En
EDI

Dathlu ein mentrau amrywiaeth a chynhwysiant


22 Rhagfyr 2023

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, rydym yn edrych yn ôl ar rai o’n mentrau sy’n ein helpu ni i ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb i fyfyrwyr, aelodau staff a’n cymuned ehangach. 

1. Dathlu Diwrnodau Ymwybyddiaeth  

Yma yn Coleg Gwent, nid yw dathlu diwrnodau ymwybyddiaeth yn ddyddiad ar y calendr yn unig; mae’n gyfle i ddysgu, rhannu a gwerthfawrogi’r cefndiroedd amrywiol sy’n creu ein cymuned y coleg. Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Coleg yn cynnal digwyddiadau, gweithdai a thrafodaethau i ddathlu’r cyflawniadau ac i fynd i’r afael â’r heriau y mae ein cymunedau amrywiol yn eu hwynebu, gan gynnwys Mis Hanes Pobl Dduon, Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig, Mis Balchder, Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. 

2. Lansio Rhwydweithiau Affineg  

EDI

Gan ddeall pwysigrwydd cynrychiolaeth, yn 2022, lansiwyd ein rhwydweithiau affineg sy’n dod ag unigolion sy’n rhannu hunaniaethau, cefndiroedd neu brofiadau cyffredin ynghyd. Mae’r chwe rhwydwaith affineg yn Coleg Gwent yn cyfrannu at fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys ar ran pob un o’r grwpiau a’r unigolion a dangynrychiolir neu sydd dan anfantais ac mae pob un yn gyrru gweithredoedd yn eu blaen sy’n gysylltiedig â digwyddiadau allweddol ar ein calendr megis Mis Hanes Pobl Dduon (Cydraddoldeb Hil), Diwrnod Rhyngwladol y Dynion (Rhwydwaith Cynghrair Dynion). Trwy gynnal digwyddiadau a chyfarfodydd rheolaidd, mae’r rhwydweithiau hyn yn cyfrannu at ddiwylliant campws sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu’r hunaniaethau amrywiol yng nghymuned y coleg. 

3. Hyfforddiant Gwrth-hiliaeth i’r Holl Staff: Ymrwymiad ar y Cyd 

EDI

Yn unol â dyhead Llywodraeth Cymru am Gymru wrth-hiliaeth erbyn 2030, rydym yn sefyll yn gadarn gan ddweud na o ran pob math o hiliaeth. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym wedi llwyddo i lansio Cyfnod 1 o’n hyfforddiant gwrth-hiliaeth a gyflwynwyd gan Race Council Cymru ac rydym yn falch o gyhoeddi bod 90% o’n haelodau staff wedi cwblhau’r hyfforddiant. Mae dros 50 aelod staff eisoes wedi cwblhau Cyfnod 2 o’r hyfforddiant a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2023. 

4. Dod â’n Dysgwyr â Nam ar Eu Clyw Ynghyd 

Un o nodweddion mwyaf amlwg ein hymrwymiad i gynhwysiant yw Clwb Byddaron Coleg Gwent. Mae’r clwb yn darparu platfform i fyfyrwyr sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw i gysylltu, rhannu profiadau a chynnig cymorth. O weithdai iaith arwyddion i lansio côr y byddaron, mae Clwb y Byddaron yn helpu i greu gofod lle gall pawb gyrraedd ei botensial. 

5. Matiau Gweddïo: Symbol o Gynhwysiant Crefyddol 

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2023, cynhaliwyd lansiad swyddogol argaeledd matiau gweddïo â logo Coleg Gwent ar bob un o’n campysau. Mae’r matiau gweddïo yn rhan o’n hymagwedd at feithrin amgylchedd agored a chroesawgar wrth gydnabod pwysigrwydd ymarferion crefyddol a dealltwriaeth.

6. Interniaethau â Chymorth 

EDI

Mae ein cynllun Gwerth Profiad Gofal wedi’i ddylunio i annog mwy o fyfyrwyr o dde Cymru i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o’r fenter hon, mae myfyrwyr o’n cwrs Sgiliau Byw yn Annibynnol (ILS) wedi bod yn cymryd rhan mewn interniaethau â chymorth yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni dri diwrnod yr wythnos. Mae’r dysgwyr yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau staff y cyfleusterau mewn ystod o rolau gwahanol er mwyn helpu i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.  

7. Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol: Meithrin Pob Unigolyn 

Y tu hwnt i fentrau a dargedwyd, rydym hefyd yn darparu cymorth eang i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn teimlo ei fod wedi’i gynnwys a’i gefnogi. O gyfleusterau hygyrch i gymorth iechyd sy’n addas ar gyfer anghenion amrywiol, mae ymrwymiad y Coleg i gynwysoldeb yn ymestyn i bob agwedd ar fywyd ar y campws.   

Dywedodd Nkechi Allen-Dawson, Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Lles yn Coleg Gwent: “Nid yw amrywiaeth yn ymwneud ag ymgynnull y gymhareb gywir o bobl â nodweddion neu hunaniaethau gwahaniaethol. Mae’n ymwneud â deall pam bod y gwahaniaethau hynny yn werthfawr. Yn gyntaf, rydych chi’n dechrau meddwl y tu hwnt i nodweddion sy’n warchodedig dan y gyfraith ac rydych chi’n croesawu pob arlliw amrywiol o ‘ni’ – y rhai sy’n creu ein gweithlu a’n cynulleidfaoedd.” 

Trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth am safbwyntiau gwahanol, trwy gynnig cymorth ar gynhwysiant a darparu hyfforddiant i’r aelodau staff, rydym yn gweithio’n galed i greu amgylchedd lle y mae pawb yn teimlo ei fod wedi’i werthfawrogi a’i barchu. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud ein Coleg yn ofod diogel a chynhwysol i bawb.  

Darllenwch fwy am sut rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant trwy ein siarter amrywiaeth.