En

Coleg Gwent yn Ennill Aur yng Ngwobrau WorldSkills


2 Rhagfyr 2019

Mae myfyrwyr Coleg Gwent wedi ennill aur yn rowndiau terfynol cenedlaethol diweddar WorldSkills UK LIVE, gan guro eu cyfatebwyr o golegau ledled y DU yn y Seremoni Wobrwyo ddydd Sadwrn 23 Tachwedd.

Mae rowndiau terfynol cenedlaethol Cystadlaethau WorldSkills UK yn cwmpasu 70 o wahanol sgiliau ar draws ystod eang o ddiwydiannau gan gynnwys digidol, technoleg, peirianneg ac adeiladu. Denodd y digwyddiad sgiliau, prentisiaeth a gyrfaoedd mwyaf y DU fwy na 70,000 o wylwyr i’r NEC yn Birmingham.

Sicrhaodd myfyrwyr Coleg Gwent, Danielle Hall a Nathan Parfitt fedalau Aur mewn Hyfforddiant Personol a Chelf Gêm Ddigidol 3D yn y drefn honno, tra derbyniodd Shane Powell fedal Arian am Drin Gwallt. Daeth Daniel Gabica yn 3ydd yn y categori Sgiliau Cynhwysol: Cerbydau Modur.

Roedd Coleg Gwent yn un o bedwar coleg yng Nghymru i gyrraedd tabl y cynghrair eleni ac mae’n 9fed yn y 10 uchaf am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd Danielle, un o enillwyr y fedal Aur, sydd yn astudio Tylino Chwaraeon ac Cyfeirio Ymarfer Corff ar Gampws Brynbuga Coleg Gwent: “Mae WorldSkills wedi bod yn brofiad anhygoel o’r dechrau i’r diwedd, byddwn yn ei argymell i unrhyw un. Mae’r tiwtoriaid yma wedi bod yn wych am fy mharatoi, ni allwn fod wedi gofyn am fwy. Mae WorldSkills wedi rhoi mantais enfawr imi ar gyfer y byd go iawn gan fy mod mewn gwirionedd wedi rhoi fy holl sgiliau ar waith.

Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn ac rwy’n dal mewn sioc fy mod wedi ennill Aur. ‘Roedd yr holl gystadleuwyr yn fedrus iawn ac roeddwn i mor hapus â’r hyn yr roeddwn i wedi’i ennill o’r profiad, i’w ennill oedd yr eisin ar y gacen. Rwyf y tu hwnt i ddiolchgar ac anrhydedd i ddod â’r fedal aur adref i Goleg Gwent ac i Gymru. Gallwch chi wneud unrhyw beth pan fydd gennych chi’r system gymorth rydw i wedi bod mor fendigedig ei chael. ”

Dywedodd Helen Morgan, Pennaeth Ysgol ar y Tir a Chwaraeon, Coleg Gwent – Campws Brynbuga: “Mae Danielle wedi gweithio mor galed wrth baratoi ar gyfer hyn ac mae’r fedal Aur yn haeddiannol iawn. Magodd hyder trwy gydol y gystadleuaeth.

Da iawn a diolch am eich holl waith caled. Rydym i gyd mor falch ar Gampws Brynbuga. ”

Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn agored i fyfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig lle gall cyflogwyr, colegau ac ysgolion gofrestru dysgwyr i gymryd rhan. Roedd gan y gystadleuaeth fwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cystadlaethau yn gobeithio sicrhau’r cyfle i gynrychioli’r DU yn Rowndiau Terfynol WorldSkills, a elwir y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’ yn Shanghai yn 2021.

Y myfyrwyr llwyddiannus Coleg Gwent a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol cenedlaethol oedd: