En

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Mynediad at Addysg Uwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr hyn sydd â diddordeb a brwdfrydedd parhaus mewn plismona a'r gwasanaethau cyhoeddus ehangach, ac unigolion sydd eisiau dilyn gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... yn dymuno mynd i'r brifysgol, ond wedi gadael yr ysgol heb y cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi

... rydych chi eisiau paratoi ar gyfer astudio ar lefel Prifysgol

... mae gennych chi ddiddordeb brwd mewn plismona a'r gwasanaethau cyhoeddus

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer astudio plismona a gwasanaethau cyhoeddus ar lefel gradd, a bydd yn gyflwyniad da at astudio gradd mewn troseddeg.

Wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr hyn sydd â diddordeb a brwdfrydedd parhaus mewn plismona a'r gwasanaethau cyhoeddus ehangach, mae'r cwrs hwn yn cynnig profiad dysgu rhagorol i chi, diolch i gyfleusterau gwych Parth Dysgu Blaenau Gwent.

Bydd gennych brofiad bywyd y tu hwnt i addysg prif ffrwd ar ôl bod allan o addysg orfodol am ddwy flynedd neu fwy.

Amcan y cwrs yw darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i ddatblygu eich gallu a'ch paratoi chi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ennill graddau a dyfarniadau eraill.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau gyda ffocws ar Blismona Modern, Pwerau'r Heddlu, Safbwynt ar Blismona, Troseddeg, Cyfraith Droseddol, Ffynonellau’r Gyfraith, Deall Safleoedd Trosedd, Seicoleg Droseddol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Timau Amlddisgyblaethol, Ffitrwydd, Gwytnwch a Llesiant Meddwl, yn ogystal ag Ymddygiadau Proffesiynol. Byddwch hefyd yn astudio unedau sgiliau allweddol mewn cyfathrebu a rhifedd, ac yn cwblhau prosiect archwilio.

Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun. Rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn ennill Diploma Mynediad at Blismona Agored Cymru.

Gofynion Mynediad

Mae TGAU Saesneg a Mathemateg Gradd C neu uwch yn ddymunol.

Bydd gofyn i ddysgwyr heb gymwysterau ymgymryd ag asesiad Rhifedd a Llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf fel rhan o’r cwrs.

Ble alla i astudio ?

EFAC0038AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr