En
Access to HE learners

Barod i newid gyrfa? Mynediad i AU yw eich llwybr at radd


15 Mehefin 2023

Mae rhai yn dweud fod addysg yn daith gydol oes, ac rydym yn sicr yn cytuno â hynny yma yn Coleg Gwent. Rydym yn cydnabod fod llawer ohonom yn cymryd seibiant o addysg ar wahanol adegau o’n bywydau, gan fynd yn ôl a ‘mlaen at addysg ar adegau sy’n gweddu orau i ni. Wedi’r cyfan, mae addysg yn parhau hyd yn oed ar ôl i ni adael yr ysgol yn 16 oed. Mae’n parhau yn y coleg, y brifysgol yn y gweithle a’r gymuned ehangach fel rhan o’n bywydau dydd i ddydd. Felly, waeth lle rydych chi wedi cyrraedd mewn bywyd na pha daith addysgiadol rydych wedi bod arni hyd yn hyn, nid yw hi fyth yn rhy hwyr i ddysgu sgil newydd, dilyn hobi, breuddwyd neu archwilio llwybr cwbl newydd fel gyrfa.

Rhowch Gynnig ar Fynediad i AU

Cyrsiau Diploma Mynediad i AU yw eich llwybr at radd. Mae llawer o bobl yn dewis astudio cwrs Mynediad i AU yn Coleg Gwent am eu bod nhw eisiau newid gyrfa, neu eisiau mynd i’r brifysgol, ond nid oes ganddynt y cymwysterau traddodiadol sydd eu hangen i ymgeisio. A gyda mwy o bobl nag erioed yn ymgeisio i astudio nyrsio neu feddygaeth yng Nghymru, penderfynodd Rosalind Spooner astudio Mynediad i Wyddor Feddygol ac Iechyd ar Gampws Dinas Casnewydd. Dywedodd;

Learner Rosalind Spooner smiling

“roeddwn wedi cael llond bol o beidio â gallu datblygu yn fy swydd bresennol, ond mae dod i’r coleg wedi fy ngalluogi i gael goressgyn y rhwystr hwnnw.”

Mae cyrsiau Mynediad yn gymwysterau lefel 3, ac yn gymeradwy â chymwysterau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru. Maent yn eich paratoi chi ar gyfer y gofynion astudio ar lefel radd israddedig ac yn darparu llwybr i mewn i’r brifysgol i chi. Mae’r llwybr carlam blwyddyn hwn i Addysg Uwch yn cael ei dderbyn yn eang ar gyfer mynediad i brifysgolion ym Mhrydain, a byddwch yn meithrin y wybodaeth a’r sgiliau astudio perthnasol sydd eu hangen arnoch i ddatblygu a llwyddo. Roedd Paul Davies eisiau dod yn feddyg gyda’r GIG, ond nid oedd yn gwybod pa lwybr fyddai orau i gyflawni hyn, a pha gwrs oedd ei angen arno i gwblhau er mwyn mynd i’r brifysgol. Felly, penderfynodd astudio Mynediad i Ofal Iechyd ar Gampws Dinas Casnewydd, a dywedodd;

Learner Paul Davies smiling

“roedd y tiwtoriaid yn fy helpu gyda gwahanol fathau o gymorth dysgu, a hyd yn oed datblygu fy sgiliau Mathemateg a Saesneg o’r ysgol hefyd.”

Ond, gall dychwelyd at addysg fel dysgwr hŷn ar ôl seibiant fod yn anodd, a gall mynd yn ôl i’r dosbarth deimlo’n frawychus. Felly, mae’r cyrsiau hyn wedi’u dylunio i fod yn heriol, a byddant yn eich gwthio chi i ddatblygu’n bersonol, yn academaidd ac yn broffesiynol, ond ni chewch eich bwrw i’r dyfroedd dyfnion yn syth. Byddwch yn cael cefnogaeth ar hyd y daith yma yn Coleg Gwent, a byddwn yn eich helpu chi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr er mwyn cael gyrfa lwyddiannus yn y maes o’ch dewis, i astudio yn y brifysgol, a’ch paratoi chi i lwyddo. Astudiodd Ella-Louise Fynediad i Ddyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol a dywedodd; “gan fy mod yn ofalwr i fy nhad, rwyf wedi cael cyfnodau lle nad oeddwn yn ymdopi â’r llwyth gwaith, ond gyda chymorth tiwtoriaid, roeddwn yn gallu ffynnu yn y cwrs. Gwnaeth y cwrs Mynediad fy mharatoi’n llawn ar gyfer y brifysgol, a deud y gwir, roedd blwyddyn 1 a 2 yn llawer haws o’i gymharu. Dywedodd fy mhrifysgol wrthyf fod myfyrwyr Mynediad ar gyfartaledd yn gwneud yn well drwy gydol eu gradd na myfyrwyr sydd wedi cael y gofynion mynediad drwy ddulliau mwy traddodiadol.”

Bydd ein cyrsiau Mynediad yn adnewyddu’ch sgiliau astudio, yn rhoi hwb i’ch hyder, ac yn dysgu technegau newydd i chi fydd yn eich helpu ar eich taith at ddod yn fyfyriwr llwyddiannus yn y brifysgol, sy’n golygu fod gradd brifysgol ar flaenau eich bysedd, hyd yn oed os nad oes gennych gymwysterau blaenorol ac nad ydych wedi astudio ers blynyddoedd. Does dim cyfyngiadau oed, dim rhagofynion ar gyfer cymwysterau a dim byd yn eich atal rhag cyrraedd y sêr! Dywedodd Cait Griffins, dysgwr Mynediad i Nyrsio AU wrthym ni;

Learner Cait Griffin smiling

“Roedd yr ysgol yn anodd i mi gan nad oedd gennyf ddigon o gefnogaeth. Ond, ers bod yn Coleg Gwent, rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd, magu hyder a fy nod tymor hir nawr yw dod yn Nyrs Damweiniau ac Achosion Brys.”

I ble fydd Mynediad i AU yn fy arwain?

Mae cyrsiau Mynediad i AU yn agor drysau at lwybrau gyrfa newydd a chyffrous mewn amrywiaeth o feysydd pwnc poblogaidd. Felly, gallwch gyflawni eich nodau a’ch dyheadau ar unrhyw gam o’ch bywyd. Bob blwyddyn, mae oddeutu 20,000 o fyfyrwyr Mynediad i AU yn gwneud ceisiadau i brifysgolion Prydain, ac maent yn mynd ymlaen i astudio amrywiaeth eang o bynciau lefel israddedig, ac yn dilyn llwybrau gyrfaol newydd a chyffrous. Yn wir, mae 90% o raddedigion gyda Diploma Mynediad i AU yn dod o hyd i waith, neu’n gwneud astudiaeth bellach, chwe mis ar ôl graddio!

Felly, pa un ai ydych eisiau dod yn Gyfreithiwr, Seicolegydd, Deintydd, Banciwr, Gweithiwr Cymdeithasol neu’n Fiolegydd Morol, mae digon o lwybrau Mynediad i AU ar gael yn Coleg Gwent er mwyn ail gydio yn eich addysg a chyfoethogi eich gyrfa:

Gwnewch gais nawr i ddechrau eich taith at radd fis Medi ar gampws eich coleg lleol!