En
Three Coleg Gwent learners

Llwyddiant Ariannol i Tafflab


15 Rhagfyr 2020

Yn Coleg Gwent, gwyddom fod gan nifer o’n dysgwyr uchelgeisiau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’w hastudiaethau. Felly, rydym yn ceisio eich cefnogi chi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth werthfawr drwy weithgareddau allgyrsiol. Bob blwyddyn, mae ein tîm Menter ac Entrepreneuriaeth poblogaidd yn gweithio gyda dysgwyr i ddarparu gweithdai a thiwtorialau gydag arbenigwyr diwydiannol; darparu cyfleoedd i fyfyrwyr entrepreneuraidd weithio ar friffiau prosiectau byw; ac annog dysgwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau entrepreneuraidd megis Rhaglen Tafflab.

Ynghylch Prosiect Tafflab

Cafodd ei sefydlu yn 2014, ac mae’n caniatáu entrepreneuriaid i gyflawni eu huchelgeisiau busnes, ac mae Prosiect Tafflab yn gweithio gyda cholegau Addysg Bellach yng Nghymoedd De Cymru, gan gynnwys Coleg Gwent. Mae gan bob coleg Hyrwyddwr Menter Coleg sy’n helpu i ddewis dysgwyr ar gyfer Tafflab, ac yn gweithio’n agos gyda’r myfyrwyr a’u mentoriaid, i wireddu eu syniadau entrepreneuraidd.

Yn y blynyddoedd blaenorol, mae myfyrwyr wedi cymryd rhan ym Mhrosiect Tafflab gyda busnesau glanhau, addurno, colur, pobi cacennau, gwneud gwisgoedd a phropiau, barbro, a mwy. Mae pob myfyriwr Tafflab yn cael mentor, sydd wedi cytuno i gefnogi’r prosiect, ac mae rhai o’r mentoriaid hyn yn cynnwys aelodau blaenorol o Tafflab, sydd eisiau trosglwyddo yr hyn a ddysgon nhw i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, drwy ddarparu anogaeth, cefnogaeth a chyngor.

Abi ChamberlainMae Tafflab eisoes wedi profi ei fod o fudd i nifer o’n dysgwyr. Yn y blynyddoedd blaenorol, mae cyn-fyfyrwyr Coleg Gwent wedi derbyn cyllid i’w helpu nhw ddatblygu eu syniadau busnes. Yn 2018, enillodd Abigail Chamberlain gyllid Tafflab a’i galluogodd hi i lansio Welsh Luxury Hamper Company, a gyda’r cymorth hwnnw, daeth yn entrepreneur Cymreig llwyddiannus. Bellach, mae hi wedi dychwelyd i Tafflab fel mentor, er mwyn iddi rannu ei phrofiad a gwybodaeth a helpu entrepreneuriaid brwdfrydig eraill.

Mae eleni yn amser cyffrous i bedwar o’n dysgwyr, sydd wedi ennill cyllid gan Tafflab yn ddiweddar, am eu syniadau busnes entrepreneuraidd eu hunain. Mae Tafflab yn darparu’r gefnogaeth mae ein hentrepreneuriaid ifanc ei hangen i ddatblygu eu mentrau busnes, ac yn cynnig cyfraniadau ariannol iddynt, yn amrywio o £100 i £500.

Dewch i gwrdd â dau o ddysgwyr llwyddiannus eleni

Chelsea CroninMae Chelsea Cronin yn ddysgwr ail flwyddyn Safon Uwch o Barth Dysgu Blaenau Gwent, a chychwynnodd ei busnes, Chelsea’s Charmz, yn ystod cyfnod clo 2020, i ddatblygu ei diddordeb mewn creu gemwaith i’r lefel nesaf.

Cafodd ei hysbrydoli gan y syniad o werthu anrhegion bach i bobl eu rhoi i’r naill a’r llall i godi gwen ar eu hwynebau yn ystod cyfnodau heriol, a thyfodd syniad busnes Chelsea a bellach hoffai ehangu hynny i gynnwys gwneud ategolion hefyd.

Dywedodd, “Mae amser yn un her. Mae rhedeg fy musnes fy hun yn cymryd llawer o’m hamser. Fodd bynnag, mae’r tiwtoriaid wedi bod yn hynod gefnogol o ran fy helpu i drefnu fy amser yn dda. Un peth fyddwn i’n ei ddweud: ewch amdani! Hyd yn oed os nad yw eich busnes yn mynd yn ei flaen mor dda ag yr oeddech wedi ei fwriadu, mae’r profiad yn werth chweil.”

Daniel GreenwayMae Dan Greenway yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf Safon Uwch yng nghampws Crosskeys, ac fe enillodd wobr fwyaf Tafflab, sef £500, tuag at ei fenter busnes. Mae ganddo ddiddordeb mewn iechyd a ffitrwydd, a phenderfynodd Dan a’i ffrind eu bod nhw eisiau tyfu rhywbeth o fod yn syniad i fusnes, a chwmni dillad ymarfer corff oedd y syniad hwnnw. Cafodd Dan ei ysbrydoli’n benodol gan entrepreneuriaid llwyddiannus enwog megis Elon Musk a Ben Francis, o’r cwmni dillad ymarfer corff llwyddiannus, Gymshark.

Ei uchelgais tymor hir yw datblygu ei fusnes a mynd i’r brifysgol, a’r rhesymau anariannol sydd fwyaf gwerth chweil i Dan o ran bod yn entrepreneur, megis bod yn rheolwr arnoch chi eich hun a chael y cyfle i rannu barn mewn marchnad y mae ganddo ddiddordeb ynddi. Ond, mae’r elfen gyfreithiol o redeg busnes yn gallu bod yn heriol i berson ifanc, ac mae Coleg Gwent wedi rhoi cyfle iddo ddysgu am y gofynion cyfreithiol. Felly, byddai Dan yn eich cynghori i “gychwyn yn ifanc, a chael cymaint o gyngor â phosib gan gymaint o bobl â phosib. Hefyd, byddwch yn barod i wneud camgymeriadau, a dysgu ohonynt, bod â gweledigaeth a gweithio tuag ati.”

Yn Coleg Gwent, rydym yn falch iawn o’n pedwar dysgwr sydd wedi llwyddo i gyflwyno eu busnesau eleni. Cyflwynodd bob un eu cynnig mewn ffordd wahanol dros Zoom, a dywedodd Zoe Blackler, Arweinydd Menter ac Entrepreneuriaeth,“mae ein henillwyr yn Coleg Gwent wedi dangos ysbryd entrepreneuraidd gwych wrth gyflwyno eu cynigion mewn byd rhithiwr newydd, ac wedi dangos cymaint o frwdfrydedd wrth arddangos eu syniadau busnes. Maent wedi arddangos sut all trallod greu cyfle i fusnesau, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw, cyfochr â Tafflab, i helpu eu syniadau busnesau ddatblygu a ffynnu.”

Felly, os ydych chi’n ddysgwr yn Coleg Gwent, gyda syniad busnes uchelgeisiol, dysgwch fwy am sut all ein tîm Menter ac Entrepreneuriaeth eich helpu chi i wneud eich syniad yn llwyddiant!