En
Hackathon champion Lee Jackson and Jake Williams

Myfyriwr Cyfrifiadura o Coleg Gwent yn Ennill Cystadleuaeth Hacathon


25 Ionawr 2021

Ar 16 Rhagfyr 2020, cynhaliodd Brifysgol Metropolitan Caerdydd ddigwyddiad Hacathon Rhithiwr, mewn partneriaeth ag EC Council, lle roedd myfyrwyr yn cystadlu mewn her seiberddioglewch gyffrous. Cymerodd Jake Williams a Lee Jackson o Gampws Dinas Casnewydd ran lwyddiannus yn y digwyddiad, gyfochr â 390 o fyfyrwyr eraill o 40 o ysgolion a cholegau ledled y DU.

Mae Lee a Jake yn astudio ein cwrs Cymorth Systemau TGCh Lefel 2, ond y tu allan i’w hastudiaethau, mae gan y ddau ohonynt ddiddordeb mawr mewn hacio moesegol fel hobi. Felly, roedd yr Hacathon yn gyfle iddynt gymryd rhan mewn digwyddiad gyfochr ag eraill gyda’r un diddordeb, gan roi eu sgiliau a diddordeb ar waith – ac mae’r profiad yn edrych yn wych ar eu CVs.

Gosodwyd dasgau ar-lein yn ystod her yr Hacathon fis Rhagfyr, ac roedd yn rhaid i’r myfyrwyr ddilyn cyfarwyddiadau llym i ddatgodio a diogelu’r rhyngrwyd yn yr amser cyflymaf, gyda’r nod o gyflawni’r cywirdeb uchaf. Roedd yn gyfle i fyfyrwyr ennill profiad drwy roi eu sgiliau seiberddiogelwch a gwybodaeth am TG ar waith i oresgyn pob tasg a chwblhau’r labordy Hacio Dyfais Symudol, wrth ddod â dysgwyr ynghyd i gydweithio mewn tasg sy’n helpu i ddatrys problemau mewn seiberddiogelwch. Mwynhaodd Jake a Lee her yr Hacathon, ac rydym yn falch iawn fod Lee wedi dod i’r brig, gan gwblhau 100% mewn 38 munud a 45 eiliad, yr amser cyflymaf, a churo 389 o gystadleuwyr.

Dywedodd Gareth Jones, trefnydd y digwyddiad a Swyddog Marchnata Recriwtio Myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd: “Roedd hwn yn un o’n digwyddiadau mwyaf llwyddiannus eleni. Mae’r Hacathon yn heriol ac yn atyniadol i fyfyrwyr sy’n canolbwyntio ar astudiaethau mwy technegol, ac yn darparu profiad go iawn o’r sector technoleg a seiberddiogelwch.”

cybersecurity

Pam y dylech chi ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch?

Os ydych yn mwynhau datrys problemau, yn mwynhau’r holl dechnoleg ddiweddaraf, yn ffafrio gwaith ymarferol, ac rydych yn chwilio am yrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn, mae TGCh a Seiberddiogelwch yn llwybrau gwych i’w hystyried, oherwydd mae’r angen am arbenigwyr seiberddiogelwch yn fwy pwysig nag erioed.

Yn ôl Arolwg Toriadau Seiberddiogelwch diweddaraf y llywodraeth, mae ymosodiadau seiber yn digwydd yn fwy rheolaidd yn y DU, ac yn ogystal, maent wedi datblygu a newid yn y blynyddoedd diwethaf. Ystyrir unrhyw ymgais i gael mynediad at systemau, rhwydweithiau neu ddyfeisiau TGCh, neu achosi niwed ac amhariad iddynt, yn ymosodiad seiber, a gallant fod yn niweidiol iawn i fusnesau a’u cwsmeriaid. Ond mae byd ymosodiadau seiber yn newid o hyd, a nawr rydym yn gweld llai o feirysau a mwy o ymosodiadau gwe-rwydo soffistigedig yn eu lle. Golygai hyn fod yn rhaid i’n hamddiffyniadau yn erbyn ymosodiadau seiber newid er mwyn delio â’r her newydd hon, felly mae’n sector prysur i weithio ynddo.

Felly, yn Coleg Gwent, rydym yn Goleg Aur Seiber yn Gyntaf. Mae ein cyrsiau TGCh a seiberddiogelwch a chwricwlwm wedi’u dylunio i fodloni gofynion newidiol y sector hwn, ac mae ein rhaglenni Coleg Seiber Cymru a Career College wedi’u dylunio ar y cyd â chyflogwyr i ddatblygu eich sgiliau technegol. Ond mae cyfleoedd yn ymestyn y tu hwnt i’r dosbarth hefyd, gyda heriau megis yr Hacathon rhithiwr yn cefnogi eich dysgu, ac yn cyfoethogi eich profiadau, i’ch paratoi chi ar gyfer y byd gwaith mewn seiberddiogelwch a TGCh.

Os ydych yn chwilfrydig ynghylch gyrfa yn y sector seiberddiogelwch a TGCh, cofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad agored rhithiwr nesaf i gwrdd â’n tiwtoriaid a dysgu mwy am eich dewisiadau cwrs yn Coleg Gwent.

6 Ffaith annisgwyl am ymosodiadau seiber yn y DU

Facts about cyber security - infographic cymraeg

  1. Mae bron i hanner o fusnesau (46%) a chwarter o elusennau (26%) wedi dweud eu bod nhw wedi profi ymosodiadau seiber neu doriadau seiberddiogelwch yn y 12 mis diwethaf. (CSO Online)
  2. Mae 91% o ymosodiadau hacio yn cychwyn gydag e-bost gwe-rwydo. (Verizon)
  3. Mae oddeutu 65,000 ymgais i hacio busnesau maint bach i ganolig (BBaCh) yn digwydd yn y DU bob dydd, ac mae oddeutu 4,500 ohonynt yn llwyddiannus (CSO Online)
  4. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r DU wedi wynebu dros 1,800 o ymosodiadau seiber ers sefydlu’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn 2016. (National Cyber Security Centre)
  5. Mae ymosodiadau seiber yn costio oddeutu £34 biliwn i fusnesau yn y DU bob blwyddyn (Centre for Economics and Business Research)
  6. Mae un busnes bach yn y DU yn cael ei hacio’n llwyddiannus bob 19 eiliad. (Hiscox Group)