En

City & Guilds Defnyddwyr TG / Cymorth Systemau TG Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Byddwch yn cyfuno sgiliau technegol ar gyfer cynnal a chadw cyfrifiaduron personol gyda sgiliau meddalwedd Lefel 2 i ddatblygu dull mwy cytbwys o ymdrin â chymorth systemau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych eisiau datblygu gwybodaeth a sgiliau pellach mewn TG

... ydych eisiau symud yn eich blaen at gwrs Addysg Uwch mewn TG

... ydych yn anelu at yrfa ddynamig mewn technoleg gwybodaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn dysgu mwy am osod caledwedd a meddalwedd, cynnal a chadw cyfrifiaduron personol a sgiliau cywiro diffygion er mwyn mynd yn eich blaen i’r diwydiant TG.

Trwy astudio cymhwyster Defnyddwyr TG Lefel 2, byddwch yn gwella eich sgiliau cymorth yn y swyddogaeth TGCh. Bydd y cymhwyster Defnyddwyr TG yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau a systemau meddalwedd.

Byddwch yn dilyn unedau fel:

  • Nodweddion sylfaenol cydrannau systemau cyfrifiadurol
  • Diagnosio problemau
  • Iechyd a diogelwch
  • Cydosod, datgymalu, gosod a chynnal a chadw system bwrdd gwaith
  • Rhwydweithio
  • Diogelwch cyfrifiadurol

Gall y cwrs hwn eich helpu i symud yn eich blaen at amrywiaeth o rolau TGCh, yn cynnwys:

  • Technegydd desg gymorth systemau
  • Gweinyddwr cronfeydd data
  • Datblygwr cynhyrchion TG

Byddwch yn cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn academaidd trwy gyfrwng aseiniadau ymarferol a byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Cymorth Systemau

  • Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Defnyddwyr TG (ITQ)
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymuno â’r cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol, yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn TG.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Defnyddwyr TG / Cymorth Systemau TG Lefel 2?

NFDI0436AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr