En
Lisa Jones and Nisha Davey with HI learners

Clwb i'r Byddar - Dod â'n Dysgwyr Sydd â Nam ar y Clyw at ei Gilydd


7 Ionawr 2021

Ar brydiau, gall y Coleg fod yn heriol i bob un ohonom (yn enwedig gydag effaith ychwanegol COVID!), ond mae dysgwyr sydd â nam ar eu clyw yn wynebu mwy o heriau na’r rhan fwyaf ohonom. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogi i helpu ein holl ddysgwyr pan mae pethau’n mynd yn anodd, ond mae dysgwyr gyda nam ar y clyw wedi wynebu mwy o heriau yn sgil cynnydd mewn dysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID. Felly, mae dau o’n Cyfathrebwyr Nam ar y Clyw (HI) yng Nghampws Dinas Casnewydd, Lisa Jones a Nisha Davey, wedi sefydlu Clwb i’r Byddar, er mwyn i ni allu cefnogi ein cymuned o ddysgwyr â nam ar y clyw, a’u helpu nhw i gyflawni eu potensial llawn.

Heriau ychwanegol COVID

Gall bywyd fod yn heriol i fyfyrwyr byddar bob dydd, ac yn fwy fyth yn ystod pandemig byd-eang. O ran COVID, mae nifer o bobl yn gwisgo gorchuddion wyneb sy’n atal dysgwyr HI rhag wefus-lafur – elfen allweddol o’u modd o gyfathrebu. Yn ychwanegol, gall dysgu ar-lein wneud i ddysgwyr gyda nam ar y clyw deimlo’n fwy ynysig ac wedi’u datgysylltu, o’i gymharu â dysgu yn y dosbarth, ac mae hynny’n ei wneud yn anodd i gynnal cysylltiadau gyda chyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid.

I fynd i’r afael â’r materion hyn, sefydlodd Lisa a Nisha Glwb i’r Byddar, a bellach maent yn cwrdd bob dydd Mawrth i ddarparu anogaeth a chymorth i ddysgwyr HI yng Nghampws Dinas Casnewydd, gyda dysgwyr o gampysau eraill hefyd yn ymuno’n rhithiol drwy Microsoft Teams. Mae Clwb i’r Byddar wythnosol yn cysylltu ein dysgwyr HI gyda’i gilydd, a staff cefnogi’r coleg. Gyda’i gilydd, maent yn sgwrsio ac yn cefnogi’r naill a’r llall, ac yn gwneud iddynt deimlo eu bod wedi’u cynnwys, ac yn rhan o dîm, wrth leihau teimladau ynysig.

HI learners on conference call

Mae’r Clwb i’r Byddar newydd yn gweithio o amgylch dosbarthiadau trefnedig cymaint â phosib, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gydag un ar ddeg o fyfyrwyr yn ymuno â’r sgyrsiau grŵp, gan gynnwys 9 yn ymuno dros alwad fideo bob wythnos, ac maent yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wyneb pan mae hynny’n bosib.

Dod â Dysgwr HI at ei Gilydd

Mae deg o’n dysgwyr HI sydd wedi ymuno â’r Clwb i’r Byddar eisoes yn ffrindiau da, sydd wedi astudio yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân gyda’i gilydd. Roedd y myfyrwyr yn agos iawn, ac yn ffrindiau da yn yr ysgol, ond oherwydd COVID, fe orffennon nhw’r ysgol yn llawer cynt na’r disgwyl, a theimlo’n ynysig gartref. Wrth ymuno â Choleg Gwent fis Medi, gwasgarwyd y myfyrwyr ar draws ein campysau gwahanol ar gyfer eu hastudiaethau dewisol, ac ar ôl cael eu gwahanu, sylweddolon nhw y byddai cymorth yn ddefnyddiol iddynt am eu bod nhw’n colli ei gilydd; a’r Clwb i’r Byddar oedd yr ateb.

Yn ystod cyfarfodydd Clwb i’r Byddar, mae pynciau trafod yn amrywio o gyrsiau a chymorth i ddysgwyr, i sgwrsio am anifeiliaid anwes a chynlluniau ar gyfer y penwythnos. Ond, er mwyn datblygu’r clwb ymhellach, mae Lisa a Nisha wedi trefnu i siaradwr gwadd ymuno â’r cyfarfodydd bod wythnos a sgwrsio gyda’r myfyrwyr. Hyd yn hyn, mae siaradwyr gwadd wedi cynnwys Pennaeth Prif Swyddfa Nam Clyw Ysgol Uwchradd Cwmbrân, lle bu deg o’n dysgwyr HI yn ei mynychu HI a dod yn ffrindiau da yno, yn ogystal â Mike Sage o Rygbi Byddar Cymru, a eglurodd sut y byddwn, gyda gobaith, yn trefnu diwrnod Rygbi Byddar yn ystod gwanwyn nesaf, pan fydd COVID yn caniatáu i ni wneud hynny.

Beth nesaf?

Yn dilyn llwyddiant y Clwb i’r Byddar, prosiect nesaf Lisa a Nisha yw gosod teilsen Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar ap CG Connect. Bydd Thomas Barlow, myfyriwr Celf a Dylunio Lefel 2 o Barth Dysgu Torfaen yn dylunio’r deilsen ar gyfer CG Connect, ac maent yn gobeithio cynnwys pob dysgwr Byddar yn y gwaith o recordio cyfres o arwyddion, fel bod myfyrwyr eraill ac aelodau o staff yn gallu dysgu cyfathrebiadau BSL sylfaenol. Maent yn gobeithio cychwyn y gwaith gyda llond llaw o arwyddion, megis ‘Bore Da’, ac adeiladu ar hynny drwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod o orffen y flwyddyn gyda neges Nadoligaidd a chyflwyno cân gydag arwyddion.

I wella ymwybyddiaeth am namau clyw a’r cymorth sydd ar gael yn y coleg, hoffai Lisa a Nisha gynnwys fideo Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar o fewn y deilsen BSL. Byddai’n helpu i hyrwyddo Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar a dangos sut all pawb helpu i wneud myfyrwyr HI deimlo’n gyfforddus yn Coleg Gwent.

Rydym yn falch o fod yn goleg cynhwysfawr sy’n cefnogi a gwerthfawrogi pawb yn ein cymuned, ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth lle y gallwn. Felly, os ydych yn ddysgwr HI yn Coleg Gwent, neu’n ystyried astudio gyda ni a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Clwb Byddar, ebostiwch Lisa neu Nisha am ragor o wybodaeth: lisa.jones@coleggwent.ac.uk neu nisha.davey@coleggwent.ac.uk.