En
WorldSkills logo with learners

Coleg Gwent yn cyflwyno WorldSkills


21 Medi 2020

Ers 2012, mae’n destun balchder gennym ein bod yn cefnogi nifer o ddysgwyr wrth iddynt gystadlu’n llwyddiannus yng nghystadlaethau WorldSkills, a hwythau ymhlith y 10 gorau yn nhabl cynghrair eu meysydd sgiliau am 3 blynedd yn olynol. Felly, rydym yn falch dros ben o gael ein dewis fel rhan o’r rhaglen arloesol Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, mewn partneriaeth â’r elusen addysg a sgiliau NCFE.

Gan weithio ar y cyd ag WorldSkillsUK, NCFE a’n colegau partner, byddwn yn datblygu sector addysg dechnegol blaenllaw, wrth gyflwyno safonau o’r radd flaenaf o ran datblygu sgiliau yn y DU. Rydym yn falch o helpu i godi safonau prentisiaethau a hyfforddiant technegol, ond yn bwysicach fyth, rydym yn edrych ymlaen at agor y drysau i’r cyfleoedd hyn ar ein rhiniog yng Ngwent, fel y gallwch chi ymuno ag un o golegau gorau Cymru ac ennill sgiliau o’r radd flaenaf ar draws ein hystod o gyrsiau galwedigaethol.

WorldSkills learners celebrating with medals

Dywedodd Parisa Shirazi, Pennaeth Datblygu Sgiliau a Chystadleuaeth Ryngwladol WorldSkillsUK: “Mae hon yn garreg filltir – yn gyfle unigryw i Coleg Gwent weithio gyda cholegau eraill ar draws y DU ac ymuno â dechrau chwyldro sgiliau.”

Mae’n gyfnod cyffrous i’n staff a dysgwyr fod ynghlwm â rhaglen Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, ac edrychwn ymlaen at gynnig mynediad i chi at yr hyfforddiant sgiliau o’r safon uchaf ar eich rhiniog, gan roi i chi ddyfodol gwerth chweil yn eich gyrfa ddewisol.

Beth mae rhaglen Canolfan Ragoriaeth WorkdSkills UK yn ei olygu i Coleg Gwent?

Fel rhan o raglen Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, byddwn ni i gyd yn elwa o arbenigedd NCFE yn datblygu cwricwlwm, a dealltwriaethau unigryw WorldSkills UK fel hyb byd-eang ar gyfer rhagoriaeth sgiliau.

WorldSkills learner soldering a circuit board

Dan arweiniad Hyfforddwyr Sgiliau Perfformiad Uchel WorldSkills UK, bydd ein tiwtoriaid, Gareth Pugh, Robert Morse, Paul Chard, Stephanie Parrot a Cerys Rees, yn cael eu hyfforddi a’u mentora i ymgorffori arferion a thechnegau o’r radd flaenaf yn eu harferion addysgu, dysgu ac asesu yn Coleg Gwent ar draws meysydd megis Celf Gemau 3D, Cynnal a Chadw Moduron, Peirianneg Drydanol, Trin Gwallt a Harddwch a Chwaraeon a Ffitrwydd. Bydd yr arbenigedd hwn yn cael ei drosglwyddo i chi, ein dysgwyr, er mwyn i chi allu datblygu sgiliau o’r radd flaenaf ar eich rhiniog yn ne Cymru.

ICT WorldSkills learner on computer

Mae gennym gymuned lwyddiannus o ddysgwyr galwedigaethol ar draws ein pum campws, ac mae bod yn rhan o raglen Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK yn gyfle gwych i atgyfnerthu eich hyfforddiant sgiliau, drwy rannu arferion gorau a rhoi’r cyfle i chi ddysgu gan y gorau.

Beauty Therapy WorldSkills learners in competition

Pleser gennym yw bod ymhlith yr ugain o golegau sydd wedi’u dewis i ffurfio rhaglen Canolfan Ragoriaeth newydd WorldSkills UK, yn rhoi lle canolog i hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd. Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr sydd wedi cystadlu’n llwyddiannus yng nghystadlaethau WorldSkills flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rydym yn ymroddedig i gyflwyno rhaglenni addysgu rhagorol i chi ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf. Dewch o hyd i’r alwedigaeth i chi a dewch i ennill sgiliau o’r radd flaenaf drwy ein hystod eang o gyrsiau galwedigaethol yn Coleg Gwent.