En
Students volunteer with ABUHB

Myfyrwyr yn gwirfoddoli i gefnogi cleifion yn yr ysbyty yn ystod pandemig COVID


8 Mawrth 2021

Ymysg llawer o effeithiau pandemig y Coronafeirws, mae ein dysgwyr Iechyd a Gofal  wedi methu â chyflawni eu lleoliadau gwaith – rhan hanfodol o’u hyfforddiant a phrofiad. Felly, gan fod lleoliadau’n gorfod cael eu hatal ar hyn o bryd a chyda galw cynyddol am wirfoddolwyr i ymuno â’r gwasanaeth cyfeillio mewn ysbytai lleol, rydym wedi cydweithio â Thîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) i daclo’r ddau fater ar yr un pryd.

Gyda chyfleoedd ar agor i’n holl ddysgwyr Iechyd a Gofal wirfoddoli gyda’r Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, mae ein myfyrwyr wedi gallu cael profiad gwerthfawr iawn mewn lleoliadau gofal yn ystod y pandemig. Ar adeg pan fo ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty yn gyfyngedig er mwyn atal lledaeniad yr haint, mae unigrwydd yn bryder gwirioneddol i’r Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn. Ond mae gwirfoddolwyr yn gweithio ar y wardiau yn rhan o’r gwasanaeth cyfeillio wedi helpu i daclo hyn, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

Cysylltu’r cenedlaethau

Hyd yma, mae 25 o’n dysgwyr Iechyd a Gofal ysbrydoledig wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o’r cynllun. Nid yn unig maent wedi gwirfoddoli ar wardiau ledled ABUHB yng Ngwent, ond yn hytrach ym mhob maes iechyd a gofal. Mae gwirfoddoli gyda’r Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn golygu ymgysylltu, siarad a rhyngweithio gyda chleifion, yn enwedig rhai agored i niwed a’r henoed, wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol i sicrhau eu bod mewn cyswllt â’u hanwyliaid. A chydag Wythnos Pontio’r Cenedlaethau wedi’n cyrraedd ni (8-14 Mawrth), credwn y bydd cyfleoedd i genedlaethau ddod at ei gilydd fel hyn hyd yn oed yn fwy pwysig wrth i ni ddod allan o’r pandemig presennol.

Eglurodd Elena Hall, dysgwr Iechyd a Gofal: “Yn 17 oed, mae’n anodd iawn dod o hyd i gyfle lle gallaf roi’n ôl i’r gymuned. Ond pan welais y swydd Wirfoddol gyda’r Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, roedd gen i ddiddordeb. Cafodd y sesiynau hyfforddiant eu cynnal yn dda, yn enwedig gan eu bod nhw o bell, a chyn gynted ag y cefais gwrdd â’r tîm, ro’n i’n teimlo’n gyfforddus. Mae’r swydd yn gwneud i chi deimlo’n dda iawn, ac mae bod yn rhan ohoni wedi rhoi agoriad llygad i mi! Rwyf wedi teimlo’n gyfforddus gydol y broses, ac yn edrych ymlaen at bob shifft gan wybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth!”

Students volunteer with ABUHB

Datblygu sgiliau

Mae’r gwirfoddoli wedi bod yn brofiad gwych i’n dysgwyr sydd wedi’u galluogi nhw i wneud gwahaniaeth i’r bobl maent yn gweithio â nhw, drwy fagu sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y cwrs. Maent wedi cael cyfle i ddatblygu ac ymarfer sgiliau cyfathrebu, empathi a gwrando, ac wedi cael hyfforddiant ar PPE, rheoli heintiau, cyfrinachedd, ac urddas a pharch. Ac yn bwysicach fyth, maent wedi dysgu sut i rymuso cleifion i ddefnyddio technoleg ddigidol i gadw mewn cyswllt â’u teuluoedd a ffrindiau.

Dywedodd Harriett Saunders, dysgwr Iechyd a Gofal: “Ers dechrau gwirfoddoli, mae’r Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar y Person wedi bod yn wych a chroesawgar. Maent yn sicrhau fy mod yn gyfforddus o ran faint ‘dw i’n rhyngweithio gyda chleifion, ac yn gwneud yn siŵr nad ydw i’n cael fy ngadael ar ben fy hun gyda chlaf nes fy mod yn hyderus i wneud hynny. Mae’r profiad wedi fy ngalluogi i gael mewnwelediad gwerthfawr i gyd-destun ysbyty, ond hefyd i sut mae cleifion yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r amgylchiadau presennol, a thrwy lwc, sut mae gwirfoddolwyr fel fi yn gallu cael effaith ar ddiwrnod claf. Mae’n brofiad ardderchog, ac rwy’n mwynhau pob eiliad ohono.”

Gweithio gyda’n bwrdd iechyd lleol

Mae’r cynllun gwirfoddoli wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn barod, gan arddangos pa mor bwysig yw hi i goleg addysg bellach fel Coleg Gwent gydweithio â chyflogwyr lleol. Mewn gwirionedd, mae wedi bod yn gymaint o lwyddiant i’n dysgwyr a’r Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn fel ein bod yn ymchwilio i bartneriaeth barhaus ar gyfer lleoliadau i fyfyrwyr Iechyd a Gofal ar ôl y cyfnod clo hefyd.

Gan fod ein myfyrwyr o bosib yn weithlu ABUHB y dyfodol, mae Gino Parisi, Rheolwr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a Phartneriaethau, yn falch iawn fod y bartneriaeth yn eu galluogi i gefnogi ein myfyrwyr i fagu sgiliau amhrisiadwy fydd yn gwella eu dysgu. Mae’r mewnwelediad gwerthfawr hwn i yrfaoedd posib gydag ABUHB hefyd wedi cefnogi cyflawniad gofal ac wedi gwella lles cleifion yn ystod y pandemig COVID, gan fod o fudd i’r bwrdd iechyd a’n myfyrwyr hefyd.

Rydym yn gweld galw cynyddol parhaus ar gyfer ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Felly, os yw hon yn yrfa y byddech yn awyddus ei hystyried, ymunwch â ni yn ein digwyddiad agored rhithwir nesaf i ddysgu mwy, neu gwnewch gais heddiw.