En

Deall Graddau Rhagfynegol


6 Chwefror 2024

Gall graddau rhagfynegol fod yn rhan bwysig o’r broses dderbyn yma yn Coleg Gwent, felly mae’n bwysig cael dealltwriaeth glir o raddau rhagfynegol a sut y gallant effeithio ar eich proses ymgeisio.

Beth yw graddau rhagfynegol, felly? Darperir graddau rhagfynegol gan ddarlithydd/athro cyn i chi sefyll eich arholiadau, ac maent yn adlewyrchiad o’r canlyniadau y gallwch ddisgwyl eu cyflawni yn eich TGAU neu Lefel A (neu arholiadau cyfatebol).

Pam mae nhw’n bwysig?

Mae graddau rhagfynegol yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio gan eu bod yn gadael i ni gael golwg ar eich galluoedd academaidd cyn i chi ymuno â ni. Mae gan lawer o’n cyrsiau ofynion mynediad er mwyn sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth gywir i gwblhau’r cwrs o’ch dewis yn llwyddiannus.

Mae graddau rhagfynegol yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy’n gwneud cais am gyrsiau addysg uwch neu lefel uwch. Gall y cyrsiau hyn fod yn heriol iawn, felly awgrymir weithiau eich bod yn dilyn cwrs ar y lefel is yn gyntaf, er mwyn helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau allweddol a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.

Mae graddau rhagfynegol hefyd yn bwysig i chi fel dysgwr oherwydd gallan nhw eich helpu i fesur eich cynnydd. Gall hyn eich helpu i osod nodau er mwyn i chi fynd lle rydych angen bod!

Beth os nad yw fy ngraddau rhagfynegol yn bodloni’r gofynion mynediad?

Os nad yw eich graddau rhagfynegol yn bodloni’r gofynion mynediad – peidiwch â rhoi’r gorau iddi!

Os ydych yn teimlo y gallwch gyflawni’r gofynion mynediad, gweithiwch ac adolygwch yn galed a siarad â’ch athrawon/tiwtoriaid am yr hyn y gallwch ei wneud i wella eich graddau rhagfynegol. Mae’n annhebygol y byddan nhw’n codi eich graddau jyst achos eich bod yn gofyn – ac os gwnaethon nhw hynny, efallai byddech yn cael eich siomi ar ddiwrnod canlyniadau. Efallai y gallant awgrymu cynllun astudio neu gyfle arall a allai helpu i wella’ch graddau.

Siaradwch â ni! Os ydych dal i fod yn ansicr, gallwch siarad â’n tîm recriwtio myfyrwyr am rai rhaglenni cyn-fynediad amgen ar ffurf gwrs lefel is a allai fod ar gael er mwyn helpu eich gosod ar y llwybr cywir.

Beth os nad yw fy ysgol/coleg yn darparu graddau rhagfynegedig?

Nid yw pob ysgol/coleg yn darparu graddau a ragwelir, ond peidiwch â phoeni! Gallwch chi wneud cais o hyd, ond mae angen i chi gynnwys graddau rydych chi’n gobeithio eu cyflawni yn eich cais. Mae’n bwysig bod yn realistig er mwyn i chi fod yn siŵr eich fod yn gosod eich hun ar y llwybr cywir.

Ailsefyll eich Mathemateg a Saesneg yn Coleg Gwent

Yn Coleg Gwent, rydym yn cymryd eich datblygiad mewn Mathemateg a Saesneg o ddifrif. Rydym yn cydnabod bod mathemateg a Saesneg da yn asedau hanfodol yn y farchnad swyddi heddiw, yn ogystal â bywyd bob dydd. Felly os na chawsoch chi’r graddau sydd eu hangen arnoch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg ar gyfer y dyfodol rydych chi ei eisiau, gallwn roi gyfle arall i chi eu gwella ochr yn ochr â’ch cwrs, yn ogystal â’ch helpu i gyrraedd y lefel rydych chi ei hangen.

Fel dysgwr llawn amser yn y Coleg, bydd Mathemateg a Saesneg yn rhan o’ch rhaglen ddysgu, lle byddwn yn eich cefnogi i ennill y cymwysterau Mathemateg a Saesneg sydd eu hangen ar gyfer dilyniant eich cwrs, cyflogwyr a’r brifysgol. Os na wnaethoch ennill gradd C neu uwch yn eich TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith, byddwch yn bwrw ymlaen i astudio’r pynciau hyn yn y Coleg. Yn dibynnu ar eich cyrhaeddiad, bydd hyn yn golygu ail eistedd naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol.

Beth i’w wneud ar ôl i chi gael eich graddau Rhagfynegol?

Gwnewch gais am y cwrs o’ch dewis! Unwaith eich bod wedi cael eich graddau rhagfynegol, gallwch wneud cais ar unwaith — does dim angen aros tan ddiwrnod canlyniadau. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi eich trefniadau teithio a gwneud cais am unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ymlaen llaw.

Ddim yn siŵr am eich graddau? Cysylltwch â ni. Mae ein tîm recriwtio myfyrwyr wrth law i helpu ac mae ganddyn nhw lawer o brofiad o helpu dysgwyr i ddod o hyd i’r cwrs sydd ei angen arnyn nhw i’w gosod ar y llwybr cywir. Cysylltwch â ni ar helo@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01495 333 777.