En
Coleg Gwent students celebrating results

Llongyfarchiadau i ddosbarth 2023


17 Awst 2023

Mae heddiw yn ddiwrnod o ddathlu ar gyfer myfyrwyr Coleg Gwent, wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau BTEC, UG a Lefel A.

Mae ein campysau yn fwrlwm o gyffro wrth i gannoedd o fyfyrwyr ymgynnull ar gyfer yr Ŵyl Ffarwel flynyddol.

Mae 97.4% o fyfyrwyr y coleg wedi derbyn graddau Safon Uwch A*-C, tra mae 88% o fyfyrwyr BTEC wedi cael gradd lwyddo neu’n uwch dros 48 o wahanol feysydd pwnc galwedigaethol.

Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio’n galed i gyflawni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion.

Dyma rai o’n straeon llwyddiant:

Alice Townsend

Alice Townsend

Oed
18
Campws
Crosskeys
Cwrs
Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg, Hanes a’r Gyfraith
Graddau
A A A*

Fy mhrif gyflawniad yn y coleg yw cael lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio’r Gyfraith ar ôl cwblhau fy arholiadau Safon Uwch. Roedd bod yn Coleg Gwent yn gymorth i mi gael lle mewn ysgolion haf ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Tristan Isaac-King

Tristan Isaac-King

Oed
18
Campws
Parth Dysgu Torfaen
Cwrs
Safon Uwch Mathemateg, Ffiseg a Daearyddiaeth
Graddau
A* A* A*

Wrth ddewis fy nghyrsiau Safon Uwch – Mathemateg, Ffiseg a Daearyddiaeth – y brif ystyriaeth oedd gen i mewn golwg oedd peirianneg sifil. Rwy’n gobeithio cwblhau cwrs meistr mewn Peirianneg Sifil, yn ddelfrydol gyda blwyddyn yn y gweithle fel bod gen i beth profiad i helpu gyda’m cyflogadwyedd pan fyddaf wedi cwblhau’r radd.

Carys Wilkins

Carys Wilkins

Oed
18
Campws
Crosskeys
Cwrs
Safon Uwch Bioleg, Cemeg a Mathemateg
Graddau
A* A* A*

Os byddaf yn cyflawni’r graddau angenrheidiol i fodloni fy nghynnig, byddaf yn mynd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Seren Roberts

Seren Roberts

Oed
18
Campws
Crosskeys
Cwrs
Safon Uwch Cymdeithaseg, Seicoleg a Gwleidyddiaeth
Graddau
C B B

Un o’r adegau mwyaf balch i mi yn Coleg Gwent oedd cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau mewn amgylchedd ehangach. Rwy’n unigolyn swil iawn gan amlaf, ac erbyn hyn mae gen i ffrindiau – a bydd un yn byw gyda mi yn Aberystwyth! Byddaf yn astudio Seicoleg yn y brifysgol yno.

Fran Dare

Fran Dare

Oed
18
Campws
Parth Dysgu Torfaen
Cwrs
Uwch Bioleg, Cemeg a Chymdeithaseg
Graddau
C A B

Rwy’n dyheu i fod yn Fiocemegydd. Rwyf eisiau dilyn cwrs is-raddedig mewn Biocemeg ac yna swydd yn gwneud gwaith ymchwil gobeithio. Bûm yn lwcus i fod yn rhan o’r Rhwydwaith Seren a roddodd gyfle i mi gymryd rhan yn y Wobr Seren, a chefais radd dosbarth cyntaf. Drwy hynny, cefais gyfle i fabwysiadu’r sgiliau a thechnegau i ymchwilio’r maes rwy’n frwd drosto a dysgu cymaint mwy.

Max with ballons

Max Maidment-Nutt

Oed
19
Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Safon Uwch Cemeg, Mathemateg a Mathemateg Bellach
Graddau
D A C

Y prif beth mae’r coleg a’r darlithwyr wedi ei roi i mi yw’r hyder a’r arweiniad a oedd ei angen arnaf i gyflawni fy nodau a’r graddau. Rwy’n bwriadu mynd i Brifysgol Bryste i astudio Technoleg Gemau, pwnc y cafodd fy niddordeb ei danio ynddo ar ôl i mi gymryd rhan mewn prosiectau ymarferol mewn cyfrifiadureg.

Shakira Primus

Shakira Primus

Oed
18
Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
Graddau
A B

Dewisais y cwrs hwn oherwydd fy mod yn frwd dros ofalu am bobl sydd mewn angen a’u cynorthwyo. Byddaf yn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio Nyrsio Iechyd Meddwl.

Thomas Ryan

Thomas Ryan

Oed
18
Campws
Crosskeys
Cwrs
Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg, Daearyddiaeth, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Graddau
A* A* A*

Dewisais astudio Safon Uwch yn Coleg Gwent gan fy mod yn ymwybodol o enw eithriadol o dda y coleg yn sgil y canlyniadau a’r safonau rhagorol flwyddyn ar ôl blwyddyn a roddodd hyder i mi y byddai Coleg Gwent yn lle gwych i mi barhau â’m dysgu. Ar ôl gadael y coleg, rwy’n bwriadu astudio cwrs is-raddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Warwig.

Alicia Bailey

Alicia Bailey

Oed
20
Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Cyfrifiadura Cyber College
Graddau
Rhagoriaeth (D D D)

Dewisais Cyber College oherwydd bod gen i ddiddordeb mawr mewn technoleg a sut mae’r datblygiad mewn diogelwch seiber yn tyfu. Roeddwn wastad wedi bod eisiau dangos a chydnabod bod merched yn gallu ymwneud â diogelwch seiber, a thechnoleg yw’r maes rwyf fwyaf gwybodus ynddo.

Lucy Parfitt

Lucy Parfitt

Oed
20
Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Uwch Cymraeg, Astudiaethau Crefyddol a Chymdeithaseg
Graddau
B A A

Un o fy mhrif gyflawniadau yn y coleg oedd ennill gradd A ym mhob un o fy arholiadau UG, a oedd yn hollol annisgwyl. Ar ôl gadael y coleg, byddaf yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Seicoleg ac Addysg.

Emily Davies

Emily Davies

Oed
18
Campws
Crosskeys
Cwrs
Safon Uwch Saesneg, Hanes a Seicoleg
Graddau
A* A A*

Fy mhrif gyflawniad mwy na thebyg oedd cwblhau fy nghymwysterau Uwch Gyfrannol. Oherwydd Covid, hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o sefyll arholiadau, ac roedd cael tair A ar ddiwedd hynny’n bleser mawr ac yn rhoi hwb i hyder rhywun i wynebu’r flwyddyn olaf. Rwy’n astudio Seicoleg gyda blwyddyn ar leoliad, ym Mhrifysgol Caerfaddon gobeithio, gyda’r nod o fynd i’r maes seicoleg glinigol.

Laura Lewis

Laura Lewis

Oed
18
Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
Graddau
A B

Dewisais y cwrs hwn gan ei fod yn fy ngalluogi i gymryd y cam nesaf tuag at fy nyfodol mewn meddygaeth gyda’r freuddwyd o helpu pobl ar yr adegau anoddaf ac i fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau a fydd yn hanfodol wrth weithio gyda’r GIG. Ar ôl gadael y coleg, rwy’n edrych ymlaen at fy nhaith prifysgol ym Mhrifysgol De Cymru lle byddaf yn astudio Nyrsio Oedolion gyda’r nod o ddod yn Nyrs Gofrestredig.