En
Cyber and Digital technology

Seiber a Digidol, nid y llwybr gyrfa i chi? Meddyliwch eto!


30 Ionawr 2023

Llwybr gyrfa a all fynd â chi i unrhyw le

Gallai cymwysterau mewn technoleg seiber a thechnoleg ddigidol arwain at lwybr gyrfa cyffrous efallai nad oeddech wedi’i ystyried. Mae TG yn dylanwadu ar bron pob sector gwaith bellach, o ofal iechyd i wasanaethau ariannol, neu Adeiladu, Peirianneg ac Amaethyddiaeth. Felly, mae technoleg yn sicr yn ddewis gyrfa sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Ond sut ydych chi’n gwybod a yw’n llwybr addas i chi?

I ble allai Technoleg Seiber a Thechnoleg Ddigidol fynd â mi?

Yn Coleg Gwent, rydym yn deall ei bod yn anodd gwybod i ba gyfeiriad yr hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi, yn enwedig ar ddechrau eich taith. Ond gan fod technoleg yn cyffwrdd â bron pob sector, gallai technoleg seiber a thechnoleg ddigidol fynd â chi i unrhyw le. Gyda chymwysterau a sgiliau mewn TG, gallwch ddatgloi drysau i sawl sector diwydiannol gwahanol drwy gydol eich gyrfa, gan ddilyn pa bynnag lwybr sy’n eich diddori fwyaf.

Cyber and digital learners at a computer and working with a small robot

Gofal Iechyd

Nid nyrsio a meddygaeth yw’r unig lwybrau i faes gwobrwyol gofal iechyd. Yn wir, mae technoleg yn chwarae rhan fawr yn y sector hwn, felly mae ystod eang o rolau seiber a thechnoleg y gallech eu dilyn. Yn ein byd digidol modern, mae datblygiadau technolegol newydd drwy’r amser.

A allwch chi ddychmygu datblygu’r oriawr glyfar ddiweddaraf sy’n mesur rhythmau calon abnormal? Neu raglennu breichiau robotig a all berfformio llawdriniaethau sy’n newid bywyd? Efallai y gallech weld eich hun yn gweithio’r tu ôl i’r llen gyda seiberddiogelwch i gadw cofnodion meddygol yn ddiogel a systemau’r GIG yn rhedeg yn esmwyth. Gallech fod ar flaen y gad o ran arloesedd ym maes gofal iechyd.

Mae sawl ffordd y gallech ddefnyddio eich sgiliau technoleg i wneud gwahaniaeth ym maes gofal iechyd. Felly, os oes gennych natur ofalgar, ond rydych fymryn yn fisi ac eisiau cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl serch hynny, gallai TG fod yn llwybr gwych i chi ei ystyried.

Amaethyddiaeth

Mae Campws Brynbuga Coleg Gwent yn gartref i fferm weithiol yn ogystal ag astudiaethau amaethyddol a gofal anifeiliaid. Felly, gallwn weld bod technoleg yn cael effaith fawr a chadarnhaol yn y meysydd hyn. Mae deallusrwydd artiffisial, roboteg, technoleg ac awtomatiaeth fecanyddol bellach yn ein galluogi i ffermio yn fwy effeithlon ar raddfa enfawr. Mae hyn wedi helpu i fwydo poblogaeth gynyddol y byd – un o bryderon mwyaf enbyd yr 21ain ganrif.

Diolch i dechnoleg, mae tractorau a pheiriannau yn defnyddio synwyryddion i fonitro amodau cnwd fel y gallwn sicrhau’r cynhyrchiant ffermio gorau posib. Gellir perfformio tasgau fel casglu ffrwythau, cynaeafu a godro yn defnyddio robotau amaethyddol. Rydym hyd yn oed yn defnyddio systemau digidol i gadw golwg ar darddiad bwyd yn ein cadwyni cyflenwi. Mae hyn oll yn rhan allweddol o’n bywydau o ddydd i ddydd, a gallech fod yn rhan ohono. Felly, os oes gennych ddoniau datrys problemau, gallech ddefnyddio technoleg seiber a thechnoleg ddigidol i ddatrys problemau’r 21ain ganrif.

Technoleg Ariannol

Mae’r DU yn un o’r arweinwyr ym maes technolegau ariannol y byd. Mae sefydliadau yn trawsnewid yn ddigidol, gyda mwy o fancio ar-lein, storfeydd data a systemau digidol. Golyga hyn fod angen cynyddol am seiberddiogelwch i fynd i’r afael â bygythiadau fel hacio a gwe-rwydo. Mae angen i gyflogwyr sicrhau bod eu data yn ddiogel, felly maent yn chwilio am bobl gyda’r sgiliau i weithio gyda’r technolegau diweddaraf. Felly, yn y sector hwn, gallech ganfod eich hun yn gweithio â deallusrwydd artiffisial, gwasanaethau cwmwl, realiti rhithwir neu roboteg hyd yn oed. Mae prinder sgiliau yn y maes hwn. Felly, gyda sgiliau seiber, bydd galw mawr amdanoch!

Mae’r sector hwn yn un prysur sy’n newid ac yn tyfu’n barhaus wrth i fygythiadau newydd ddod i’r amlwg. Byddwch yn cael eich herio bob dydd ac yn dysgu sgiliau newydd drwy gydol eich gyrfa TG. Felly, os ydych yn chwilfrydig am y datblygiadau technolegol diweddaraf, mae cwrs Coleg Seiber Cymru dan arweiniad y cyflogwr Coleg Gwent yn eich paratoi ar gyfer y sector prysur hwn yn uniongyrchol. Byddwch yn ennill y sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i ffynnu ym maes technoleg ariannol.

Amgylchedd Adeiledig

Mae ein byd modern wedi’i adeiladu ar dechnoleg, o’r cartrefi rydym yn byw ynddynt, i’r ceir rydym yn eu gyrru. Mae datblygiadau digidol ym meysydd adeiladu, gweithgynhyrchu, peirianneg ac yn ein hamgylchedd wedi trawsnewid popeth o’n hamgylch. Gallai sgiliau technoleg seiber a thechnoleg ddigidol eich gweld yn gweithio ym maes ynni gwyrdd a chadwraeth i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Gallech fod yn datblygu ‘ffatrïoedd clyfar’ sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella’r gadwyn gyflenwi. Neu efallai y byddwch yn dylunio ceir newydd gyda’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n cefnogi gyrru ac yn adnabod diffygion i wella diogelwch.

Mae’r datblygiadau nawr yn cyrraedd y gadwyn gyflenwi a defnyddwyr. Mae technoleg glyfar bellach yn norm yn ein cartrefi, mae paneli solar wedi’u cynnwys mewn tai newydd, ac mae ceir trydan mwy fforddiadwy yn cyrraedd y farchnad. Yn Coleg Gwent, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig bod dysgwyr yn profi hyn drostynt eu hunain yn y coleg i’ch paratoi at y byd gwaith. Felly, rydym wedi buddsoddi mewn technoleg i ehangu eich dysgu. Mae gennym hyd yn oed gar Tesla newydd sbon yn ein hadran Modurol!

Cyber and digital Thales sign and students working at computer

Bod ar flaen byd digidol sy’n esblygu

Mae technoleg bob amser yn datblygu gyda datblygiadau a darganfyddiadau newydd. Golyga hyn fod sgiliau seiber a digidol yn sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y gweithle ym mhob sector… yn enwedig os ydych wedi hyfforddi yn defnyddio cyfleusterau o safon y diwydiant a’r offer diweddaraf, fel dysgwyr yn Coleg Gwent.

I fod ar flaen y sector prysur hwn, mae Coleg Gwent yn falch o fod yn Goleg Aur Seiber yn Gyntaf ac yn ymdrechu i gynnig y cyfleusterau diweddaraf i ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd TG gyda’r holl gyfarpar, a mynediad at y feddalwedd a’r galedwedd ddiweddaraf i ddatblygu eich sgiliau TG a phartneriaethau gyda chyflogwyr blaenllaw – fel rhan o Goleg Seiber Cymru, sy’n gweithio i siapio’r cwricwlwm. Felly, mae cyrsiau TG Coleg Gwent yn datblygu eich sgiliau i fodloni anghenion newydd y sector, i’ch paratoi ar gyfer llwyddiant!

Lansiwch eich gyrfa mewn technoleg seiber a thechnoleg ddigidol gyda chwrs yn Coleg Gwent – Cofrestrwch ar gyfer y Digwyddiad Agored nesaf i ddysgu mwy.