En
Students celebrating results

Diwrnod Canlyniadau 2023 - myfyrwyr yn dathlu canlyniadau arholiadau yn Coleg Gwent


17 Awst 2023

Mae 97.4% o fyfyrwyr y coleg wedi derbyn graddau Safon Uwch A*-C, tra mae 88% o fyfyrwyr BTEC wedi cael gradd lwyddo neu'n uwch dros 48 o wahanol feysydd pwnc galwedigaethol

Mae myfyrwyr Coleg Gwent – un o golegau gorau Cymru – yn dathlu heddiw (Awst 17) wrth iddynt gasglu eu canlyniadau BTEC, Safon Uwch ac UG angenrheidiol i’w galluogi i gymryd eu camau cyntaf i addysg uwch ac i’w gyrfaoedd newydd.

Mae 97.4% o fyfyrwyr y coleg wedi derbyn graddau Safon Uwch A*-C, tra mae 88% o fyfyrwyr BTEC wedi cael gradd lwyddo neu’n uwch dros 48 o wahanol feysydd pwnc galwedigaethol – gyda llawer o’r myfyrwyr yn derbyn y newyddion yng Ngŵyl Ffarwel y Coleg a gynhelir ar gampysau Blaenau Gwent, Crosskeys, a Thorfaen.

Mae Rebecca Saunders o Flaenau Gwent ac Amy Louise White o Bont-y-cymer ymysg y llu o fyfyrwyr sy’n gorfoleddu ac yn paratoi i ddechrau eu gyrfaoedd delfrydol ar ôl derbyn eu canlyniadau.

Mae Rebecca (Bec) Saunders, fu’n astudio Diploma i Ymarferwyr Cerddoriaeth Lefel 3, wedi rhoi ei bryd ar fynd i stiwdio recordio wedi iddi dderbyn rhagoriaeth (D*) heddiw. Yn dilyn anogaeth ei thiwtoriaid, dechreuodd Bec bostio perfformiadau ar-lein, a daeth y rheiny i sylw Jack Gourley -, y cynhyrchydd a’r cyfansoddwr sydd wedi gweithio â rhai o fawrion y diwydiant megis James Arthur, Jess Glynne, a Tom Odell.

Wrth iddi droedio tuag at y llwyfan, bydd Bec yn dechrau cwrs Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol ym Mhrifysgol ym mis Medi.

Pan ofynnwyd am ei barn ar ei hastudiaethau, dywedodd Bec: “Symud i Goleg Gwent oedd y penderfyniad gorau a wnes. Pan ddechreuais ar y cwrs, nid oedd gennyf unrhyw hyder wrth berfformio o flaen eraill, heb sôn am berfformio ar lwyfan. Hoffwn ddiolch i’m tiwtoriaid am eu hanogaeth gyson a’u cefnogaeth.

”Rwy’n edrych ymlaen at y bennod nesaf yn fy mywyd, yn astudio cerddoriaeth mewn prifysgol a theithio o amgylch y DU yn hyrwyddo fy EP newydd, fydd gobeithio, wedi’i chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.”

Un o’i chyfoedion yn Coleg Gwent yw Amy Louise White -, myfyriwr Safon Uwch mewn Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol -, sydd wedi cael ei derbyn ar gynllun prentisiaeth pedair blynedd gyda chwmni enfawr Sony, yn canolbwyntio ar beirianneg meddalwedd, ar ôl derbyn (A*, B, B) yn ei arholiadau Safon Uwch heddiw.

Wrth drafod ei dyheadau, dywedodd Amy: “Rwyf wedi ymddiddori mewn cyfrifiadura ers yn ifanc iawn. Fel merch o fewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ngrymuso i fod ymysg y ganran fechan o ferched ym myd cyfrifiadureg.

“Wedi imi gwblhau fy mhrentisiaeth, rwy’n gobeithio dilyn gyrfa o fewn y cwmni ac o bosibl symud ymlaen i addysgu prentisiaethau yn y dyfodol – a hynny er mwyn ysbrydoli mwy o ferched ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym maes cyfrifiadureg.”

Yn ychwanegol at lwyddiannau BTEC a Safon Uwch, llwyddodd dros 116 o oedolion sy’n ddysgwyr i gwblhau eu cyrsiau Mynediad at Addysg Uwch gyda Coleg Gwent gan symud ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn prifysgol.

Ychwanegodd Nicola Gamlin, Dirprwy Bennaeth: “Bob blwyddyn, mae dysgwyr ar draws pob campws yn Coleg Gwent yn ein siomi o’r ochr orau. Maent yn parhau i hyrwyddo’r ystod amrywiol o gyrsiau sydd ar gael gennym ac arddangos y sgiliau y maent wedi’u datblygu yma.

“Hoffwn ddiolch i’r myfyrwyr a’r staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Edrychwn ymlaen at weld y talentau a ddatblygwyd yma yn Coleg Gwent yn dilyn gyrfaoedd newydd mewn diwydiannau ledled Cymru a thu hwnt.”

Darllenwch fwy am ein straeon llwyddiant dysgwyr!