddiannau myfyrwyr, cydweithwyr ac arweinwyr du.

Black History Month Wales logo

Rydym yn cydymffurfio’n llwyr â chredoau Grŵp Arweinyddiaeth AB Du, gan gynnwys:

  • Mae gan bob unigolyn yr hawl i fyw bywyd llawn boddhad.
  • Cyhyd â bod hiliaeth systemig yn bodoli, bydd potensial pawb yn cael ei ddal yn ôl.
  • Mae addysg wrth-hiliaeth yn helpu pobl i ddiffinio a herio eu hunain, ehangu eu profiad a llywio eu byd.
  • Mae system addysg bellach wrth-hiliaeth yn datgloi potensial llawn pob unigolyn, sefydliad a chymuned.

Yn Coleg Gwent, rydym yn ymrwymedig i wneud safiad a chyfrannu at hybu newid cadarnhaol ac effeithiol, yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru wrth-hiliol. Mae ein cefnogaeth yn mynd ymhell y tu hwnt i ‘Diwrnod Gwisgo Coch’ a Mis Hanes Pobl Dduon – mae’n gynhenid i’n gwerthoedd craidd ac yn cael ei atgyfnerthu gan ein siarter amrywiaeth bob dydd.

Eglurodd y Pennaeth, Guy Lacey:

“Mae ‘Diwrnod Gwisgo Coch’ yn gyfle pwysig i ni gyd ddangos nad ydym am dderbyn hiliaeth yn ein coleg. Daw hyn mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun cydraddoldeb i gyflawni’r weledigaeth o ‘Gymru sy’n wrth-hiliol erbyn 2030’. Mae angen i ni gyd chwarae ein rhan i gyflawni hynny, ac mae ein cysylltiad â’r Grŵp Arweinyddiaeth AB Du a gweithio gyda nhw yn ymrwymiad i wrth-hiliaeth yr wyf yn falch o fod wedi’i wneud.”

I gefnogi gwrth-hiliaeth, mae Guy Lacey wedi bod ynghlwm â recordio pennod o ‘Anti Racism in Action’ ar gyfer FE News. Mae hon yn gyfres o naw fideo sy’n cael eu cyhoeddi’n wythnosol ac wedi’u trefnu gan y Grŵp Arweinyddiaeth AB Du. Cadwch lygad am ein Pennaeth, Guy Lacey, ym mhennod wythnos nesaf Anti Racism in Action gan FE News!

Am ragor o wybodaeth ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Coleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy/our-college/diversity-and-inclusion